Gwyndodeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
D22 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Dechrau tabl ffonoleg |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Clywir y Wyndodeg heddiw yn siroedd [[Môn]], [[Gwynedd]], a gorllewin [[Conwy (sir)|Conwy]]. I'r dwyrain mae'r Wyndodeg yn troi'n [[Powyseg|Bowyseg]] yn ardal [[Clwyd]]. Ceir sawl tafodiaith leol o fewn y Wyndodeg yn ogystal - is-dafodieithoedd fel petai - a gellid sôn am [[Tafodiaith Môn|Wyndodeg Môn]], [[Tafodiaith Arfon|Gwyndodeg Arfon]], [[Tafodiaith Llŷn ac Eifionydd|Gwyndodeg Llŷn ac Eifionydd]], a [[Tafodiaith Meirionnydd|Gwyndodeg Meirionnydd]]. Un yr un modd ag y mae'r brif dafodiaith, y Wyndodeg, yn perthyn i diriogaeth hen deyrnas Gwynedd y mae'n diddorol nodi bod yr is-dafodieithoedd hyn (a nodweddir gan wahaniaethu geirfa ac acen yn bennaf) yn perthyn yn fras i'r hen [[Cantref|gantrefi]] a [[Cwmwd|chymydau]]: mae seiliau hanesyddol yr iaith Gymraeg yn hen iawn. |
Clywir y Wyndodeg heddiw yn siroedd [[Môn]], [[Gwynedd]], a gorllewin [[Conwy (sir)|Conwy]]. I'r dwyrain mae'r Wyndodeg yn troi'n [[Powyseg|Bowyseg]] yn ardal [[Clwyd]]. Ceir sawl tafodiaith leol o fewn y Wyndodeg yn ogystal - is-dafodieithoedd fel petai - a gellid sôn am [[Tafodiaith Môn|Wyndodeg Môn]], [[Tafodiaith Arfon|Gwyndodeg Arfon]], [[Tafodiaith Llŷn ac Eifionydd|Gwyndodeg Llŷn ac Eifionydd]], a [[Tafodiaith Meirionnydd|Gwyndodeg Meirionnydd]]. Un yr un modd ag y mae'r brif dafodiaith, y Wyndodeg, yn perthyn i diriogaeth hen deyrnas Gwynedd y mae'n diddorol nodi bod yr is-dafodieithoedd hyn (a nodweddir gan wahaniaethu geirfa ac acen yn bennaf) yn perthyn yn fras i'r hen [[Cantref|gantrefi]] a [[Cwmwd|chymydau]]: mae seiliau hanesyddol yr iaith Gymraeg yn hen iawn. |
||
==Ffonoleg== |
|||
{|class="wikitable" cellpadding="2" |
|||
! scope="col" width="50" | Ffonem |
|||
! scope="col" width="300" | Disgrifiad |
|||
! scope="col" width="300" | Enghraifft |
|||
|- |
|||
| Ffrwydrolyn /c/, /t/ neu /p/ |
|||
| gydag [[anadliad]] caled ym mhob safle |
|||
| '''c'''reu [cʰre:ɨ]<br />a'''t'''gas ['atʰgas]<br />ha'''p''' [hapʰ] |
|||
|- |
|||
| /l/ |
|||
| [[felar]] [ɫ] ym mhob safle |
|||
| '''l'''on [ɫo:n], c'''l'''oi [cɫo:i]<br />he'''l'''a [h'eɫa]<br />ô'''l''' [o:ɫ], sgi'''l''' [sci:ɫ] |
|||
|- |
|||
|} |
|||
==Prif nodweddion== |
==Prif nodweddion== |
Fersiwn yn ôl 23:42, 20 Hydref 2010
Cymraeg | ||||||||||
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar | ||||||||||
y Gymraeg
| ||||||||||
Gwyndodeg yw tafodiaith Gymraeg gogledd-orllewin Cymru. Fe'i gelwir yn Wyndodeg am fod ei thiriogaeth yn gyfateb yn fras i diriogaeth yr Wynedd hanesyddol. Daw'r gair o'r enw Gwyndyd ('Gwynedd'; 'pobl Gwynedd'), hen ffurf ar y gair Gwynedd, sy'n dod o'r gair Brythoneg (tybiedig) Uenedoti (sail y gair Lladin Canol Venedotia, Gwynedd).
