Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Crogi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Dynodwyr


Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
BBC Bitesize
Newidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Crogi yw hongian rhywun â rhaff o amgylch y gwddf.[1] Roedd lladd pobl drwy grogi yn gosb gyffredin am y troseddau mwyaf difrifol, fel dynladdiad, llofruddiaeth, dwyn a lladrata tan ddechrau’r 19eg ganrif. Yn ystod y 19eg ganrif gostyngodd llawer o wledydd y defnydd o grogi fel math o gosb eithaf. Fodd bynnag, mewn rhai gwledydd mae marwolaeth drwy grogi yn dal i fod yn fath cyfreithiol o gosbi troseddwyr.

Mae crogi hefyd yn ddull cyffredin o hunanladdiad, pan fydd rhywun yn clymu rhywbeth o gwmpas y gwddf, gan arwain at fynd yn anymwybodol ac yna at farwolaeth drwy grogi neu grogi rhannol.

Hanes crogi yn y Deyrnas Unedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Peintiad o grogi gan Pisanello, 1436–1438

Erbyn dechrau'r 19eg ganrif, roedd y Cod Gwaedlyd yn rhestru dros 200 o droseddau y gellid eu cosbi drwy grogi, oedd yn amrywio o lofruddiaeth a gwneud arian ffug i ddwyn defaid, dwyn o bocedi, neu ddwyn pysgodyn o lyn. Roedd llawer o feirniaid y cod cosbi hwn yn ei weld yn annynol a llawer o reithgorau yn osgoi rhoi'r gosb eithaf fel dedfryd am rai o’r mân droseddau. Byddai llawer yn defnyddio alltudiaeth yn lle'r gosb eithaf.[2]

Yn 1823, dileodd Robert Peel, yr Ysgrifennydd Cartref, y gosb eithaf ar gyfer dros 180 o droseddau, a olygai mai dim ond pum trosedd yr oedd modd eu cosbi gyda’r gosb eithaf ar ôl hynny. Yn eu plith roedd môr-ladrata, ysbïo, teyrnfradwriaeth, llofruddiaeth a dinistrio iard ddociau neu storfa arfau'r Llynges.[3]

Roedd gan y mwyafrif o drefi a dinasoedd fan dienyddio neu lwyfan ar gyfer dienyddio cyhoeddus. Hyd at 1868 roedd dienyddiadau yn cael eu cynnal yn gyhoeddus a byddai tyrfaoedd mawr yn ymgynnull i weld y digwyddiad. Yn Llundain, un o’r prif fannau crogi oedd Tyburn, ger safle'r Marble Arch heddiw, a dyma lle dienyddiwyd rhai o arweinyddion y Bererindod Gras yn 1537. Roedd hon yn orymdaith gan y rhai a oedd yn gwrthwynebu penderfyniad Harri VIII i gau’r mynachlogydd. Roedd Rowland Lee yn brolio ei fod wedi crogi tua 5,000 o ddrwgweithredwyr yng Nghymru wedi iddo gael ei benodi gan Harri VIII i geisio sefydlu cyfraith a threfn yng Nghymru cyn pasio’r Deddfau Uno.[2] Fel arfer, arweiniwyd y troseddwyr ar gefn trol at y crocbren ac roedd disgwyl iddynt gyfaddef eu bod yn euog ac edifarhau cyn iddynt gael eu dienyddio.[4]

Defnyddiwyd y gosb eithaf yn llai aml yn y Deyrnas Unedig yn yr 20fed ganrif. Defnyddiwyd crogi fel cosb am y tro olaf yn y Deyrnas Unedig ym 1964, cyn i'r gosb eithaf gael ei hatal am lofruddiaeth ym 1965 a'i diddymu am byth ym 1969.

Crogi yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd crogi yn gosb gyffredin yng Nghymru yn yr un modd â gweddill y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru defnyddiwyd crogi hefyd gan yr awdurdodau i orfodi cyfraith Lloegr ac i dawelu gwrthryfela.

Roedd Rowland Lee yn brolio ei fod wedi crogi tua 5,000 o ddrwgweithredwyr yng Nghymru wedi iddo gael ei benodi gan Harri VIII i geisio sefydlu cyfraith a threfn yng Nghymru cyn pasio’r Deddfau Uno.[2]

Ni ellid dibynnu ar y dienyddwyr i wneud eu gwaith yn lân a chyflym. Weithiau byddai’r rhaff yn torri neu’r trawst yn dod yn rhydd. Dyma ddigwyddodd wrth grogi David Evans yng Nghaerfyrddin yn 1829. Syrthiodd i’r llawr fel ‘pelen canon allan o fagnel’ yn ôl disgrifiad un o bapurau newydd y cyfnod. Hawliodd ei ryddid oherwydd y gred gyffredinol na ellir crogi neb ddwywaith. Ond, cydiwyd ynddo ef a’i roi yn ôl yn yr un safle, a chafodd ei grogi gyda sŵn pobl yn bloeddio yn y cefndir y dylai gael ei adael yn rhydd.[5] Roedd crogwyr yn feddw yn aml iawn. Cafodd Lewis Francis, crogwr rhan-amser Sir Forgannwg, ei ddisgrifio ar ddiwedd y 18fed ganrif fel ‘meddwyn, lleidr a chardotyn’.[5]

