Harriet Lewis
Gwedd
Harriet Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 26 Awst 1920, 24 Ebrill 1911 Trebannws |
Bu farw | 25 Tachwedd 1999, 24 Tachwedd 1999 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, athro |
Athrawes ac actores o Gymru oedd Harriet Lewis (26 Awst 1920 – 25 Tachwedd 1999) oedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae Magi 'Post' Mathias ar Bobol y Cwm.[1]
Ganwyd hi yn Nhrebannws, Cwmtawe.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn 1959 penodwyd Lewis yn brifathrawes ar Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Nedd pan oedd eisoes yn adnabyddus ym myd radio a theledu. Yna yn 1964 fe'i penodwyd yn brifathrawes Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe.[2]
Aeth ymlaen i fod yn actores broffesiynol ac fe ymunodd a'r gyfres Pobol y Cwm o'r cychwyn yn 1974.
Teledu
[golygu | golygu cod]- Pobol y Cwm
- The District Nurse
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Veteran soap opera actress dies (en) , BBC News, 25 Tachwedd 1999.
- ↑ Llyfr Dathlu 50 mlynedd Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Nedd.