Corff rheoli iaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: hr:Vijeća za normiranje jezika |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: vi:Danh sách các tổ chức quy định ngôn ngữ |
||
Llinell 39: | Llinell 39: | ||
[[ms:Senarai pengawal bahasa]] |
[[ms:Senarai pengawal bahasa]] |
||
[[pt:Academia de Letras]] |
[[pt:Academia de Letras]] |
||
[[vi:Danh sách các tổ chức quy định ngôn ngữ]] |
Fersiwn yn ôl 20:40, 27 Mai 2012
Corff sy'n ceisio rheoli neu hyrwyddo iaith yw corff rheoli iaith. Ceir sawl enw amgen ar gyrff sy'n rheoli iaith, megis asiantaeth iaith a bwrdd iaith. Mae eu cyfansoddiad, eu cyfrifoldebau a'u pwerau yn amrywio'n fawr o wlad i wlad. Mae rhai ohonynt, fel yr Académie française sy'n ceisio safoni'r defnydd o'r Ffrangeg yn Ffrainc, yn sefydliadau academaidd gyda hanes hir iddynt, tra bod eraill yn gyrff statudol neu lywodraethol dan adain y llywodraeth, tebyg i Fwrdd yr Iaith Gymraeg (Cymraeg) yng Nghymru neu'r Academi Bangla (Bengaleg) ym Mangladesh. Gan amlaf maent yn gyrff a sefydlwyd er mwyn hyrwyddo ac amddiffyn ieithoedd llai, ond dim ym mhob achos.
Rhai cyrff iaith
- Academi Bangla: Bengaleg: Bangladesh
- Académie française: Ffrangeg: Ffrainc
- Bòrd na Gàidhlig: Gaeleg yr Alban: Yr Alban
- Bwrdd yr Iaith Gymraeg: Cymraeg: Cymru
- Coonseil ny Gaelgey: Manaweg: Ynys Manaw
- Cyngor Iaith Norwy: Norwyeg: Norwy
- Dansk Sprognævn: Daneg: Denmarc
- Foras na Gaeilge: Gwyddeleg: Gweriniaeth Iwerddon
- Keskowethyans an Taves Kernewek: Cernyweg: Cernyw (answyddogol)
- Ofis ar Brezhoneg: Llydaweg: Llydaw