Catarina Lorenzo
Catarina Lorenzo | |
---|---|
Ganwyd | 2000s |
Dinasyddiaeth | Brasil |
Galwedigaeth | amgylcheddwr, ymgyrchydd hinsawdd |
Mae Catarina Lorenzo (ganwyd tua 2006 / 2007) yn ymgyrchydd hinsawdd o Salvador, Bahia, Brasil.[1]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Ganwyd Lorenzo i rieni, neiniau a theidiau oedd hefyd yn ymgyrchwyr dros gyfiawnder amgylcheddol.[2] Fe’i magwyd mewn cartref ble roedd cymryd rhan mewn streiciau ar gyfer amddiffyn afonydd a choedwigoedd a syrffio yn normal.[3]
Gweithredu
[golygu | golygu cod]Ar 23 Medi 2019, ffeiliodd hi a 15 o blant eraill gan gynnwys Greta Thunberg, Alexandria Villaseñor, Ayakha Melithafa, a Carl Smith gwyn gerbron Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i brotestio oherwydd diffyg gweithredu gan y llywodraeth ar yr argyfwng newid hinsawdd. Yn benodol, mae'r gŵyn yn honni bod pum gwlad, sef yr Ariannin, Brasil, Ffrainc, yr Almaen a Thwrci, wedi methu â chyflawni eu haddewidion yn unol â Chytundeb Paris.[4][5]
Yn ddiweddar, ymunodd â Greenkingdom, mudiad amgylcheddol ieuenctid, lle mae'n gweithio fel cydlynydd pennod Brasil. Ymuinodd gydag amgylcheddwr 14 oed o India a Sameer Yasin, sylfaenydd y mudiad ieuenctid.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "#ChildrenVsClimateCrisis". childrenvsclimatecrisis.org. Cyrchwyd 2019-09-23.
- ↑ (yn en) Catarina Lorenzo | My activist story, and how we can ALL make a change, https://www.youtube.com/watch?v=pC0aR_lpWHY, adalwyd 2021-04-20
- ↑ (yn en) Catarina Lorenzo, Brazil, Climate Activist, https://www.youtube.com/watch?v=uYqe2ctMT9s, adalwyd 2021-04-20
- ↑ "Greta and 15 Kids Just Claimed Their Climate Rights at the UN". Earthjustice (yn Saesneg). 2019-09-23. Cyrchwyd 2019-09-23.
- ↑ "UN Thunberg". www.bta.bg (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-09-23.