Galisia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Huw P (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Huw P (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{| border=1 align=right cellpadding=4 cellspacing=0 width=300 style="margin: 0.5em 0 1em 1em; background: #ffffff; border: 1px #aaaaaa solid; border-collapse: collapse; font-size: 95%;" |
{| border=1 align=right cellpadding=4 cellspacing=0 width=300 style="margin: 0.5em 0 1em 1em; background: #ffffff; border: 1px #aaaaaa solid; border-collapse: collapse; font-size: 95%;" |
||
|+ |
|+Comunidade Autónoma da<br /><big>Galiza</big> |
||
|- |
|- |
||
| bgcolor="#ffffff" align=center colspan=2 | |
| bgcolor="#ffffff" align=center colspan=2 | |
||
Llinell 30: | Llinell 30: | ||
|} |
|} |
||
Mae '''Galisia''' ([[Galisieg]]: '''Galicia; Galiza'''<ref>{{Cite web|last=Fraga|first=Xesús|url=http://www.lavozdegalicia.es/galicia/2008/06/08/0003_6886803.htm|title= |
Mae '''Galisia''' ([[Galisieg]]: '''Galicia; Galiza'''<ref>{{Cite web|last=Fraga|first=Xesús|url=http://www.lavozdegalicia.es/galicia/2008/06/08/0003_6886803.htm|title=La Academia contesta a la Xunta que el único topónimo oficial es Galicia|trans_title=Yr Academi'n ymateb i'r Xunta gan ddweud mai'r unig enw yw 'Galicia'|publisher=La Voz de Galicia|date=2008-06-08}}</ref>, Sbaeneg '''Galicia'''), yn un o gymunedau ymreolaethol [[Sbaen]], yng ngogledd-orllewin yr orynys Iberaidd. Mae nifer o ynysoedd megis y Cíes, Ons, Cortegada, Arousa, Sálvora a Vionta yn rhan o Galisia. Ystyrir Galisia yn genedl hanesyddol, fel [[Catalonia]] ac [[Euskadi]] (sef Gwlad y Basg). |
||
Mae gan Galisia ei hiaith ei hun, [[Galisieg]], sy'n iaith Rufeinaidd, sy'n debygach i [[Portiwgaleg|Bortiwgaleg]] na [[Sbaeneg]]. Yn ôl astudiaeth ddiweddar defnyddir yr iaith gan tua 80% o'r boblogaeth. Ymhlith ei harwyr chwedlonol mae [[Pedro Pardo de Cela]] (c. 1425 - [[17 Rhagfyr]] [[1483]]). Ystyrir [[Ramón Piñeiro]] ([[31 Mai]] 1915 - 27 Awst 1990) yn [[Athronydd]], [[awdur]] a chenedlaetholwr o bwys. Fe'i ganwyd yn Armea de Abaixo, Lama, Láncara, Galisia ac roedd yn flaenllaw yn ei ymdrech i hyrwyddo diwylliant Galicia wedi [[Rhyfel Cartref Sbaen]]. |
Mae gan Galisia ei hiaith ei hun, [[Galisieg]], sy'n iaith Rufeinaidd, sy'n debygach i [[Portiwgaleg|Bortiwgaleg]] na [[Sbaeneg]]. Yn ôl astudiaeth ddiweddar defnyddir yr iaith gan tua 80% o'r boblogaeth. Ymhlith ei harwyr chwedlonol mae [[Pedro Pardo de Cela]] (c. 1425 - [[17 Rhagfyr]] [[1483]]). Ystyrir [[Ramón Piñeiro]] ([[31 Mai]] 1915 - 27 Awst 1990) yn [[Athronydd]], [[awdur]] a chenedlaetholwr o bwys. Fe'i ganwyd yn Armea de Abaixo, Lama, Láncara, Galisia ac roedd yn flaenllaw yn ei ymdrech i hyrwyddo diwylliant Galicia wedi [[Rhyfel Cartref Sbaen]]. |
Fersiwn yn ôl 16:58, 24 Hydref 2020
| |||
Ieithoedd swyddogol | Galisieg a Sbaeneg | ||
Prifddinas | Santiago de Compostela | ||
Anthem genedlaethol | Os Pinos | ||
Arwynebedd – Cyfanswm – % o Sbaen |
Safle 7fed 29,574 km² 5.8% | ||
Poblogaeth – Cyfanswm – % o Sbaen – Dwysedd |
Safle 5ed 2,760,179 2,9% 93.78/km² | ||
ISO 3166-2 | GA | ||
Arlywydd | Alberto Núñez Feijoo (PPdeG-PP) | ||
Xunta de Galicia |
Mae Galisia (Galisieg: Galicia; Galiza[1], Sbaeneg Galicia), yn un o gymunedau ymreolaethol Sbaen, yng ngogledd-orllewin yr orynys Iberaidd. Mae nifer o ynysoedd megis y Cíes, Ons, Cortegada, Arousa, Sálvora a Vionta yn rhan o Galisia. Ystyrir Galisia yn genedl hanesyddol, fel Catalonia ac Euskadi (sef Gwlad y Basg).
Mae gan Galisia ei hiaith ei hun, Galisieg, sy'n iaith Rufeinaidd, sy'n debygach i Bortiwgaleg na Sbaeneg. Yn ôl astudiaeth ddiweddar defnyddir yr iaith gan tua 80% o'r boblogaeth. Ymhlith ei harwyr chwedlonol mae Pedro Pardo de Cela (c. 1425 - 17 Rhagfyr 1483). Ystyrir Ramón Piñeiro (31 Mai 1915 - 27 Awst 1990) yn Athronydd, awdur a chenedlaetholwr o bwys. Fe'i ganwyd yn Armea de Abaixo, Lama, Láncara, Galisia ac roedd yn flaenllaw yn ei ymdrech i hyrwyddo diwylliant Galicia wedi Rhyfel Cartref Sbaen.