Crogwyd Dic Penderyn, neu Richard Lewis, un o arweinyddion Gwrthryfel y Gweithwyr ym Merthyr ym Mehefin 1831, y tu allan i furiau Carchar Caerdydd yn Awst 1831 am iddo drywanu milwr o’r enw Donald Black adeg y Terfysg. Cyfaddefodd Ieuan Parker, flynyddoedd yn ddiweddarach, pan oedd ar ei wely angau draw yn America, mai ef oedd wedi trywanu’r milwr. Plediodd Dic Penderyn ei fod yn ddi-euog cyn iddo gael ei grogi, ac oherwydd hynny daeth yn ferthyr cyntaf y dosbarth gweithiol yng Nghymru.[6]

Roedd crocbren parhaol neu un dros dro gan y mwyafrif o drefi Cymru ar gyfer dienyddio cyhoeddus. Yng Nghaerdydd dyma’r rheswm y tu ôl i enw ardal sy’n cael ei galw heddiw yn Gyffordd Marwolaeth. Byddai troseddwyr yn cael eu gorfodi i gerdded o Garchar y Castell draw at y crocbren yn y lle hwn. Cafodd troseddwr ifanc ei grogi ar y twyni tywod y tu allan i Garchar Abertawe yn 1866, a chrogwyd troseddwyr yn gyhoeddus yng Nghaernarfon yn y tŵr crogi oedd yn rhan o furiau’r dref.[7]

Cyn 1870 roedd y rhai a gafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth naill ai’n cael eu cosbi drwy grogi neu dorri'r pen, ac wedyn byddent yn cael eu diberfeddu a'u pedrannu. Byddai pennau pobl aristocrataidd yn cael eu torri gyda bwyell, fel y digwyddodd yn nienyddiad cyfnither Elisabeth I, sef Mari, brenhines yr Alban yn 1587. Roedd y fwyell i fod sicrhau toriad mwy sydyn a glân i’r pen, ac felly llai o ddioddefaint i’r unigolyn.[7]

Cosbi ar ôl crogi[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Crogi, diberfeddu a chwarteru

Nid crogi oedd diwedd y gosb i ddynion a gafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth. Byddent yn cael eu crogi, ond byddai'r rhaff yn cael ei dorri tra'r oeddent yn dal yn fyw. Yna, rhwygwyd y perfeddion ymaith tra'r oedd yr unigolion yn parhau yn fyw. Byddent yn cael eu hysbaddu, byddai'r pen yn cael ei dorri i ffwrdd a byddai'r corff yn cael ei chwarteru drwy ei glymu i bedwar ceffyl a fyddai wedyn yn cael eu gyrru i bedwar cyfeiriad gwahanol.[5]

Ni fyddai cyrff merched yn cael eu darnio fel hyn, oni bai am achos o deyrnfradwriaeth llai difrifol, sef llofruddio gŵr neu feistr/meistres, lle mai’r gosb oedd llosgi i farwolaeth. Mae enghraifft o gosb fel hyn ar ddechrau’r 1770au yn achos morwyn a gyhuddwyd o ladd ei meistr.

Yn dilyn pasio Deddf Llofruddio 1753 roedd hawl trosglwyddo cyrff dynion neu wragedd i feddygon ar gyfer eu hagor a chynnal arbrofion. Roedd teulu’r troseddwr yn aml yn ceisio osgoi trosglwyddo'r corff i feddygon oherwydd roedd hyn yn ychwanegu at y cywilydd a’r sarhad i’r teulu.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Oxford English Dictionary, 2nd ed. Hanging as method of execution is unknown, as method of suicide from 1325.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Ad-daledigaeth ac ataliaeth yn y 18fed ganrif - Agweddau tuag at gosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-15.
  3. "Ad-daledigaeth ac ataliaeth o'r 19eg ganrif i'r 21ain ganrif - Agweddau tuag at gosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-15.
  4. "Defnyddio'r gosb eithaf yn gyhoeddus hyd at y 19eg ganrif - Dulliau cosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-15.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 Parry, Glyn. (2001). Naid i dragwyddoldeb : trosedd a chosb 1700-1900. National Library of Wales. Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 1-86225-029-4. OCLC 47726591.
  6. "Sut oedd crwydriaid yn cael eu trin yn oes y Tuduriaid - Dulliau cosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-15.
  7. 7.0 7.1 "Defnyddio'r gosb eithaf yn gyhoeddus hyd at y 19eg ganrif - Dulliau cosbi - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-15.