Alexandria Villaseñor
| Alexandria Villaseñor | |
|---|---|
| Ganwyd | 18 Mai 2005 Davis |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | disgybl ysgol, amgylcheddwr, ymgyrchydd hinsawdd |
| Prif ddylanwad | Greta Thunberg |
| Mudiad | amgylcheddaeth, Fridays for Future, Earth Uprising |
Ymgyrchydd yn erbyn newid hinsawdd o'r Unol Daleithiauyw Alexandria Villaseñor (ganwyd 18 Mai 2005). Yn ddilynwr y mudiad Fridays for Future ac yn gyd-ymgyrchydd gyda Greta Thunberg, [1] mae Villaseñor yn gyd-sylfaenydd Streic Hinsawdd Ieuenctid yr UD ac yn sylfaenydd Earth Uprising.[2]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ganwyd Villaseñor yn 2005 yn Davis, Califfornia, lle cafodd ei magu.[3][4] Yn 2018, symudodd y teulu o oddi yno i Efrog Newydd.[5] Ei nod, un diwrnod, yw gweithio i'r Cenhedloedd Unedig.[6]
Ymgyrchu
[golygu | golygu cod]Sbardunwyd brwydr Villaseñor dros weithredu yn erbyn newid hinsawdd pan gafodd ei dal yng nghanol mwg tan gwyllt gwaethaf Califfornia, erioed, sef Tan Camp Creek Road wyn Nhachwedd 2018, yn ystod ymweliad teuluol. Fel dioddefwr asthma, aeth yn sâl a thra roedd i ffwrdd o'r ysgol, ymchwiliodd i'r newid yn yr hinsawdd a'r codiadau tymheredd a gyfrannodd at ddifrifoldeb y tân. [7] Roedd ei mam, Kristin Hogue, wedi ymrestru mewn cwrs MA ar yr Hinsawdd a Chymdeithas ym Mhrifysgol Columbia a byddai Villaseñor yn mynychu'r dosbarth gyda'i mam o bryd i'w gilydd, lle dysgodd am wyddoniaeth sylfaenol newid hinsawdd.[8] Yn fuan wedi hynny, ymunodd â grŵp yn Efrog Newydd o'r enw Zero Hour, grŵp o weithredwyr hinsawdd ifanc.
Cymerodd Villaseñor gamau'n erbyn newid hinsawdd tebyg i Thunberg, a’i hysbrydolodd gyda’i sgwrs ar 4 Rhagfyr 2018 yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP24) yn Katowice, Gwlad Pwyl. Ers 14 Rhagfyr 2018 (yn ystod COP24), [9] bu'n chwarae triwant o'r ysgol bob dydd Gwener er mwyn protestio yn erbyn diffyg gweithredu y- o flaen Pencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.[10] Nid yw hi bellach yn ymwneud â'r grŵp Streic Hinsawdd Ieuenctid yr Unol Daleithiau [11] oddigerth i'r grŵp Earth Uprising a sefydlodd ei hun.[12]
Ym mis Mai 2019, Villaseñor oedd derbynnydd Gwodr Disruptor, un o'r Tribeca Disruptive Innovation Awards (TDIA), derbyniodd ysgoloriaeth gan sefydliad eiriolaeth gyhoeddus The Common Good,[13][14] a dyfarnwyd iddi wobr Arweinyddiaeth Hinsawdd Ieuenctid gan Earth Day Network.[15]
Pan gyrhaeddodd Thunberg Ddinas Efrog Newydd o’i mordaith cwch hwylio trawsatlantig yn Awst 2019, cyfarchwyd Thunberg gan Villaseñor, Xiye Bastida, ac ymgyrchwyr newid hinsawdd eraill. [16] Erbyn hynny, roeddent eisoes wedi sefydlu cysylltiad â'i gilydd dros y cyfryngau cymdeithasol.[17]
Ar 23 Medi 2019, fe ffeiliodd Villaseñor, ynghyd â 15 o weithredwyr ieuenctid eraill gan gynnwys Greta Thunberg, Catarina Lorenzo, a Carl Smith, gŵyn gyfreithiol gyda’r Cenhedloedd Unedig gan gyhuddo pum gwlad, sef Ffrainc, yr Almaen, Brasil, yr Ariannin, a Thwrci o fethu a chynnal eu targedau lleihau Carbon y gwnaethant ymrwymo iddynt yn eu haddewidion yng Nghytundeb Paris (2016).[18][19]
Ganol fis Hydref 2019, mynychodd Uwchgynhadledd Maer y Byd C40 yn Copenhagen, Denmarc.[20]
Ar 19 Awst 2020, anerchodd Villaseñor y Confensiwn Cenedlaethol Democrataidd fel rhan o’u cylch ar newid hinsawdd.[21]
Gwobrau
[golygu | golygu cod]Ar 1 Rhagfyr 2020, cafodd ei henwi gan y cylchgrawn Seventeen fel un o "Leisiau’r Flwyddyn 2020".[22]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Kaplan, Sarah (16 Chwefror 2019). "How a 7th-grader's strike against climate change exploded into a movement". Washington Post. Cyrchwyd 25 Mehefin 2019.
