Neidio i'r cynnwys

Leni (drama lwyfan)

Oddi ar Wicipedia
Leni
AwdurDewi Wyn Williams
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi24 Medi 2003
Argaeleddallan o brint
ISBN978-0863813115
GenreDramâu Cymraeg
CyfresI'r Golau

Drama lwyfan gan Dewi Wyn Williams yw Leni a lwyfanwyd am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1990/91. Flwyddyn yn ddiweddarach, addaswyd y cynhyrchiad ar gyfer S4C, a'i darlledu fel drama deledu o dan yr un enw. Mae'r ddrama'n dilyn hanes Leni Lewis, digrifwr clybiau nos, sy'n mwynhau bywyd er iddo fod yn hynod sinigaidd tuag at y cyfan. John Ogwen fu'n portreadu'r digrifwr ar lwyfan ac yn yr addasiad teledu.

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

Mae Leni Lewis yn cael ei daro oddi ar ei echel ynghanol dathliadau'r Nadolig, wrth iddo ganfod bod ei wraig Alis yn anffyddlon iddo gyda'i ffrind gorau, Marc. Mae'r datgelu yn cydfynd â datgeliad arall gan ei feddyg, bod Canser yr ysgyfaint arno, ac nad oes ganddo lawer o amser ar ôl yn y fuchedd hon. Mae hyn yn peri i'w emosiynau droi'n un bwrlwm berw wrth iddo geisio ymdopi efo'r newyddion.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Berwi Ŵy oedd teitl wreiddiol y ddrama, gan i Dewi Wyn Williams ei hanfon i gystadleuaeth Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Conwy 1989. Roedd un o'r beirniad o blaid ei gwobrwyo, tra bod eraill am wobrwyo drama Gwion Lynch, Dim Ond Heno.

"Drama yw Leni am ddyn sy'n gorfod wynebu dau beth - Angau, a'i anallu i gynnal perthynas â'r ferch mae o'n ei charu", meddai'r dramodydd, yn Rhaglen y cynhyrchiad ym 1990. "Nid yw'n fwriad gennyf bregethu, moesoli nac athronyddu. Credaf mai yn y pulpud y perthyn y bregeth, nid ar y llwyfan. Ond os ydych yn gweld rhyw arwyddocâd pellach i'r ddrama, gorau oll. Y peth pwysicaf yw eich bod yn mwynhau eich hunain."[1]

Cyhoeddwyd y ddrama gan Wasg Carreg Gwalch yn 2003 fel rhan o'r gyfres I'r Golau. Yn 2017 roedd y gyfrol allan o brint.[2]

"Mewn gwirionedd drama drist iawn yw hon, nid am fod yma berson sy'n mynd i farw, ond oherwydd y modd y bydd cymdeithas yn dygymod a sefyllfaoedd o'r math", dywed Lisa Lewis mewn adolygiad o'r ddrama yn Barn.[3] "Dangosir pawb yn ymddwyn fel unigolion mewn byd lle nad yw moesoldeb yn rhan ohono, lle mae'r hunan yn ganolbwynt i bopeth. Drwy jôcs Leni eu hadrodd gerbron cynulleidfa, ynghyd â jôcs 'preifat' ei fywyd beunyddiol ei hun daw ei sefyllfa'n echrydus o real i ni; yn eironig, po fwyaf y chwarddai'r gynulleidfa y mwyaf o boen a gyfathrebid dwy gyfrwng y weithred honno".[3]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Leni Lewis - digrifwr mewn clybiau nos
  • Alis - ei wraig
  • Marc - cariad Alis
  • Marj - gwraig Marc
  • Ellis - meddyg
  • Kev - rheolwr y Clwb Nos

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]
Poster Jac Jones o John Ogwen fel Leni (1989)

Cwmni Theatr Gwynedd oedd y cwmni cyntaf i lwyfanu'r ddrama, a hynny ym 1990. Roedd poster o'r cynhyrchiad, o waith yr arlunydd Jac Jones, mor drawiadol fel y bu'n rhaid i'r cwmni werthu copïau ohono yn ystod y daith gan gyfranu'r arian at elusen lleol. Cyfarwyddwr y cynhyrchiad oedd Graham Laker; cynllunydd John Jenkins; cynllunydd goleuo Tony Bailey Hughes; cynllunydd sain Siôn Havard Gregory; cast:

"Cafwyd set effeithiol gyda'r Ilwyfan troellog yn newid y lleoliad o un sefyllfa i'r llall' ebe Lisa Lewis, "er bod hyn yn achosi ychydig o flerwch o bryd i'w gilydd gydag actorion yn camu o un gofod i'r llall. Ar y cyfan cyflwyniad difyr iawn oedd hwn ac fe'i mwynheais, ond ni allwn lai na chredu bod yma hadau canfyddiad mwy sy'n haeddu mynegiant llawnach, mewn techneg gyfangwblwahanol. Rwy'n teimlo mai'r sgript gyffrous barodd y mwynhad, ond hoffwn weld y gwirionedd oedd yn llechu o dan y wyneb yn cael ymdriniaeth drylwyrach. Teimlaf mai arddull y ddrama sy'n cadw hyn yn ôl. Petrusaf cyn dweud yn bendant mai mwynhau'r ddrama yn union fel y byddwn yn mwynhau opera sebon a wnes i."[3]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o Leni 1990.
  2. Gwefan Gwales; adalwyd 9 Medi 2017.
  3. 3.0 3.1 3.2 Lewis, Lisa (Rhagfyr/Ionawr 1990/1991). "Theatr". Barn 335/336.