Iwan Llwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Ganed Iwan Llwyd yng Ngharno, Powys cyn symyd i [[Tal-y-bont (Conwy)|Dal-y-bont]], [[Dyffryn Conwy]] ac yna i [[Bangor|Fangor]] yn 10 oed. Mynychodd [[Ysgol Gynradd Tal-y-bont]], [[Conwy]]; [[Ysgol Gymraeg Sant Paul]], Bangor ac [[Ysgol Friars, Bangor]] cyn astudio yng [[Prifysgol Aberystwyth|Ngholeg Prifysgol Cymru]], [[Aberystwyth]]. Ar ôl iddo raddio gydag MA mewn barddoniaeth [[Canol Oesoedd|ganol oesol]], dechreuodd weithio i gwmni cysylltiadau cyhoeddus cyn mynd yn hunan-gyflogedig.<ref>[http://www.wai.org.uk/index.cfm?UUID=4D93BE72-65BF-7E43-31B1CFD0B129A93A&language=en Gwefan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru]. Adalwyd ar 30-05-2010</ref> |

Daeth yn enwog fel bardd wedi iddo ennill [[Coron yr Eisteddfod Genedlaethol|y Goron]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cwm Rhymni 1990|Eisteddfod Genedlaethol 1990]]<ref>{{Cite web|url=https://golwg360.cymru/archif/25031-colli-iwan-llwyd|title=Colli Iwan Llwyd|date=2010-05-28|access-date=|website=Golwg 360|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>, ar y testun ''Gwreichion.'' Cafodd ei lyfr, ''Be |
Daeth yn enwog fel bardd wedi iddo ennill [[Coron yr Eisteddfod Genedlaethol|y Goron]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cwm Rhymni 1990|Eisteddfod Genedlaethol 1990]]<ref>{{Cite web|url=https://golwg360.cymru/archif/25031-colli-iwan-llwyd|title=Colli Iwan Llwyd|date=2010-05-28|access-date=|website=Golwg 360|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>, ar y testun ''Gwreichion.'' Cafodd ei lyfr, ''[[Be 'Di Blwyddyn Rhwng Ffrindia?]]: Cerddi 1990-99'', ei restru ar Rhestr Hir [[Llyfr y Flwyddyn]], [[2004]]. |
||
Yn gerddor yn ogystal â bardd, fu'n canu'r [[gitâr fas]] gyda [[Geraint Lövgreen a'r Enw Da]], yn ogystal â gyda [[Steve Eaves]]. Roedd yn aelod o'r grŵp [[Doctor (band)|Doctor]] ar ddechrau'r 1980au.<ref>{{Cite web|url=https://issuu.com/y_selar/docs/yselar_mehefin15/10|title=Beirdd mewn bandiau|date=2015-06-01|access-date=2019-09-30|website=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=|page=10}}</ref> |

Fersiwn yn ôl 13:33, 30 Medi 2019
Iwan Llwyd | |
---|---|
Ganwyd | 15 Tachwedd 1957 Carno |
Bu farw | 28 Mai 2010 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd, Prifardd a cherddor oedd Iwan Llwyd Williams (15 Tachwedd 1957 – 28 Mai 2010) [1][2].
Ganed Iwan Llwyd yng Ngharno, Powys cyn symyd i Dal-y-bont, Dyffryn Conwy ac yna i Fangor yn 10 oed. Mynychodd Ysgol Gynradd Tal-y-bont, Conwy; Ysgol Gymraeg Sant Paul, Bangor ac Ysgol Friars, Bangor cyn astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl iddo raddio gydag MA mewn barddoniaeth ganol oesol, dechreuodd weithio i gwmni cysylltiadau cyhoeddus cyn mynd yn hunan-gyflogedig.[3]
Daeth yn enwog fel bardd wedi iddo ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1990[4], ar y testun Gwreichion. Cafodd ei lyfr, Be 'Di Blwyddyn Rhwng Ffrindia?: Cerddi 1990-99, ei restru ar Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn, 2004.
Yn gerddor yn ogystal â bardd, fu'n canu'r gitâr fas gyda Geraint Lövgreen a'r Enw Da, yn ogystal â gyda Steve Eaves. Roedd yn aelod o'r grŵp Doctor ar ddechrau'r 1980au.[5]
Roedd yn un o sefydlwyr y mudiad iaith Cymuned.[6]
Bu farw yn ei fflat ym Mangor yn 52 mlwydd oed. Yn ôl y cwest, canfuwyd ei gorff ychydig ddyddiau ar ôl iddo farw, a cofnododd y crwner achos o farwolaeth naturiol.[7]
Llyfryddiaeth
- Cyfres y Beirdd Answyddogol: Sonedau Bore Sadwrn, Chwefror 1983, (Y Lolfa)
- Llwybro â Llafur at Lynllifon, Ionawr 1990
- Dan fy Ngwynt, Ionawr 1992, (Gwasg Taf)
- Dan Ddylanwad - Cerddi 'Mericia, Canada a Chymru, Rhagfyr 1997, (Gwasg Taf)
- Owain Glyn Dŵr 1400-2000 (gyda Gillian Clarke), Mehefin 2000, (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
- Syched am Sycharth - Cerddi a Chwedlau Taith Glyndŵr (gyda Myrddin ap Dafydd, Twm Morys, Ifor ap Glyn, Geraint Lövgreen) Gorffennaf 2001, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Môr a Mynydd - Eryri a'r Glannau o'r Awyr / Surf and Skylines - Snowdonia and Its Shores from the Sky (gyda Gwilym Davies), Tachwedd 2001, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Be ’Di Blwyddyn Rhwng Ffrindia?: Cerddi 1990-99, March 2003, (Gwasg Taf)
- Hon: Ynys y Galon - Delweddau o Ynys Gwales yng Ngwaith Iwan Bala (gyda Iwan Bala, Sioned Davies, Sian Melangell Dafydd, Jon Gower, Mererid Hopwood, Bethan Mair, John Meirion Morris, Twm Morys), Gorffennaf 2007, (Gwasg Gomer)
- Hanner Cant, Rhagfyr 2007, (Gwasg Taf)
- Rhyw Deid yn Dod Miwn (gyda Aled Rhys Hughes), Gorffennaf 2008, (Gwasg Gomer)
- Sonedau Pnawn Sul, Mai 2009, (Gwasg Carreg Gwalch)
Gwobrau ac Anrhydeddau
Cyfieiriadau
- ↑ Proffil ar wefan Plant ar-lein
- ↑ Death of Welsh language poet Iwan Llwyd, aged 52 BBC News. 28-05-2010. Adalwyd ar 28-10-2010
- ↑ Gwefan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Adalwyd ar 30-05-2010
- ↑ "Colli Iwan Llwyd". Golwg 360. 2010-05-28.
- ↑ "Beirdd mewn bandiau". 2015-06-01. t. 10. Cyrchwyd 2019-09-30.
- ↑ BBC Cymru
- ↑ Iwan Llwyd – cwest yn cofnodi marwolaeth naturiol , Golwg 360, 26 Awst 2010.