Greta Thunberg

Oddi ar Wicipedia
Greta Thunberg
GanwydGreta Tintin Eleonora Ernman Thunberg Edit this on Wikidata
3 Ionawr 2003 Edit this on Wikidata
Stockholm Edit this on Wikidata
Man preswylStockholm, Bergshamra Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSweden Edit this on Wikidata
Galwedigaethamgylcheddwr, ymgyrchydd hinsawdd, disgybl ysgol, awdur, ymgyrchydd, ecolegydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amVi vet och vi kan göra något nu, Scenes from the Heart, No One Is Too Small to Make a Difference Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadIngmar Rentzhog, We Don't Have Time Edit this on Wikidata
MudiadFridays for Future Edit this on Wikidata
TadSvante Thunberg Edit this on Wikidata
MamMalena Ernman Edit this on Wikidata
PerthnasauOlof Thunberg Edit this on Wikidata
Gwobr/auGoldene Kamera, Gwobr Fritt Ord, Gwobr Rachel Carson, About You Awards, Gwobr Llysgennad Cydwybod, Fellow of the Royal Scottish Geographical Society, Geddes Environment Medal, Gwobr 'Right Livelihood', Honorary doctor of the University of Mons, Gwobr 100 Merch y BBC, Time Person of the Year, Nature's 10, Human Act Award, Prix Liberté, Doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol British Columbia, doctor honoris causa of the University of Helsinki Edit this on Wikidata
llofnod

Ymgyrchydd amgylcheddol a myfyriwr ysgol Swedaidd yw Greta Ernman Thunberg (Swedish: [²ɡreːta ²tʉːnbærj] (Ynghylch y sain ymagwrando); ganwyd 3 Ionawr 2003) sydd wedi ei disgrifio fel model rôl ar gyfer gweithredu gan fyfyrwyr byd-eang.[1][2]

Mae hi'n adnabyddus am ddechrau'r mudiad streic ysgol dros yr hinsawdd ym mis Tachwedd 2018 a dyfwyd yn gyflym iawn ar ôl cynhadledd COP24 yn 2018 (Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig) ym mis Rhagfyr 2018.

Dechreuodd ei protest personol ym mis Awst 2018 gyda'i Skolstrejk för klimatet (streic ysgol dros yr hinsawdd) fel unigolyn yn barhaol tu allan i'r Riksdag, senedd Sweden. Fe dynnodd sylw y wasg yn araf deg.[3]

Ar 15 Mawrth 2019 roedd oddeutu 1.4 miliwn o fyfyrwyr mewn 112 gwlad o gwmpas y byd wedi ymuno â'i galwad i streicio a phrotestio.[4] Roedd y streic hinsawdd nesaf wedi ei gynllunio am 24 Mai 2019.[5]

Greta Thunberg o flawn senedd Sweden yn Stockholm, Awst 2018

Ar 13 Mawrth 2019, enwebwyd Thunberg gan dri aelod o Storting, senedd Norwy, am ymgeisydd ar gyfer Gwobr Heddwch Nobel yn 2019. Atebodd Thunberg bod hi'n 'freintiedig a diolchgar iawn' am yr enwebiad.[6] Mae Thunberg eisoes wedi derbyn sawl gwobr am ei phrotest.

Effaith ar wleidyddiaeth Cymru[golygu | golygu cod]

Bu Greta Thunberg yn ysbrydoliaeth ac yn ffigwr adnabyddus ifanc a roddodd cyd-destun i ddatganiadau ar berygl newid hinsawdd. Gan roi wyneb a ffigwr bersonol ar ddadl gall fod yn haniaethol.[7] Ar 24 Ebrill 2019 cyfarfu Gret Thunberg ag aelodau seneddol San Steffan i drafod y bygythiad i'r hinsawdd.[8] Bu ei hymddangosiad hi (ymysg nifer fawr o ffactorau tymor hir a mwy eraill) a'r mudiad y sbardunodd yn rhan o'r drafodaeth ac ysgogiad ar i Lywodraeth Cymru gyhoeddi "Argyfwng Hinsawdd" rhai diwrnodau wedi ei hymweliad â Phrydain.[9] yn dilyn dadl a gyflwynwyd gan Blaid Cymru ar y pwnc yn y Cynulliad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Nava, Alessandra (18 Mawrth 2019). "WMN role models: Greta Thunberg". Acrimònia. Cyrchwyd 9 Ebrill 2019.
  2. Lindgren, Emma (2 April 2019). "Greta Thunberg Wins German Award". Inside Scandinavian Business. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-28. Cyrchwyd 9 Ebrill 2019.
  3. Olsson, David (23 Awst 2018). "This 15-year-old Girl Breaks Swedish Law for the Climate". Medium. Cyrchwyd 26 March 2019.
  4. Cohen, Ilana; Heberle, Jacob (19 Mawrth 2019). "Youth Demand Climate Action in Global School Strike". Harvard Political Review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-05. Cyrchwyd 22 March 2019.
  5. Shabeer, Muhammed (16 Mawrth 2019). "Over 1 million students across the world join Global Climate Strike". Peoples Dispatch. Cyrchwyd 22 Mawrth 2019.
  6. Vaglanos, Alanna (14 March 2019). "16-Year-Old Climate Activist Greta Thunberg Nominated For Nobel Peace Prize". Huffington Post. Cyrchwyd 22 Mawrth 2019.
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-02. Cyrchwyd 2019-05-02.
  8. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-02. Cyrchwyd 2019-05-02.
  9. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/48093527