- ↑ "Alexandria Villaseñor". Bulletin of the Atomic Scientists. Cyrchwyd 4 Mai 2019.
- ↑ Milman, Oliver (12 Mawrth 2019). "'We won't stop striking': the New York 13 year-old taking a stand over climate change". The Guardian. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2019.
- ↑ Kaplan, Sarah (16 Chwefror 2019). "How a 7th-grader's strike against climate change exploded into a movement". Washington Post. Cyrchwyd 4 Mai 2019.
- ↑ "Meet Alexandria Villaseñor, the Young Woman Inspiring People to Take Action on the Climate Change Crisis". Glitter Magazine. 24 Mehefin 2019. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2019.
- ↑ Minutaglio, Rose (14 Mawrth 2019). "The World Is Burning. These Girls Are Fighting to Save It". Elle. Cyrchwyd 20 Gorffennaf 2019.
- ↑ Kaplan, Sarah (16 Chwefror 2019). "How a 7th-grader's strike against climate change exploded into a movement". Washington Post. Cyrchwyd 4 Mai 2019.Kaplan, Sarah (16 Chwefror 2019). "How a 7th-grader's strike against climate change exploded into a movement". Washington Post. Adalwyd 4 Mai 2019.
- ↑ Borunda, Alejandra (13 Mawrth 2019). "These young activists are striking to save their planet from climate change". National Geographic. Cyrchwyd 20 Mehefin 2019.
- ↑ Kaplan, Sarah (16 Chwefror 2019). "How a 7th-grader's strike against climate change exploded into a movement". Washington Post. Cyrchwyd 4 Mai 2019. Kaplan, Sarah (16 Chwefror 2019). "How a 7th-grader's strike against climate change exploded into a movement". Washington Post. Adalwyd 4 Mai 2019.
- ↑ Berardelli, Jeff; Ott, Haley (22 Chwefror 2019). "Meet the teens leading a global movement to ditch school and fight climate change". CBS News. Cyrchwyd 4 Mai 2019.
- ↑ "Our Co Executive Directors & National Co-Directors". US Youth Climate Strike. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mawrth 2019. Cyrchwyd 8 Mai 2019.
- ↑ Stuart, Tessa (26 Ebrill 2019). "A New Generation of Activists Is Taking the Lead on Climate Change". Rolling Stone. Cyrchwyd 8 Mai 2019.
- ↑ "The Common Good Forum & American Spirit Awards – May 10, 2019". The Common Good. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2019. Cyrchwyd 25 Mai 2019.
- ↑ "Alexandria Villaseñor". The Common Good. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2019. Cyrchwyd 25 Mai 2019.
- ↑ "14-Year-Old Alexandria Villaseñor Has Been Striking Outside UN Headquarters for 5 Months. Here's Why". Earth Day Network. Cyrchwyd 25 Mai 2019.
- ↑ Lela Nargi (9 Medi 2019). "Greta Thunberg's New York visit inspires young climate activists". Washington Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Medi 2019.
- ↑ Lela Nargi (22 Medi 2019). "14-åriga klimataktivisten Alexandria Villaseñor om vänskapen med Greta Thunberg". Expressen (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Medi 2019.
- ↑ "Why Teen Climate Activist Alexandria Villaseñor Is Suing the World For Violating Her Rights". Earther. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-19. Cyrchwyd 23 Medi 2019.
- ↑ "16 children, including Greta Thunberg, file landmark complaint to the United Nations Committee on the Rights of the Child". www.unicef.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Medi 2019.
- ↑ "Press Conferences" (yn Saesneg). C40 World Mayors Summit. October 10, 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-26. Cyrchwyd October 12, 2019.
- ↑ "Youth Climate Activists to Speak at Democratic National Convention". www.huffpost.com (yn Saesneg). 19 Awst 2020. Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2020.
- ↑ "15 Teens Who Changed the World". www.seventeen.com (yn Saesneg). 1 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2020.