John Lloyd-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Gwybodlen using AWB
CriwGPC (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Bywgraffiad: cywiro treiglad. Newid dyddiad gorffen yr Eirfa i 1963.
Llinell 3: Llinell 3:


==Bywgraffiad==
==Bywgraffiad==
Ganed John Lloyd-Jones ym mhentref [[Dolwyddelan]] yn [[Dyffryn Lledr|Nyffryn Lledr]], [[Sir Gaernarfon]] ([[Conwy (sir)|Sir Conwy]] heddiw). Cafodd ei addysg brifysgol yng [[Prifysgol Bangor|Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru]], lle bu'n un o ddisgyblion [[John Morris-Jones]], a [[Prifysgol Rhydychen|Rhydychen]]. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa goleg fel darlithydd mewn [[Cymraeg]] a'r [[Ieithoedd Celtaidd]] yng [[Coleg y Brifysgol, Dulyn|Ngholeg y Brifysgol]], [[Dulyn]], lle denodd llu o fyfyrwyr disglair yn cynnwys [[T. J. Morgan]], [[Bobi Jones]] a [[J. E. Caerwyn-Williams]].
Ganed John Lloyd-Jones ym mhentref [[Dolwyddelan]] yn [[Dyffryn Lledr|Nyffryn Lledr]], [[Sir Gaernarfon]] ([[Conwy (sir)|Sir Conwy]] heddiw). Cafodd ei addysg brifysgol yng [[Prifysgol Bangor|Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru]], lle bu'n un o ddisgyblion [[John Morris-Jones]], a [[Prifysgol Rhydychen|Rhydychen]]. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa goleg fel darlithydd mewn [[Cymraeg]] a'r [[Ieithoedd Celtaidd]] yng [[Coleg y Brifysgol, Dulyn|Ngholeg y Brifysgol]], [[Dulyn]], lle denodd lu o fyfyrwyr disglair yn cynnwys [[T. J. Morgan]], [[Bobi Jones]] a [[J. E. Caerwyn-Williams]].


Enillodd y Gadair yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1922]] am ei [[awdl]] 'Awdl y Gaeaf'. Ond fel awdur dau lyfr awdurdodol fe'i cofir yn bennaf, sef ''Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon'' (1928) a ''Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg'' (1931-65), geiriadur hanesyddol mawr o eirfa cerddi [[Cymraeg Canol]] a [[Hen Gymraeg]] a adawyd heb ei orffen ar ei farwolaeth yn 1956, wedi cyhoeddi wyth rhan.
Enillodd y Gadair yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1922]] am ei [[awdl]] 'Awdl y Gaeaf'. Ond fel awdur dau lyfr awdurdodol fe'i cofir yn bennaf, sef ''Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon'' (1928) a ''Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg'' (1931-63), geiriadur hanesyddol mawr o eirfa cerddi [[Cymraeg Canol]] a [[Hen Gymraeg]] a adawyd heb ei orffen ar ei farwolaeth yn 1956, wedi cyhoeddi saitth rhan. Cyhoeddwyd wythfed ran ym 1963 mor bell â'r gair ''heilic'' ar ôl ei farwolaeth.


Mewn coffâd iddo yn y ''Times'', dywedwyd iddo fod yn "llysgennad answyddogol" dros Gymru ac [[Iwerddon]].<ref name=Times>{{cite news|title= Prof. J. Lloyd-Jones &ndash; Welsh ambassador in Ireland|work=[[The Times]]|page=11|date = 17 February 1956}}</ref> Roedd yn arholwr allanol Cymraeg ym [[Prifysgol Cymru|Mhrifysgol Cymru]] rhwng 1916 a 1955 pan ymddeolodd.<ref name=WBO>{{cite web|url=http://wbo.llgc.org.uk/en/s2-LLOY-JOH-1885.html|title=Lloyd-Jones, John (1885&ndash;1956), scholar and poet|work=Welsh Biography Online|publisher=[[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]|accessdate=12 Tachwedd 2008|last=Parry|first=Thomas}}</ref>
Mewn coffâd iddo yn y ''Times'', dywedwyd iddo fod yn "llysgennad answyddogol" dros Gymru ac [[Iwerddon]].<ref name=Times>{{cite news|title= Prof. J. Lloyd-Jones &ndash; Welsh ambassador in Ireland|work=[[The Times]]|page=11|date = 17 February 1956}}</ref> Roedd yn arholwr allanol Cymraeg ym [[Prifysgol Cymru|Mhrifysgol Cymru]] rhwng 1916 a 1955 pan ymddeolodd.<ref name=WBO>{{cite web|url=http://wbo.llgc.org.uk/en/s2-LLOY-JOH-1885.html|title=Lloyd-Jones, John (1885&ndash;1956), scholar and poet|work=Welsh Biography Online|publisher=[[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]|accessdate=12 Tachwedd 2008|last=Parry|first=Thomas}}</ref>

Fersiwn yn ôl 17:07, 16 Gorffennaf 2019

John Lloyd-Jones
Ganwyd14 Hydref 1885, 1885 Edit this on Wikidata
Dolwyddelan Edit this on Wikidata
Bu farw1 Chwefror 1956, 1956 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Ysgolhaig a bardd oedd John Lloyd-Jones (14 Hydref 18851 Chwefror 1956), a gofir am ei waith fel geiriadurwr hanesyddol ac awdurdod ar enwau lleoedd gogledd-orllewin Cymru.

Bywgraffiad

Ganed John Lloyd-Jones ym mhentref Dolwyddelan yn Nyffryn Lledr, Sir Gaernarfon (Sir Conwy heddiw). Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, lle bu'n un o ddisgyblion John Morris-Jones, a Rhydychen. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa goleg fel darlithydd mewn Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn, lle denodd lu o fyfyrwyr disglair yn cynnwys T. J. Morgan, Bobi Jones a J. E. Caerwyn-Williams.

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1922 am ei awdl 'Awdl y Gaeaf'. Ond fel awdur dau lyfr awdurdodol fe'i cofir yn bennaf, sef Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon (1928) a Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg (1931-63), geiriadur hanesyddol mawr o eirfa cerddi Cymraeg Canol a Hen Gymraeg a adawyd heb ei orffen ar ei farwolaeth yn 1956, wedi cyhoeddi saitth rhan. Cyhoeddwyd wythfed ran ym 1963 mor bell â'r gair heilic ar ôl ei farwolaeth.

Mewn coffâd iddo yn y Times, dywedwyd iddo fod yn "llysgennad answyddogol" dros Gymru ac Iwerddon.[1] Roedd yn arholwr allanol Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru rhwng 1916 a 1955 pan ymddeolodd.[2]

Cyfeiriadau

  1. "Prof. J. Lloyd-Jones – Welsh ambassador in Ireland". The Times. 17 February 1956. t. 11.
  2. Parry, Thomas. "Lloyd-Jones, John (1885–1956), scholar and poet". Welsh Biography Online. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2008.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.