Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Math | conservatoire |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4856°N 3.1836°W |
Ysgol gerddoriaeth wedi'i lleoli yng Nghaerdydd yw Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, neu'r Coleg Cerdd a Drama fel y'i gelwir fel arfer. Mae cyn-fyfyrwyr y coleg yn cynnwys Geraint Jarman, Hywel Gwynfryn a Sara Lloyd-Gregory.
Hanes a disgrifiad
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y Coleg ym 1949 fel Coleg Cerddoriaeth Caerdydd yng Nghastell Caerdydd, ond ers hynny mae wedi symud i adeiladau ar dir y castell ym Mharc Bute ger Prifysgol Caerdydd. Yn ddiweddarach, newidiodd ei enw i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd, cyn derbyn y teitl Brenhinol yn Jiwbili Aur y Frenhines yn 2002, y bumed ysgol gerddoriaeth i dderbyn y teitl hwn.
Ers agor y Coleg, rhoddwyd ei raddau gan Brifysgol Cymru ac yn 2004 daeth y Coleg yn rhan o'r brifysgol ffederal. Fodd bynnag, yn 2007, gadawodd y Coleg y Brifysgol a daeth yn sefydliad annibynnol unwaith eto. Bellach rhoddir eu graddau gan Brifysgol De Cymru.[1]
Darpara'r coleg addysg a hyfforddiant yn y celfyddydau creadigol, gydag oddeutu dwy ran o dair o'i 550 o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau sy'n ymwneud â cherddoriaeth, gyda'r gweddill yn astudio cyrsiau sy'n ymwneud â drama. Mae'n ysgol gerddoriaeth All-Steinway. Prin yw'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sy'n cael ei chynnig yn y Coleg ar hyn o bryd.[2]
Cyrsiau israddedig
[golygu | golygu cod]Mae'r Coleg yn cynnig graddau israddedig yn y meysydd canlynol:
- BMus (Anrh) Cerddoriaeth
- BMus (Anrh) Jazz
- BA (Anrh) Actio
- BA (Anrh) Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol
- BA (Anrh) Cynllunio ar gyfer Perfformio
Cyrsiau ôl-raddedig
[golygu | golygu cod]Mae'r Coleg yn cynnig graddau ôl-raddedig yn y meysydd canlynol:
- MMus/Diploma ôl-radd mewn Perfformio Cerddoriaeth
- MMus/Diploma ôl-radd mewn Perfformio Cerddorfaol
- MMus/Diploma ôl-raddmewn Perfformio Hanesyddol
- MA/Diploma ôl-radd mewn Jazz
- MMus/Diploma ôl-radd yng Nghrefft y Repetiteur
- MMus/Diploma ôl-radd mewn Cyfansoddi
- MMus/Diploma ôl-radd mewn Cyfeilio ar y Piano
- MMus/Diploma ôl-radd mewn Arwain Cerddorfaol
- MMus/Diploma ôl-radd mewn Arwain Band Pres
- MMus/Diploma ôl-radd mewn Arwain Corawl
- MA Perfformio Opera
- MPhil PhD mewn Cerddoriaeth
- MA Actio Llwyfan, Sgrîn a Radio
- MA Theatr Gerddorol
- MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau
- MA Cynllunio ar gyfer Perfformio
- MA Rheolaeth yn y Celfyddydau
Cyn-fyfyrwyr
[golygu | golygu cod]- Angharad Rees
- Alexander Vlahos
- Aneurin Barnard
- Anthony Hopkins
- Camille Butcher
- Catrin Stewart
- Cefin Roberts
- Dafydd Dafis
- Dyfan Dwyfor
- Erin Richards
- Eve Myles
- Geraint Jarman
- Hywel Gwynfryn
- Ieuan Rhys
- Iris Jones
- Iris Williams
- Jacob Ifan
- Judith Humphreys
- Julian Lewis Jones
- Kate Jarman
- Katy Wix
- Mair Tomos Ifans
- Mark Lewis Jones
- Rachel K Collier
- Richard Elfyn
- Richard Elis
- Rob Brydon
- Ruth Jones
- Rhys Parry Jones
- Sara Lloyd-Gregory
- Siân Wheway
- Siwsann George
- Stephen Rees
- Tom Cullen
- Trystan Llŷr Griffiths
- Victor Spinetti
- Wynford Ellis Owen
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/grp-prifysgol-de-cymru/ Archifwyd 2017-07-02 yn y Peiriant Wayback Gwefan Prifysgol De Cymru. Adalwyd 2-07-2017
- ↑ http://www.cbcdc.ac.uk/addysg_cyfrwng_cymraeg.aspx Archifwyd 2016-09-24 yn y Peiriant Wayback Gwefan y Coleg (Addysg Cyfrwng Cymraeg). Adalwyd 2-07-2017
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Archifwyd 2017-06-26 yn y Peiriant Wayback