Gwyn Elfyn

Oddi ar Wicipedia
Gwyn Elfyn
GanwydGwyn Elfyn Lloyd Jones Edit this on Wikidata
29 Chwefror 1960 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Actor Cymreig yw Gwyn Elfyn (ganwyd 29 Chwefror 1960), sydd fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Denzil Rees ar opera sebon Pobol y Cwm ers 1984. Daeth ei rôl yn y rhaglen i ben yn 2012, wedi 28 mlynedd yn portreadu'r cymeriad.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Gwyn Elfyn Lloyd Jones yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor yn fab i'r Parchedig Tudor Lloyd Jones a Deilwen Medi Jones. Magwyd yn Deiniolen lle roedd ei dad yn weinidog ar gapel Ebeneser. Symudodd y teulu i Garno yn 1963, lle ganwyd Bethan, chwaer i Gwyn, yn Medi 1964. Yn Nhachwedd 1964 symudodd y teulu eto i Borthmadog. Yn Hydref 1968 symudodd y teulu i Drefach ger Caerfyrddin a fe arhosodd yn yr ardal ers hynny. Yn fab i weinidog roedd yn cael ei adnabod fel Gwyn y Mans yng Nghwm Gwendraeth.[2]

Aeth i Ysgol Gynradd Drefach ac Ysgol Ramadeg y Gwendraeth[3] cyn astudio drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl graddio, cafodd ei swydd actio cyntaf gyda Cwmni Theatr Crwban. Yn 1984, daeth cynhyrchydd Pobol y Cwm ar y pryd, Myrfyn Owen, i'w weld yn perfformio gyda'r cwmni ac fe gynigwyd rhan yn yr opera sebon iddo.[4]

Yn 2016 cafodd ei sefydlu fel gweinidog eglwys Bethesda, Y Tymbl.[5]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n briod a Caroline a mae ganddynt ddau fab, Rhodri a Rhys.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Pobol y Cwm star Gwyn Elfyn quits drama after nearly 28 years. BBC (5 Ionawr 2012).
  2. Elfyn, Gwyn (Hydref 2012). Gwyn y Mans: Hunangofiant Gwyn Elfyn. Y Lolfa. ISBN 9781847715128
  3.  Cristion - Dod I Nabod, Gwyn Elfyn (Mai/Mehefin 1998). Adalwyd ar 25 Ionawr 2016.
  4. 4.0 4.1  O Gwm i Gwm: Hunangofiant Gwyn Elfyn. Y Lolfa. Adalwyd ar 25 Ionawr 2016.
  5.  Sefydlu tri Gweinidog. Undeb yr Annibynwyr (18 Mai 2016). Adalwyd ar 21 Tachwedd 2018.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]