Baner Ynysoedd Turks a Caicos

Oddi ar Wicipedia
Baner Ynysoedd Turks a Caicos

Lluman glas (sef maes glas gyda Baner yr Undeb yn y canton) gydag arfbais Ynysoedd Turks a Caicos yn y fly yw baner Ynysoedd Turks a Caicos. Mae'r arfbais yn dangos cragen conch a chimwch coch, i gynrychioli diwydiant pysgota'r ynysoedd (prif ffynhonnell economi Turks a Caicos), a chactws, i gynrychioli planhigion yr ynysoedd. Mabwysiadwyd yr arfbais yn 1965 a'r faner yn 1968, pan oedd yr ynysoedd yn cael eu gweinyddu fel rhan o'r Bahamas. Cadwodd Ynysoedd Turks a Caicos y faner pan ddaethant yn diriogaeth ar wahân yn sgîl annibyniaeth y Bahamas yn 1973.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)