Roedd Rosalía de Castro (24 Chwefror 1837 – 15 Gorffennaf 1885) yn brif lenor Galisia ac heddiw yn arwres ffeministaidd. Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Cantares gallegos (Cantoriaion Galisieg) ar 17 Mai, 1863. Mae 17 Mai bellach yn cael ei dathlu fel Día das Letras Galegas - Diwrnod llenyddiaeth Galisieg, yn ddiwrnod o wyliau yn Galisia.
Cysylltiad Celtaidd
Mae Galisia yn cael ei hystyried fel gwlad Geltaidd am ei gysylltiadau Celtaidd hanesyddol.
Enw un o brif glybiau pêl-droed y wlad yw Celta de Vigo (Celtiad Vigo) ac mae cerddoriaeth draddodiadol Galisia yn cynnwys offerynnau Celtaidd fel y pibgod.
Mae Os Pinos - anthem genelaethol y wlad yn cyfeirio at Galisia fel ‘Cenedl Beogán’. Roedd Breogán (Breoghan, Bregon neu Breachdan)[2] yn arwr yn hanes Celtaidd. Mae’r llyfr Gwyddelig Lebor Gabála Érenn [3](Llyfr llafar Iwerddon) o’r canoloesol yn cyfeirio at Breogán a’i disgynyddion yn teithio i Galisia a sefydlu dinas Brigantia (A Coruña heddiw). Mae cerflun modern enfawr o Beogán yn sefyll yn A Coruña yn edrych tua'r môr ac Iwerddon
Prif drefi Galisia
- Vigo (poblogaeth 300,000)
- A Coruña (poblogaeth 250,000)
- Ourense (poblogaeth 110,000)
- Santiago de Compostela (poblogaeth 90,000)
- Lugo (poblogaeth 90,000)
- Ferrol (poblogaeth 80,000)
- Pontevedra (poblogaeth 80,000)
Yn economaidd, mae Galisia yn dibynnu i raddau helaeth ar amaethyddiaeth a physgota. Mae twristiaeth hefyd yn elfen bwysig, ac mae miloedd o bererinion yn cyrchu i Santiago de Compostela bob blwyddyn ar hyd y Camino de Santiago.
Oriel
-
Ymgyrch rhai Galisiaid i gael eu cyfyri'n wlad Geltaidd, ar ffurf baneri Celtaidd.
-
Torch aur o Burela, o Oes yr Haearn
-
Llywodraeth Galisia: y Pazo de Raxoi, yn Santiago
-
Dwysedd y boblogaeth
-
Baner Galisia gyda seren dros annibyniaeth
Dinasoedd a threfi mawrion
Y prif ddinasoedd yw: Vigo, A Coruña, Ourense, Lugo, Santiago de Compostela (y brifddinas), Pontevedra a Ferrol.
Yr ardaloedd mwyaf poblog yw:
- Vigo-Pontevedra – 660,000
- A Coruña-Ferrol – 640,000
Rhestr dinasoedd a threfi yn Galisia yn ôl poblogaeth | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Tref/Dinas | Rhanbarth | Poblogaeth (2013) | Tref/Dinas | Rhanbarth | Poblogaeth (2013) | |||||
1 | Vigo | Pontevedra | 294,997 | 11 | Carballo | A Coruña | 31,303 | |||
2 | A Coruña | A Coruña | 244,810 | 12 | Arteixo | A Coruña | 30,482 | |||
3 | Ourense | Ourense | 106,905 | 13 | Redondela | Pontevedra | 30,006 | |||
4 | Lugo | Lugo | 98,007 | 14 | Culleredo | A Coruña | 29,207 | |||
5 | Santiago de Compostela | A Coruña | 95,207 | 15 | Ames | A Coruña | 28,852 | |||
6 | Pontevedra | Pontevedra | 82,946 | 16 | Ribeira | A Coruña | 27,699 | |||
7 | Ferrol | A Coruña | 70,389 | 17 | Cangas | Pontevedra | 26,121 | |||
8 | Narón | A Coruña | 39,450 | 18 | Marín | Pontevedra | 25,864 | |||
9 | Vilagarcía de Arousa | Pontevedra | 37,621 | 19 | Cambre | A Coruña | 23,649 | |||
10 | Oleiros | A Coruña | 34,470 | 20 | Ponteareas | Pontevedra | 23,561 |
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Fraga, Xesús (2008-06-08). "La Academia contesta a la Xunta que el único topónimo oficial es Galicia". La Voz de Galicia. Unknown parameter
|trans_title=
ignored (help) - ↑ "Breogán" (yn en), Wikipedia, 2020-01-13, https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Breog%C3%A1n&oldid=935528972, adalwyd 2020-10-24
- ↑ "Lebor Gabála Érenn" (yn en), Wikipedia, 2020-10-18, https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Lebor_Gab%C3%A1la_%C3%89renn&oldid=984132599, adalwyd 2020-10-24
Andalucía ·
Aragón ·
Asturias ·
Cantabria ·
Castilla-La Mancha ·
Castilla y León ·
Catalwnia ·
Extremadura ·
Galisia ·
Gwlad y Basg ·
Madrid ·
Murcia ·
Navarra ·
La Rioja ·
Valenciana ·
Ynysoedd Balearig ·
Yr Ynysoedd Dedwydd ·
Dinasoedd ymreolaethol
Ceuta ·
Melilla