Durango, Durango
Gwedd
| Math | dinas fawr, ardal poblog Mecsico |
|---|---|
| Poblogaeth | 654,876 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | Cylchfa Amser Canolog |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Durango Municipality |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 118 km² |
| Uwch y môr | 1,880 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 24.0228°N 104.6544°W |
| Cod post | 34000 |
![]() | |
| Sefydlwydwyd gan | Francisco de Ibarra |
Dinas ym Mecsico yw Durango sy'n brifddinas talaith Durango. Ei henw swyddogol yw Victoria de Durango a chyfeirir ati fel Ciudad de Durango (Dinas Durango) hefyd. Dyma ddinas fwyaf y dalaith. Mae'n gorwedd 1,890 meter (6,200 troedfedd) i fyny yng nghanolbarth Mecsico.
Sefydlwyd y ddinas ar 8 Gorffennaf, 1563 gan y fforiwr Basg Francisco de Ibarra. Yng nghyfnod rheolaeth Sbaen bu'n rhan o dalaith Nueva Vizcaya yn Sbaen Newydd, ardal sy'n cyfateb i daleithiau presennol Durango a Chihuahua.
Yn ôk cyfrifiad 2005 mae 463,830 o bobl yn byw yn y ddinas. Gelwir y trigolion yn duranguenses.