Clywir y Wyndodeg heddiw yn siroedd Môn, Gwynedd, a gorllewin Conwy. I'r dwyrain mae'r Wyndodeg yn troi'n Bowyseg yn ardal Clwyd. Ceir sawl tafodiaith leol o fewn y Wyndodeg yn ogystal - is-dafodieithoedd fel petai - a gellid sôn am Wyndodeg Môn, Gwyndodeg Arfon, Gwyndodeg Llŷn ac Eifionydd, a Gwyndodeg Meirionnydd. Un yr un modd ag y mae'r brif dafodiaith, y Wyndodeg, yn perthyn i diriogaeth hen deyrnas Gwynedd y mae'n diddorol nodi bod yr is-dafodieithoedd hyn (a nodweddir gan wahaniaethu geirfa ac acen yn bennaf) yn perthyn yn fras i'r hen gantrefi a chymydau: mae seiliau hanesyddol yr iaith Gymraeg yn hen iawn.
Ffonoleg
Ffonem | Disgrifiad | Enghraifft |
---|---|---|
Ffrwydrolyn /c/, /t/ neu /p/ | gydag anadliad caled ym mhob safle | creu [cʰre:ɨ] atgas ['atʰgas] hap [hapʰ] |
/l/ | felar [ɫ] ym mhob safle | lon [ɫo:n], cloi [cɫo:i] hela [h'eɫa] ôl [o:ɫ], sgil [sci:ɫ] |
Prif nodweddion
Efallai'r nodwedd amlycaf ar y Wyndodeg yw 'a' am 'e', gan amlaf ar derfyn geiriau ('-a' am '-e'). Er enhgraifft 'tada' (tadau), 'petha' (pethau). Mae'r ffin ieithyddol hyn yn rhedeg o gyffiniau Bae Colwyn yn y gogledd i Aberdyfi yn y de ac yn gyfateb yn fras i'r hen Sir Wynedd, ac eithrio Penllyn yn y dwyrain a de-ddwyrain Sir Feirionnydd.
Astudiaethau
Un o'r cyfraniadau pwysicaf i astudiaethau ar y Wyndodeg yw cyfrol arbennig yr ieithgi Osbert Henry Fynes-Clinton, The Welsh Vocabulary of the Bangor District, sy'n cyflwyno geirfa helaeth a gasglwyd o lafar gwlad yn bennaf yn yr ardal o gwmpas Bangor, Gwynedd. Er ei fod yn astudiaeth o dafodiaith gogledd-ddwyrain yr hen Sir Gaernarfon mae nifer o elfennau yn y dafodiaith honno i'w gweld yng ngweddill tiriogaeth y Wyndodeg hefyd.
Llên
Dros y blynyddoedd mae nifer o lyfrau wedi ymddangos sydd naill ai wedi'u sgwennu yn y dafodiaith neu'n cynnwys deialog ynddi. Gellid crybwyll gwaith cynnar Kate Roberts (e.e. Traed Mewn Cyffion a Te yn y Grug), Un Nos Ola Leuad Caradog Prichard, nofelau Angharad Tomos a dramâu Wil Sam (e.e. Toblerôn).
Rhai geiriau ac ymadroddion
- cur yn y pen - pen tost (gwayw yn y pen yw'r ymadrodd mewn rhannau o Lŷn
- lobsgows - cawl, math o stiw o gig, tatws a llysiau (gair benthyg o'r Saesneg dafodieithol labscouse gan bobl Lerpwl; tarddiad y gair Scouser yn Saesneg); hefyd 'llanast' fel trosiad.
- stomp - llanast, blerwch
- mae gyna fo gnonyn yn ei din! - am rywun sydd ddim yn medru cadw'n llonydd (cnonyn, 'cynrhonyn')
Llyfryddiaeth
- O.H. Fynes-Clinton, The Welsh Vocabulary of the Bangor District (Rhydychen, 1913)
- Bedwyr Lewis Jones, Blas ar Iaith Llŷn ac Eifionydd (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1987)
- Henry Sweet, "Spoken North Welsh", yn Transactions of the Philological Society, 1882-4 (Rhan III), tt. 409-484
- Alan R. Thomas, The Linguistic Geography of Wales (Caerdydd, 1973)
- J.E. Caerwyn Williams (gol.), Llên a Llafar Môn (Llangefni, 1963)