Sara Gregory

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sara Lloyd-Gregory)
Sara Gregory
Ganwyd19 Awst 1986 Edit this on Wikidata
Rhydaman Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Actores o Gymraes yw Sara Lloyd-Gregory (ganwyd 19 Awst 1986), sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Sara Gregory. Mae hi'n adnabyddus am nifer o rannau mewn dramâu Cymraeg ar S4C gan gynnwys Con Passionate, Blodau, Byw Celwydd a rhan blaenllaw yn y gyfres ddrama Alys ar S4C. Mae'n fwy hysbys i gynulleidfaoedd yng Ngogledd America am ei rôl fel Allison yn narllediad HBO o gyfres Sky1, Thorne: Sleepyhead.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yn Rhydaman yn ferch i'r canwr a digrifwr Adrian Gregory. Fe astudiodd bale ers oedd yn dri mlwydd oedd a roedd ei bryd ar fynd i byd dawns. Aeth i Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydaman ac Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa. Ar ôl mynd i Goleg Gorseinon i astudio celfyddyd perfformio cymerodd fwy o ddiddordeb mewn drama. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Roedd ei ymddangosiad cyntaf yn 2003 yn Stopping Distance, ffilm am gang treisiol lle mae'n ymddangos fel merch yn ei harddegau o'r enw Melanie.

Yn 2004, ymddangosodd ar lwyfan, y tro hwn fel Julie Osman—merch yn ei arddegau gyda tad Mwslimaidd o Dwrci a gafodd ei lofruddio gyda cymhelliad hiliol—yn A Way Of Life.

Yn 2006, gwnaeth ymddangosiad mewn ffilm ddadleuol gan bortreadu rôl merch o'r enw Serena yn Little White Lies. Roedd y ffilm yn gomedi a oedd yn dangos hiliaeth a oedd, fel A Way of Life, wedi ei ffilmio yn Ne Cymru.

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, bu'n serennu yn y bennod Torchwood "Day One" fel merch ifanc o'r enw Carys Fletcher sy'n cael ei meddu gan fod arallfydol sy'n bwydo oddi ar ynni orgasmic.

Yn 2007, daeth yn un o gast rheolaidd y ddrama Belonging ar BBC Wales, yn chwarae Nadine Weaver.

Yn 2008, chwaraeodd y prif ran benywaidd mewn cynhyrchiad o Romeo and Juliet yn y Theatr Newydd, Caerdydd.[2]

Yn 2011, serennodd fel Alys yn y gyfres deledu o'r un enw, Alys ar S4C. Dychwelodd yn yr ail gyfres a ddarlledwyd yn hwyr yn 2012. Ni bu sôn am unrhyw gyfresi pellach.

Yn 2013, enillodd Sara wobr Actores Gorau BAFTA Cymru am ei rhan fel Alys.

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ffilm[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan Cyfarwyddwyd gan
2003
Ffordd o Fyw Julie Osman
Amma Asante
2006
Little White Lies Serena
Caradog W. James
2008
Affinity Madeleine
Tim Fywell
2010
S. N. U. B! Anna
Jonathan Glendening
2010
Patagonia Chica del Valle
Marc Evans
2013
Another Me Wraig â babi
Isabel Coixet
2014
Get Up and Go Ella
Brendan Grant

Teledu[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2003
Shopping Distance Melanie Ffilm deledu
2006
Torchwood Carys Fletcher Pennod— "Day One"
2007
Y Pris Llio Edwards 4 pennod
2008
Belonging Nadine 7 pennod
2008
Tess of the d'Urbervilles Nancy Darch Cyfres fer - pennod 1
2008
Con Passionate Ellen Wynne Cyfres ddrama S4C
2009
Doctors Carmel Coates Pennod — "Innocent"
2009
Blodau Cat Drama S4C
2009
Sleep with Me Young Lelia Ffilm deledu
2010
Being Human Amy McBride Pennod— "All God's Children"
2010
Thorne: Sleepyhead Alison Willets Penodau 1–3
2011
Bloody Nora Amy Ffilm deledu
2011–2012
Alys Alys Prif rhan

2 gyfres - 16 pennod
Gwobr BAFTA Cymru am Actores Gorau (2013)

2013
Doctors Olwyn Prytherch Pennod — "The Liars of Letherbridge"
2013
Hinterland Catrin John Pennod un
2016
Byw Celwydd Lowri Ogwen Jones Cyfres ddrama S4C

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The interview: Sara Lloyd-Gregory (en) , South Wales Guardian, 1 Tachwedd 2011. Cyrchwyd ar 20 Mehefin 2016.
  2.  Romeo and Juliet at the New Theatre Cardiff. Theatre In Wales (20 Medi 2008). Adalwyd ar 21 Mai 2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]