Pedro Pardo de Cela
Pedro Pardo de Cela | |
---|---|
Ganwyd | Pedro Pardo de Cela Aguiar e Ribadeneira 1420 Betanzos |
Bu farw | 3 Awst 1483 Mondoñedo |
Dinasyddiaeth | Galisia |
Galwedigaeth | arweinydd milwrol |
Plant | Constanza de Castro |
llofnod | |
Uchelwr, merthyr a 'Chadlywydd Galisia' oedd Pedro Pardo de Cela (hefyd: Pedro Pardo de Cela Aguiar e Ribadeneira; c. 1425 - 17 Rhagfyr 1483). Roedd yn fab i Xoán Nunes Pardo, señor de la Torre Cela a Doña Teresa Rodriguez de Aguiar. Fe'i dienyddiwyd gyda'i fab Pedr ar 3 Hydref 1483 o flaen Eglwys Gadeiriol Mondoñedo gan is-frenhinoedd pabyddol.[1]
Mae'r wybodaeth amdano'n gyfuniad o dystiolaeth hanesyddol ac o chwedloniaeth lafar, yn debyg felly i'r Brenin Arthur, a thyfodd Pedro'n symbol o frwydr y Galisiaid dros eu hunaniaeth a'u traddodiadau.
Yn dilyn marwolaeth Henry IV, cefnogodd Pardo de Cela Isabella o Castilla yn erbyn Juana La Beltraneja. Enillodd ffafr y frenhines am hyn, a'i anrhydeddodd gyda hawliau a theitl 'Cadlywydd' a'i wneud yn Faer Viveiro. Fodd bynnag, trodd Isabel a'i gŵr yn erbyn llawer o uchelwyr rhydd Galisia. Cryfhaodd y tensiwn rhwng y ddwy ochr rhwng 1476 ac 1483. Daliwyd ef a'i fab a'u ddienyddio.[2]
Pont Passatempo
[golygu | golygu cod]Yn un o'r chwedlau am ei ddienyddiad, dywedir i'r frenhines Isabella ddanfon pardwn ar femrwn, ond iddo gael ei ddal yn ôl gan ddilynwyr Esgob Mondoñedo, a oedd yn elyn pennaf i Bedro de Cela. Ni chyrhaeddodd y Pardwn. Ychydig wedyn, dienyddiwyd Pedro a dywedir i'w wefusau lefaru'r geiriau "creed, creed, credo".[3] Mae'r bont yn dal i sefyll heddiw ac yn atyniad i bererinion gwladgarol. Ceir llawer o storiau am hyn ar ffurf cerddi, caneuon, nofelau ayb.
The legend tells that the Queen Isabella, merciful with his old ally, gave to his wife, Isabel de Castro, a royal pardon that could never deliver, because it was retained in the so-called Pasatempo Bridge by the followers of the Bishop of Mondoñedo, sworn enemy of the Marshall.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mayán Fernandez, Francisco: The Marshal Pardo de Cela and the church of Mondoñedo in the light of new historical documents. Santiago: Charts A. 1.962.
- ↑ www.tesourosdegalicia.com; adalwyd 13 Mehefin 2015
- ↑ A execução do Marechal Pero Pardo de Cela.