Baner Anguilla

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Baner Anguilla FIAV 110010.svg
Baner answyddogol Anguilla FIAV historical.svg

Lluman glas (sef maes glas gyda Baner yr Undeb yn y canton) gydag arfbais Anguilla yn y fly yw baner Anguilla. Mae'r arfbais yn dangos tri dolffin (sy'n symboleiddio cyfeillgarwch, doethindeb, a chryfder) ar gefndir gwyn uwchben stribed gwyrddlas (i gynrychioli'r môr). Mabwysiadwyd yr arfbais yn wreiddiol fel baner answyddogol yr ynys yn 1967, pan gwahanodd o Sant Kitts-Nevis (gweler Saint Christopher-Nevis-Anguilla). Mabwysiadwyd y faner yn 1990. Mae gan Sant Kitts-Nevis eu baner eu hunain, bellach.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Complete Flags of the World (Dorling Kindersley, 2002)