Eratosthenes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: tl:Eratostenes |
nn |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Eratosthenes.jpg|200px|bawd|Eratosthenes]] |
[[Delwedd:Eratosthenes.jpg|200px|bawd|Eratosthenes]] |
||
Ysgolhaig [[Groeg]]aidd amryddawn (fl. [[275 CC]] - [[195 CC]] efallai), yn enedigol o ddinas [[Cyrene]], ar arfordir [[Gwlff Sidra]] (Syrtes) yn [[Libya]], [[Gogledd Affrica]]. |
Ysgolhaig ac [[athronydd]] [[Groeg]]aidd amryddawn (fl. [[275 CC]] - [[195 CC]] efallai), yn enedigol o ddinas [[Cyrene]], ar arfordir [[Gwlff Sidra]] (Syrtes) yn [[Libya]], [[Gogledd Affrica]]. |
||
== Bywyd == |
== Bywyd == |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Roedd yn feistr ar bron pob cangen o [[Gwyddoniaeth|wyddoniaeth]] a [[dysg]] [[yr Hen Fyd]], gan gynnwys [[hanes]], [[daearyddiaeth]], [[geometreg]], [[seryddiaeth]], [[athroniaeth]], [[gramadeg]] a [[barddoniaeth]]. Oherwydd y doniau hyn enillodd iddo ei hun y teitl ''Pentathlos'' "Meistr ar y Pum Camp" (anrhydedd a roddid fel rheol i [[Athletiaeth|athletwyr]] penigamp). Dywedir hefyd ei fod y cyntaf i ymarddel yr enw ''Philologos'' "Cyfaill Dysg (neu Wybodaeth)". Gellid dweud mai Eratosthenes yw sefydlwr daearyddiaeth wyddonol (mawr oedd dyled [[Strabo]], yr enwocaf o ddaearyddwyr y byd clasurol, iddo). Ei gyfrolau pwysicaf yw: |

*Y ''Geographica'' (3 llyfr). |
*Y ''Geographica'' (3 llyfr). Ffynhonnell bwysig yng ngwaith Strabo. Nid oes testun ohono wedi goroesi. |
||
*Y ''Chronographia''. Llyfr sy'n ceisio defnyddio seryddiaeth a [[mathemateg]] i sefydlu [[cronoleg]] hanes. |
*Y ''Chronographia''. Llyfr sy'n ceisio defnyddio seryddiaeth a [[mathemateg]] i sefydlu [[cronoleg]] hanes. |
||
*Llyfr ar [[Yr Hen Gomedi]] Roeg. |
*Llyfr ar [[Yr Hen Gomedi]] Roeg. |
Fersiwn yn ôl 22:32, 13 Medi 2010
Ysgolhaig ac athronydd Groegaidd amryddawn (fl. 275 CC - 195 CC efallai), yn enedigol o ddinas Cyrene, ar arfordir Gwlff Sidra (Syrtes) yn Libya, Gogledd Affrica.
Bywyd
Dechreuodd ei addysg yn ei ddinas enedigol cyn symud i Athen i astudio athroniaeth. Rhoddodd ei ddarlith gyntaf ar athroniaeth yno. Yn 247CC fe'i gwahoddwyd i Alecsandria gan Ptolemy II (Ptolemy Euergetes) i gymryd drosodd fel llyfrgellydd yn lle Callimachus yn llyfrgell enwog y ddinas; yr ail yn unig i ddal y swydd honno. Mesurodd gylchedd y Ddaear a gradd yr ecliptig. Dywedir iddo farw o wrthod cymryd bwyd yn 195 C.C., gan fod ei lygaid yn dechrau methu ac nid oedd yn medru parhau â'i waith.
Gwaith
Roedd yn feistr ar bron pob cangen o wyddoniaeth a dysg yr Hen Fyd, gan gynnwys hanes, daearyddiaeth, geometreg, seryddiaeth, athroniaeth, gramadeg a barddoniaeth. Oherwydd y doniau hyn enillodd iddo ei hun y teitl Pentathlos "Meistr ar y Pum Camp" (anrhydedd a roddid fel rheol i athletwyr penigamp). Dywedir hefyd ei fod y cyntaf i ymarddel yr enw Philologos "Cyfaill Dysg (neu Wybodaeth)". Gellid dweud mai Eratosthenes yw sefydlwr daearyddiaeth wyddonol (mawr oedd dyled Strabo, yr enwocaf o ddaearyddwyr y byd clasurol, iddo). Ei gyfrolau pwysicaf yw:
- Y Geographica (3 llyfr). Ffynhonnell bwysig yng ngwaith Strabo. Nid oes testun ohono wedi goroesi.
- Y Chronographia. Llyfr sy'n ceisio defnyddio seryddiaeth a mathemateg i sefydlu cronoleg hanes.
- Llyfr ar Yr Hen Gomedi Roeg.
- Y Catalogoi. Cymysgedd o seryddiaeth a chwedloniaeth. Casgliad o'r hen chwedlau yn ymwneud â'r sêr oedd yn cael ei dilyn gan restr o'r sêr unigol yn y cytserau cysylltiedig. Mae'r Catasterismoi, sy'n rhestru 44 cytser a 475 o sêr, ynghyd â chwedlau, wedi goroesi ac yn seiliedig ar waith Eratosthenes.
- Hermes. Arwrgerdd.
- Erigone. Telyneg (elegy) enwog yn ei dydd.
Drylliau yn unig o hynny oll sydd wedi goroesi, y rhan fwyaf mewn dyfyniadau a chyfeiriadau gan ysgrifenwyr clasurol diweddarach.
Llyfryddiaeth
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities, gyda ychwanegiadau gan H. Nettleship a J.E. Sandys (Llundain, 1902).