Rosalía de Castro

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rosalía de Castro
Rosalía Castro de Murguía por Luis Sellier.jpg
Ganwyd María Rosalía Rita de Castro Edit this on Wikidata
24 Chwefror 1837 Edit this on Wikidata
Santiago de Compostela Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Gorffennaf 1885 Edit this on Wikidata (48 oed)
Achos: canser crothol Edit this on Wikidata
Padrón Edit this on Wikidata
Galwedigaeth awdur, bardd Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig Cantares gallegos, Follas novas, Q31282836, La flor, En las orillas del Sar, Q5966934, Q19434309 Edit this on Wikidata
Arddull barddoniaeth, nofel, stori fer Edit this on Wikidata
Priod Manuel Murguía Edit this on Wikidata
Plant Ovidio Murguía de Castro, Alejandra Murguía Edit this on Wikidata
Gwobr/au Galician Literature Day Edit this on Wikidata
Gwefan http://rosaliadecastro.org/ Edit this on Wikidata
Llofnod
Rosalia de Castro Firma.svg

Roedd Rosalía de Castro (24 Chwefror 183715 Gorffennaf 1885) yn brif lenor Galisia ac heddiw yn arwres ffeministaidd.

Ysgrifennodd yn Galego (Galisieg) ar adeg pan roedd yr iaith wedi'i gormesu ac ond wedi'i ystyri'n dafodiaith y werin ddi-addysg.[1][2]

Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Cantares gallegos (Cantoriaion Galisieg) ar 17 Mai, 1863. Mae 17 Mai bellach yn cael ei dathlu fel Día das Letras Galegas - Diwrnod llenyddiaeth Galisieg, yn ddiwrnod o wyliau yn Galisia.

Roedd Follas novas (Dail newydd), 1880, ei hail gasgliad yn y Galisieg a'r olaf. [3] Ystyrir y gyfrol hon yn glasur o fewn llenyddiaeth Galisiaidd. Dyma hefyd uchafbwynt gyrfa Castro, gan ei fod yn cynrychioli'r cyfnod rhwng Cantares gallegos a'i nofel radical En las orillas del Sar (1884) a sgwennwyd mewn Sbaeneg. Mae rhan olaf Follas novas am ferched a adawyd yng Ngalisia, wedi i'w gwŷr eu gadael i chwilio am waith.

Priododd Manuel Murguía (1833–1923), yn un o brif ffigyrau y Rexurdimento (adfywiad) – mudiad llenyddol rhamantaidd i hybu llenyddiaeth a'r iaith Galego. Cafodd y cwpl 7 o blant.

Roedd bywyd Castro wedi'i effeithio gan dristwch a thlodi. Gwrthwynebodd gamddefnydd awdurdod ac roedd yn gefnogwr brwd o hawliau merched.[4]

Mae ei gwaith yn cyfleu cryfder enaid pobl werin Galisia – eu llawenydd, doethineb a thraddodiadau, eu dicter at ormes Sbaen, a'u tristwch yn wyneb tlodi ac alltudio i dde America. Mae ei gwaith wedi nodi gan saudade (hiraeth).[5]

Mae ei gwaith wedi'i gyffeithiau i nifer fawr o ieithoedd ac mae ei henw i weld ar enwau parciau, strydoedd, ysgolion a busnesau fel caffis a gwestai[6][7]. Mae ei llun wedi ymddangos ar stampiau ac ar hen arian Sbaen y peseta. [8]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofeb o Rosalia de Castro yn Padrón
Rosalía a'r teulu, 1884.[9]

Yn Galego[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerddi
Rhyddiaith
  • Contos da miña terra I 1864

Yn Sbaeneg[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerddi
  • La Flor 1857
  • A mi madre 1863
  • En las orillas del Sar 1884
Rhyddiaith
  • La hija del mar 1859
  • Flavio 1861
  • El cadiceño 1863
  • Ruinas 1866
  • Las literatas 1866
  • El caballero de las botas azules 1867
  • El primer loco 1881
  • El domingo de Ramos 1881
  • Padrón y las inundaciones 1881

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]