Neidio i'r cynnwys

William R. Lewis

Oddi ar Wicipedia
William R. Lewis
Ganwyd1948 Edit this on Wikidata
Llangristiolus Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, athro Edit this on Wikidata

Dramodydd, beirniad ac athro sy'n hanu o Sir Fôn yw William Robert Lewis (ganwyd 1948). Magwyd Dr William Lewis yn Llangristiolus a Llangefni.  Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llangefni a Choleg Gogledd Cymru, Bangor, rhwng 1959 a 1966. Rhwng 1973 a 1978 bu'n athro Cymraeg a Drama yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, a chyn hynny yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Cyn ymddeol, bu'n Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru, Bangor am dros bum mlynedd a deugain. Cychwynnodd yn y Coleg ym mis Medi 1978.[1] Ei briod faes oedd y ddrama a’r theatr Ewropeaidd, y ddrama a’r theatr yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif.[2]

Enillodd Dlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dwyfor ym 1975 gyda'r ddrama feiddgar Geraint Llywelyn. a bu'n feirniad ar y gystadleuaeth sawl gwaith wedi hynny.

Bu hefyd yn aelod o Fwrdd Artistig Cwmni Theatr Gwynedd ac yn aelod o dîm sgriptio'r cyfresi Pobol y Cwm ac Halen yn y Gwaed.

Gan ei fod wedi ysgrifennu gweithiau ar gyfer y llwyfan, radio a theledu, dysgai hefyd gyrsiau creadigol i’w fyfyrwyr. Mae ganddo brofiad helaeth fel cyfarwyddwr theatr, ac wedi cyfarwyddo sawl drama o eiddo John Gwilym Jones a Saunders Lewis. Cyhoeddodd sawl astudiaeth feirniadol ar natur gwaith John Gwilym Jones. Mae ganddo diddordeb yn nramâu Cymraeg yr ugeinfed ganrif, yn arbennig gweithiau W.J.Gruffydd.

Bu'n ddylanwad mawr ar nifer o ddramodwyr gan gynnwys Manon Wyn Williams.[3]

Dramâu

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Gwefan Linked-In Yr Athro William R Lewis". Linked In. 19 Awst 2024.
  2. "Darlith a thrafodaeth gan Dr William Lewis". Llenyddiaeth Cymru. Cyrchwyd 2024-08-20.
  3. WalesOnline (2007-05-30). "Manon's monologue wins Drama Medal". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-20.