Aureliano Pertile

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aureliano Pertile
Aureliano Pertile.jpg
Ganwyd9 Tachwedd 1885 Edit this on Wikidata
Montagnana Edit this on Wikidata
Bu farw11 Ionawr 1952 Edit this on Wikidata
Milan Edit this on Wikidata
Label recordioFonotipia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Galwedigaethcanwr opera, canwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Conservatoire Milan Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata

Roedd Aureliano Pertile (9 Tachwedd 1885 - 11 Ionawr, 1952) yn denor telynegol dramatig o'r Eidal. Mae llawer o feirniaid yn ei ystyried yn un o artistiaid operatig mwyaf cyffrous y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, ac yn un o denoriaid pwysicaf yr 20g.[1]

Bywyd a gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Pertile ei eni yn Montagnana, Gogledd yr Eidal, 18 diwrnod ar ôl genedigaeth tenor enwog arall, Giovanni Martinelli, yn yr un dref [2]. Astudiodd gyda Giacomo Orefice yn Padua, a Gaetano Bavagnoli ym Milan, cyn gwneud ei début operatig fel Lyonel yn Martha, ym 1911, yn Fienna.

Ar ôl canu yn rhanbarthau'r Eidal a De America, canodd Pertile am y tro cyntaf yn y prif dy opera Eidalaidd, La Scala, Milan, ym 1916. Ymddangosodd ar yr achlysur hwn fel Paolo yn Francesca da Rimini, gyferbyn â Rosa Raïsa. Gwnaeth Pertile ei ymddangosiad cyntaf yn y Metropolitan Opera Dinas Efrog Newydd fel Cavaradossi yn Tosca, gyda Maria Jeritza yn rôl y teitl, ar 1 Rhagfyr 1921. Dyma oedd ei unig dymor yn y Met.[3] Roedd ei rolau eraill yn cynnwys des Grieux yn Manon Lescaut, Turiddu yn Cavalleria rusticana, Grigori yn Boris Godunov (gyda Fyodor Chaliapin), Radames yn Aida, rôl y teitl yn Pagliacci (gyferbyn â Florence Easton), a Julien yn Louise (gyferbyn â Geraldine Farrar). Bu hefyd yn cymryd rhan mewn perfformiadau o Louise gyda chwmni teithiol y Met yn Philadelphia ac yn Brooklyn.

Wedi hynny dychwelodd i'r Eidal, lle sefydlodd ei hun fel prif denor La Scala o 1927 hyd 1937, gan ddod yn hoff ganwr y prif arweinydd Arturo Toscanini.

Yn ogystal â gwaith a grybwyllwyd yn flaenorol, roedd ei repertoire i La Scala yn cynnwys rôl teitl Lohengrin, Stolzing yn Die Meistersinger von Nürnberg (yn Eidaleg), Edgardo yn Lucia di Lammermoor, gyda Toti dal Monte, Alfredo yn La traviata, Osaka yn Iris, Rodolfo yn La bohème, rôl y teitl yn Andrea Chénier, Manrico yn Il trovatore, Riccardo yn Un ballo in maschera, Pinkerton yn Madama Butterfly, Y Dug yn Rigoletto, Alvaro yn La forza del destino, Pollione yn Norma, Loris yn Fedora, rôl teitl Werther, Maurizio yn Adriana Lecouvreur, Fernand yn La Favorite, a rhan teitl Fra Diavolo. Creodd hefyd y rhannau tenor blaenllaw yn Nerone gan Arrigo Boito ym 1924, Sly Ermanno Wolf-Ferrari, ym 1927, a Nerone Pietro Mascagni, ym 1935.

Ym mhob un o'i rolau i La Scala, cyflawnodd Pertile ganlyniadau dramatig grymus er gwaethaf bod yn berchen ar lais nad oedd yn arbennig o syfrdanol neu hardd. Weithiau cafodd ei ddisgrifio gan feirniaid fel "brutta" (hyll). Roedd yn arbennig o effeithiol yn rolau Verdi ac opera verismo, gan ddod â dwyster emosiynol prin i'w berfformiadau.[4]

Bu Pertile hefyd yn canu yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain rhwng 1927 a 1931, ac yn y Teatro Colón yn Buenos Aires rhwng 1918-29. Roedd ei gydweithwyr soprano yn cynnwys divas mor enwog â Gilda Dalla Rizza, dal Monte, Claudia Muzio, Raisa, Bidu Sayão, Hina Spani, a Ninon Vallin.

Ymddangosodd, hefyd, mewn gweithiau operatig anarferol, gan greu, er enghraifft, rôl Fernando yn opera Felipe Boero Tucuman (ym 1918) a rôl teitl Ollantay Constantino Gaito (ym 1926).

Roedd ei ymddangosiadau llwyfan olaf yn yr Eidal ym 1946, yn Pagliacci. Yna bu'n dysgu yng Nghonservatoire Milan hyd ei farwolaeth ym 1952.

Recordiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Pertile yn recordio o 1922 i 1942. Mae nifer o Gryno Ddisgiau sy'n cynnwys detholiadau o recordiadau unigol Pertile ac enghreifftiau o'i waith mewn operâu cyflawn wedi cael eu cyhoeddi gan amrywiol gwmnïau recordiau ers y 1980au.[5]

Yn 1995, cyhoeddwyd blodeugerdd gynhwysfawr o'i recordiadau mewn albwm (gyda llyfryn cysylltiedig, La voce e l'arte di Aureliano Pertile ) gan gwmni TIMAClub. Ni chafodd ei dri recordiad operatig cyflawn, sef Aïda (gyda Dusolina Giannini yn y rôl teitl, 1928), Il trovatore (1930) a Carmen (mewn cyfieithiad Eidalaidd, 1932), eu cynnwys yng nghasgliad 1995 ond maent ar gael ar labeli CD eraill.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Hamilton, David; Andris-Michalaros, Aliki (1987). The Metropolitan Opera encyclopedia: a comprehensive guide to the world of opera. Efrog Newydd: Simon & Schuster. ISBN 978-0-500-01425-7.
  • Rosenthal, Harold; Warrack, John (1980). The Concise Oxford Dictionary of Opera (2il argraffiad). Llundain: Gwasg Prifysgol Rhydychen. OCLC 60900670..
  • Steane, J.B. (1974). The grand tradition: 70 years of singing on record. Llundain: Duckworth. OCLC 252923732.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Aureliano Pertile e il suo metodo di canto, bgan D. Silvestrini, 1932.
  • Pertile, una voce, un mito, gan Bruno Tosi, 1985.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]