Gwaed Ar Y Sêr

Oddi ar Wicipedia
Gwaed Ar Y Sêr
Cyfarwyddwr Wil Aaron
Ysgrifennwr Wil Sam, Dafydd Huw Williams
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
Dyddiad rhyddhau 1975
Amser rhedeg tua 45 munud
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg

Ffilm Gymraeg arswyd yw Gwaed Ar Y Sêr a ryddhawyd ym 1975. Cafodd y ffilm ei gynhyrchu gan y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg a'i gyfarwyddo gan Wil Aaron. Fe'i saethwyd mewn 10 diwrnod am gost o £6,000.

Mae'r stori yn dilyn hen ddyn - Shadrach Smith (Grey Evans) a'i gôr o blant ysgol sydd yn ceisio atal nifer o enwogion rhag ymddangos mewn cyngerdd fawreddog yn y neuadd bentref lleol drwy eu llofruddio mewn amryw ffyrdd.

Ymysg yr enwogion mae Hywel Gwynfryn, Dafydd Iwan yn ymddangos fel ei hunain a Stewart Jones yn ei gymeriad Ifans y Tryc. Ysgrifennwyd y sgript gan Dafydd Huw Williams a Wil Sam (a greuodd cymeriad Ifans y Tryc) gyda trigolion ardal Nant Peris yn actorion ychwanegol. Disgyblion Ysgol Brynrefail oedd yn chwarae y plant cythreulig/felltithiedig.[1]

Fe ddarlledwyd y ffilm ar S4C ar 2 Chwefror 2013.

Cast a chymeriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Archifau a Llawysgrifau LlGC. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 20 Mai 2016..