Vigo
Gwedd
| Math | bwrdeistref Galisia |
|---|---|
| Prifddinas | Vigo |
| Poblogaeth | 294,489 |
| Pennaeth llywodraeth | Abel Caballero |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Caracas, Buenos Aires, Narsaq, Durango, An Oriant, Porto, Las Palmas de Gran Canaria, Celaya, Qingdao |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Q107553281 |
| Sir | Talaith Pontevedra |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 109.06 km² |
| Uwch y môr | 28 metr |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Ría de Vigo |
| Yn ffinio gyda | Nigrán, Vigo, O Porriño, Mos, Redondela |
| Cyfesurynnau | 42.2358°N 8.7267°W |
| Cod post | 36201–36216 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Vigo |
| Pennaeth y Llywodraeth | Abel Caballero |
![]() | |
Dinas yng nghymuned ymreolaethol Galisia yn Sbaen yw Vigo. Saif ar lan y môr yn nhalaith Pontevedra. Yn 2005 roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 293,725, a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 420,672. Y diwydiannau pwysicaf yw pysgota ac adeiladu llongau, ac mae'r tîm peldroed, Celta de Vigo, yn adnabyddus.
Adeiladwyd Vigo ar safle bryngaer (Castro) a thref Rufeinig; credir fod yr enw "Vigo" yn dod o'r Lladin Vicus. Yn 1585 a 1589 ymosododd Francis Drake ar y ddinas a llosgi llawer o adeiladau, ac yn ddiweddarach ymosododd y Twrciaid arni. Yn 1656 adeiladwyd muriau i'w hamddiffyn. Cipiwyd y ddinas gan y Saeson yn 1719 a chan y Ffrancwyr yn 1808. Tyfodd yn gyflym yn ystod y 19g a'r 20g.

Pobl enwog o Vigo
[golygu | golygu cod]- Antonio Fernández: arlunydd
- Antonio M. Perez: pennaeth cwmni Eastman Kodak
- Ángel Lemos: arlunydd
- Cesáreo González: cynhyrchydd ffilm
- Martín Codax: bardd
