Sgwrs Defnyddiwr:CriwGPC
Dyfynnu o Geiriadur Prifysgol Cymru
[golygu cod]Dyma rai nodiadau dros dro ar gyfer Gweithdy Wicinatur, 6 Mai 2017. --CriwGPC (sgwrs) 08:47, 26 Ebrill 2017 (UTC)
ETYMOLEG
[golygu cod]Yn gyntaf, rhaid imi bwysleisio mai Prifysgol Cymru (neu Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant cyn bo hir) yw perchennog yr hawlfraint, nid ni fel staff. Mae holl ddeunydd y Geiriadur o dan hawlfraint, i'r graddau mae hynny'n berthnasol, ond nid y Brifysgol biau hawlfraint y dyfyniadau, wrth gwrs. Nid yr wybodaeth ei hun sydd o dan hawlfraint, ond y ffordd mae'n cael ei fynegi a'i drefnu.
Dw i ddim yn meddwl byddai dim problem gyda dyfynnu ambell i beth yn syth o GPC (yn enwedig os nodir y ffynhonnell), ond byddai dyfynnu miloedd o darddiadau yn gallu creu problemau. Oni fyddai'n well rhoi linc i GPC Ar Lein ar gyfer pob tarddiad? Cofiwch fod y tarddiadau yn gallu newid (a dweud y gwir, y tarddiad yw'r peth tebycaf i newid, gan fod y maes yn datblygu o hyd). Trwy ddyfynnu'r tarddiad yn ei grynswth, mae perygl y byddai mwy nag un fersiwn ohono ar y We - un ar Wicipedia (+ unrhyw sgilgynhyrchion) ac un arall ar GPC Ar Lein.
Problem arall yw pa darddiad sydd ei angen - tarddiad yr enw neu darddiadau'r holl elfennau? Yn yr enghraifft (mwyalchen y mynydd), tarddiad "mwyalch" a ddangosir, ac ydy tarddiad "torquatus" yn berthnasol i'r enw Cymraeg? Onid y peth pwysig am yr enw hwn yw mai "math o aderyn du sy'n byw ar fynydd" yw'r aderyn?
Mae "tarddiad" yn well teitl nag "etymoleg", mae'n debyg, gan ei fod yn fwy cyffredinol: tarddiad "môr-wennol" yw "môr1+gwennol" ond nid etymoleg yw hwnnw. Etymoleg yw'r hyn a geir dan "mwyalch".
Mae'n bosibl rhoi dolenni at erthyglau yn GPC Ar Lein fel hyn:
http://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?chwilair lle mae "chwilair" yn air neu ymadrodd i chwilio amdano yn GPC Ar Lein.
Mae'r canlynol yn cael eu stripio allan wrth chwilio: acenion, y gwahaniaeth rhwng priflythrennau a rhai bach, rhifau, a sillgoll; hefyd mae angen %20 yn lle pob bwlch rhwng geiriau.
E.e. i gysylltu â "mwyalch": http://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?mwyalch
Os ydych am gyfeirio at "mwyalchen y mynydd": http://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?mwyalch%20y%20mynydd (D.S. mai "mwyalch y mynydd" sydd yn GPC)
Bydd dolen i ymadrodd fel hyn yn aroleuo'r ymadrodd yn y cofnod yn felyn, gan sgrolio i lawer fel ei fod yn y golwg.
Os ydych am gyfeirio at "bòd", bydd http://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?bod yn dod o hyd i:
bod1
bod2
bod3
bod4
bòd1
bòd2
boda1, bòd1
bodo1, boda3, bod4, &c.'
wyf: bod3
ac yn dangos "bod1" - nid yr un sydd eisiau, sef, "boda1, bòd1". Felly i gysylltu â hwnnw, rhaid defnyddio http://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?boda
Efallai bydd angen arbrofi tipyn bach i gael y cofnod cywir. Y canlyniad cyntaf yn y rhestr sy'n cael ei ddangos ar dde'r sgrin.
