Cyngor Iaith Norwy
| Enghraifft o: | directorate in Norway, rheoleiddiwr iaith |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 2005 |
| Rhagflaenydd | Norwegian Language Council |
| Rhiant sefydliad | Gweinyddiaeth diwylliant Norwy |
| Ffurf gyfreithiol | Q55190098 |
| Pencadlys | Oslo |
| Enw brodorol | Språkrådet |
| Gwladwriaeth | Norwy |
| Gwefan | https://www.sprakradet.no/ |
| Dynodwyr | |
Mae Cyngor Iaith Norwy (Norwyeg:Språkrådet)yn gorff cynghori ar ran Llywodraeth Norwy mewn materion yn ymwneud â'r Norwyeg a chynllunio ieithyddol. Sylfest Lomheim yw'r cyfarwyddwr presynol.
Cyfrifoldeb y Cyngor iaith yw amddiffyn treftadaeth ddiwyllianol y Norwyeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig; ysgogi menterau sy'n cynyddu gwybodaeth o'r Norwyeg, ei hanes a'i hunigrywiaeth; ysgogi goddefgarwch ymysg defnyddwyr gwahanol ffurfiau o'r Norwyeg; ac amddiffyn hawliau dinasyddion parthed defnyddio'r Norwyeg.
Mae'r cyngor yn cynghori'r awdurdodau ynglŷn â materion sy'n gysylltiedig â'r Norwyeg, yn enwedig defnydd y Norwyeg gan ysgolion, gan Y Gorfforaeth Ddarlledu Norwyaidd a gan gyrff llywodraethol. Bydd yn cyflwyno ddatganiadau ynglŷn â chyfundrefnu'r iaith ysgrifenedig ac enwau lleoedd, cynnig mesurau cyfreithiol ar faterion ynghylch yr iaith Norwyeg, yn cynghori ac yn cynnig arweiniad i'r cyhoedd, ac yn hyrwyddo cydweithio rhyng-lychlynol er meithrin iaith.
Sefydlwyd y cyngor mewn deddf gan Gyngor Iaith Norwy yn 1972. Ei brif gyhoeddiad yw'r cylchgrawn chwarterol Språknytt (Newyddion Iaith). Mae gan y cyngor staff o tua ugain ac mae yn atebol i'r Weinyddiaith Norwyaidd ar gyfer diwylliant a materion eglwysig.