Charles Williams

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Charles Williams
Ganwyd 8 Medi 1915 Edit this on Wikidata
Bodffordd Edit this on Wikidata
Bu farw 19 Chwefror 1990 Edit this on Wikidata (74 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Actor Edit this on Wikidata
Plant Idris Charles Edit this on Wikidata
Llyfr cofiant Wel Dyma Fo

Actor a diddanwr o Gymro oedd Charles Williams (8 Medi 191519 Chwefror 1990).[1] Cafodd yrfa hir ar lwyfan, radio a theledu ond efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus am chwarae'r cymeriad Harri Parri ar Pobol y Cwm.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Charles Williams mewn tyddyn bach o'r enw Penffordd ym Modffordd, Ynys Môn. Gadawodd yr ysgol yn 13 mlwydd oed ac aeth i weithio fel gwas ffarm ar ffermydd lleol. Drwy gydol ei yrfa, bu'n gweithio ar y tir yn achlysurol er mwyn ennill arian ychwanegol.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cychwynnodd ei brofiad o actio drwy gynhyrchu a pherfformio mewn dramâu capel. Gwelodd Cynan ef yn perfformio mewn eisteddfod ac awgrymodd y byddai'n berffaith ar gyfer rhan William Jones yn nramâu PH Burton yn Llundain. Er bod nifer wedi ymgeisio, cafodd Charles y rhan. Wedi hynny cafodd waith gyda Chwmni Theatr Cymru, gyda Cynan yn cynhyrchu a Charles yn chwarae'r prif rannau.

Dechreuodd ei yrfa radio yn y 1940au gyda'r BBC a gwnaeth ei enw ar raglen boblogaidd y Noson Lawen a ddarlledid o Neuadd y Penrhyn, Bangor dan gyfarwyddiaeth Sam Jones.

Ymddangosodd hefyd yn yr Archers am tua saith mlynedd, yn actio'r ffermwr Haydn Evans gyda John Ogwen yn chwarae rhan ei fab.

Cychwynnodd yr opera sebon Pobol y Cwm yn 1974 a Charles ynganodd y geiriau cyntaf ar y gyfres wrth i'w gymeriad Harri Parri gyfarch Magi Post (Harriet Lewis) gyda "Bore da, Maggie Mathias".[2]

Un o'i hoff gymeriadau i chwarae oedd y ffermwr yn nrama S4C Hufen a Moch Bach, addasiad teledu o'r llyfr o'r un enw, gan y Parchedig Harri Parri.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn ddyn crefyddol ac yn aelod ffyddlon o Gapel Methodistaidd y Gad, Bodffordd, cyn gadael ac ymuno â'r annibynnwyr yng nghapel Sardis. Er y bu'n gweithio am gyfnodau hir yng Nghaerdydd, roedd ei gartref o hyd ym Modffordd. Roedd yn briod a Jini, a magodd chwech o blant mewn tŷ cyngor yno.

Cyhoeddodd ei gofiant Wel Dyma Fo yn 1983. Un o'i feibion yw'r diddanwr Idris Charles a ysgrifennodd gofiant i'w dad, Charles - Cofio'r Dyn a'i Ddigrifwch, yn 2015.

Bu farw yn 75 mlwydd oed ac mae wedi'i gladdu yn Eglwys y Plwyf, Bodffordd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Medi 8fed 1915 y ganwyd fy nhad Charles Williams, heddiw yw diwrnod y canmlwyddiant. Bu'n diddanu Cymry am 60 mlynedd. Idris Charles (8 Medi 2015). Adalwyd ar 24 Ebrill 2018.
  2.  Charles Williams. BBC Cymru. Adalwyd ar 24 Ebrill 2018.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]