Os bydd hynny'n amhosibl, gellir defnyddio:
http://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html dan y gair "bòd1". - Bydd rhaid i'r defnyddiwr chwilio am hyn ei hun.
Mae dyfynnu fel hyn yn well i ddefnyddwyr Wicipedia gan eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y tarddiad bob tro, heb i neb orfod olygu'r erthygl yn Wicipedia.
Rydym yn bwriadu datblygu fersiwn newydd o GPC Ar Lein fydd yn caniatáu dolenni i gofnodion penodol yn lle defnyddio'r system chwilio uchod. Bydd hynny'n hwyluso'ch gwaith, a rhoddaf wybod pan fydd hyn ar gael (nid am rai misoedd o leiaf).
RHANNAU YMADRODD
[golygu cod]Nid oes hawlfraint ar yr wybodaeth, fel y dywedais uchod, felly croeso i chi ddefnyddio'r wybodaeth yn GPC Ar Lein, ond gwell esbonio'r byrfoddau er mwyn y darllenwyr, e.e. yn yr enghraifft, yn lle:
eb. (bach. mwyalchen), ll. mwyalchod, mwyeilch byddai'n well rhoi:
enw benywaidd (bachigol mwyalchen) lluosog mwyalchod, mwyeilch (yn GPC Ar Lein mae'r byrfoddau yn cael eu hesbonio gan lamlenni ('pop-ups') os symudir y llygoden drostynt ac oedi ychydig (neu eu tapio yn yr ap).
Yn yr un modd, byddai'n well estyn ffurfiau wedi'u talfyrru, e.e. dan y gair "robin" ceir:
eg.b. ll. (prin) -od.
Byddai'n well rhoi:
enw gwrywaidd a benywaidd, lluosog (prin) robinod, rhobinod.
(Sylwer mai'r genedl gyntaf a'r ffurf luosog gyntaf yw rhai mwyaf cyffredin yn ôl y dystiolaeth sydd gennym.)
Wrth gwrs, mae llawer o enwau rhywogaethau yn gyfuniadau (ymadroddion), fel "robin fratiog" (Lynchnis flos-cuculi) - ac mae rhannau ymadrodd yn fwy o broblem yn achos y rhain. (Yma, enw benywaidd (yn unig) yw "robin fratiog" - a beth yw'r lluosog? "robinod bratiog"?? - mae -od yn derfyniad ar gyfer creaduriaid, fel arfer, nid planhigion.) Hefyd mae ffurfiau tafodieithol a'u ffurfiau lluosog yn cael eu nodi ar wahân yn GPC, fel:
Ar lafar; ym Morg. yn y ff. ropin (ll. ropod).
Unwaith eto, mae'n bosibl mai dolen i GPC Ar Lein yw'r ateb.
A fyddai'n bosibl rhoi dolen fel:
Am darddiad a rhan ymadrodd yr enw, gw. Geiriadur Prifysgol Cymru Ar Lein (gyda linc i'r erthygl/ymadrodd)?
Oes eisiau adran hefyd i sôn am darddiad yr enw tacsonomaidd (e.e. "torquatus = 'â choler' oherwydd y bandyn gwyn am ei wddf")?
Croeso a diolch!
[golygu cod]Croeso Andrew (a'r criw)! Bydd y canllaw uchod o fudd i ni gyd yn y dyfodol! Bendigedig! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:11, 26 Ebrill 2017 (UTC)
NEWYDDION DIWEDDARAF (Mawrth 2019)
[golygu cod]Mae'r system yn ei lle bellach i gyfeirio at erthygl benodol. Bwriadwn ryddhau rhestr gynhwysfawr o'r cyfeirnodau, ond am y tro mae croeso i chi e-bostio mailto:ach@geiriadur.ac.uk i ofyn i fi am y cod.
I gyfeirio at boda1 e.e., dylid defnyddio: http://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gpc017253
Rhoddaf wybod pan fydd y rhestr lawn ar gael, ac yn y dyfodol ceisiwn nodi'r cyfeirnod ym mhob erthygl hefyd er mwyn gwneud y broses o groesgyfeirio'n haws. Diolch am eich amynedd!