Neidio i'r cynnwys

Mair Tomos Ifans

Oddi ar Wicipedia
Mair Tomos Ifans
GanwydEbrill 1960
Abergynolwyn, Gwynedd
Llysenw/auMair Harlech
DinasyddiaethCymraes
Alma materPrifysgol Cymru, Bangor, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd
GalwedigaethActores, storïwraig a chantores werin

Actores, cantores a chyfarwydd / storïwraig o Gymru yw Mair Tomos Ifans (ganwyd Ebrill 1960).[1] Cafodd ei magu yn Abergynolwyn a Harlech. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Bangor ac yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru.

Roedd yn un o sefydlwyr Cwmni'r Frân Wen.[2] Mae hi wedi ymddangos ar lwyfannau a sgriniau Cymru ers y 1980au, yn fwyaf diweddar yn y cyfresi Rybish a Bariau ar S4C.

Gall ganu'r delyn, y piano, y gitar a theulu'r recorder. Enillodd nifer o wobrau am ganu, gan gynnwys Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis am ganu gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn 2012 a Gwobr Goffa Elfed Lewys am ganu baled wreiddiol yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009.[2]

Yn yr 1980au, roedd yn aelod o'r grwp roc Pryd Ma' Te ? (PMT) yn chwarae'r gitâr fâs.

Ddiwedd yr 1990au, fe dreuliodd hi gyfnod yn byw ac yn gweithio ar Ynys Enlli.[3]

Mae Mair wedi bod yn gyfarwydd / storïwraig ers dros ugain mlynedd, gan ganolbwyntio ar gyflwyno straeon, caneuon, ac arferion traddodiadol Cymru.[4][5]

Cynyrchiadau

[golygu | golygu cod]

(Detholiad)

Theatr

[golygu | golygu cod]

Teledu a ffilm

[golygu | golygu cod]

Llyfrau

[golygu | golygu cod]
  • Caneuon Ffaldi-Rwla-la
  • Nadolig yn Rwla
  • Rala la la - Caneuon o Wlad y Rwla
  • Chwarae'r Gêm (2012)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Mair Tomos IFANS personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-24.
  2. 2.0 2.1 "Manylion Mair Tomos Ifans o wefan Y Lolfa".
  3. "Ynys Enlli / Bardsey Island - (English below) Mae'r Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn cychwyn penwythnos yma! ..." www.facebook.com. Cyrchwyd 2024-09-24.
  4. "Storïau, Cân a Thelyn gyda'r storïwr Cymraeg Mair Tomos Ifans -…". Oriel Davies Gallery. Cyrchwyd 2024-09-24.
  5. "Mair Tomos Ifans". Barddas: Y Gymdeithas Gerdd Dafod. Cyrchwyd 2024-09-24.