Kate Jarman
Kate Jarman | |
---|---|
Ganwyd | 22 Ebrill 1980 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Actores o Gymraes yw Kate Jarman (ganwyd 22 Ebrill 1980). Mae hi'n fwyaf adnabyddus am chwarae prif gymeriadau yn Hearts of Gold, Nice Girl a Pobol y Cwm. Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd.
Addysg
[golygu | golygu cod]Graddiodd Jarman o Goleg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, gyda gradd Baglor yn y Celfyddydau mewn actio, wedi'i ddilyn gan radd Meistr mewn Theatr Gerddorol.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn 1999, tra dal yn ei blwyddyn gyntaf yn y coleg, castiwyd Jarman yn Nice Girl ar BBC2, a chyfarwyddwyd gan Dominic Savage. Roedd hi'n chwarae cymeriad Mel gyferbyn Steve Meo. Gan barhau â'i hastudiaethau yn y coleg, gweithiodd Jarman ar nifer o gynyrchiadau teledu, gan gynnwys ymddangos yng nghyfres HTV Nuts a Bolts (Cyfres 3 a 4), Score yn gweithio ochr yn ochr â Eve Myles, Sue Johnston a Robert Pugh a'r ffilm deledu Mindblowing a chyfarwyddyd gan Euros Lyn.
Yn 2003 castiwyd Jarman yn ei phrif rôl gyntaf, fel Bethan Powell yn y ddrama rhwydwaith dwy ran ar BBC1 Hearts of Gold[2] ochr yn ochr â Jeremy Sheffield, Geraldine James, David Troughton, Judy Parfitt a David Warner.[3]
Yn ogystal â'i rhannau mewn teledu a ffilm, mae Jarman wedi recordio nifer o lyfrau sain BBC.
Ymddangosodd Kate Jarman hefyd ym mhennod The Convent o Murphy's Law ar y BBC a Dose, ffilm fer a ysgrifennwyd gan Irvine Welsh. Yna aeth ymlaen i chwarae Erin Medi yn yr opera sebon Pobol Y Cwm.
Yn fwy diweddar ymddangosodd ar deledu Cymraeg yn y gyfres ddrama Alys (cyfres 1 a 2).
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae hi'n byw ger Llantrisant.
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]- 2000: Nice Girl - 'Mel' (ffilm deledu)
- 2000: Iechyd Da - Mel
- 2000: Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw - 'Alis'
- 2001: Score - 'Sandra' (ffilm deledu)
- 2002: A Mind to Kill - 'Tessa Kemp' (1 pennod: "Blood and Water")
- 2003: Dose - 'Rhiannon' (ffilm deledu)
- 2003: Hearts of Gold - 'Nurse Bethan Powell' (ffilm deledu)
- 2004: Murphy's Law - 'Sr. Josephine' (1 pennod: Convent)
- 2004: Bang Bang I Love You - 'Kate' (ffilm fer)
- 2005: Pobol Y Cwm - 'Erin Medi'
- 2006: Pobol Y Cwm - 'Erin Medi'
- 2007: Pobol Y Cwm - 'Erin Medi'
- 2010: Pen Talar - Fion
- 2010: Alys - 'Angie' (cyfres 1, 8 pennod)
- 2011: Alys - 'Angie' (cyfres 2, 8 pennod)
Radio a Sain
[golygu | golygu cod]- 2000, Radio, Karen, STATION ROAD, BBC Radio Wales
- 2002, Radio, WOULDN'T IT BE BETTER IF HE DIED IN THE END, BBC Radio 4, Alison Hindell
- 2003, Sain, THE HOMECOMING, BBC Audio Books, Catrin Collier
- 2004, Sain, BEGGARS & CHOOSERS, BBC Audio Books, Catrin Collier
- 2004, Sain, NO CHILD OF MINE, BBC Audio Books, Gwen Maddoc
- 2004, Sain, THE OTHER WOMAN, BBC Audio Books, Iris Gower
- 2005, Sain, WINNERS & LOSERS, BBC Audio Books, Catrin Collier
- 2006, Sain, FINDERS & KEEPERS, BBC Audio Books, Catrin Collier
- 2006, Sain, SINNERS & SHADOWS, BBC Audio Books, Catrin Collier
- 2007, Sain, TIGER BAY BLUES, BBC Audio Books, Catrin Collier
- 2007, Sain, TIGER RAGTIME, BBC Audio Books, Catrin Collier
- 2008, Sain, Autobiography, TIME TO SAY HELLO, BBC Audio Books, kathryn Jenkins
- 2008, Sain, ONE LAST SUMMER, BBC Audio Books, Catrin Collier
- 2008, Sain, MAGDA'S DAUGHTER, BBC Audio Books, Catrin Collier
- 2010, Sain, Reader, EMLYN'S MOON, BBC, Laura Northedge
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Kate Jarman CV Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback, KateJarman.co.uk.
- ↑ "Q&A: Kate Jarman". Wales Online. 4 Mawrth 2006. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2015.
- ↑ "Hearts Of Gold" (press release). BBC.co.uk. 6 Mehefin 2003. Cyrchwyd 28 Ionawr 2011.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Kate Jarman Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback
- Kate Jarman ar wefan Internet Movie Database