Baner Sri Lanca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 51 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q154823 (translate me)
B Symudodd Adam y dudalen Baner Sri Lanka i Baner Sri Lanca
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:24, 7 Rhagfyr 2013

Baner Sri Lanka

Mae gan faner Sri Lanka betryal yn yr hoist sydd wedi'i rannu'n hanner chwith gwyrdd a hanner dde saffron, a phetryal rhudd yn y fly â llew euraidd yn dal cleddyf ynddo. Daw enw traddodiadol yr ynys yn llenyddiaeth Sansgrit a Pali, Sinhaladvipa, o'r Sinhaleg am lew (sinha), a bu llew yn dal cleddyf yn symbol ar faner y wlad ers y 15fed ganrif. Mabwysiadwyd y faner gyda border melyn, i symboleiddio Bwdhaeth, ar 4 Chwefror 1948. Mae'r llew yn cynrychioli'r awydd am heddwch a'r rhudd yn symboleiddio balchder cenedlaethol. Ychwanegwyd y stribedi gwyrdd (am Fwslimiaid) a saffron (am y Tamiliaid) ym 1950. Mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 7 Medi 1978 pan ychwanegwyd pedair deilen y ffigysbren yng nghorneli'r petryal rhudd. Maent yn cynrychioli'r ffigysbren a wnaeth Siddartha Gautama eistedd oddi tanddi pan enillodd oleuedigaeth a daeth yn y Bwdha, ac yn unigol maent yn symboleiddio cariad, trugaredd, cydymdeimlad, a phwyll.

Ffynhonnell

  • Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Southwater, 2010).