Ystadegaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Graff yn dangos cromlin y ddosraniad normal, fel y'i defnyddir mewn asesu addysgol i gymharu amryw o ddulliau graddio. Dangosir gwahaniad safonol, canrannau cronus, cyfwerthau canrannol, sgorau-Z, sgorau-T, naw safonol, a chanran stanin.

Disgyblaeth fathemategol lydan yw ystadegaeth sy'n astudio ffyrdd o gasglu, crynhoi dadansoddi, dod i casgliadau a chyflwyno data.[1] Mae'n ddefnyddiol ar gyfer amrywiaeth lydan o ddisgyblaethau academaidd o'r gwyddorau ffisegol a chymdeithasol i'r dynoliaethau, yn ogystal a busnes, llywodraeth, a diwydiant.

Mae llawer o gysyniadau ystadegaeth yn dibynnu ar ddealltwriaeth o debygolrwydd, ac fe ddaw sawl term ystadegol o'r maes hwnnw, er enghraifft: poblogaeth, sampl, tebygolrwydd. Unwaith mae'r data wedi eu casglu (trwy ddull samplu ffurfiol, neu drwy nodi canlyniadau rhyw arbrawf neu'i gilydd, neu drwy arsylwi rhyw broses drosodd a throsodd dros amser), gellir cynhyrchu crynhöadau rhifyddol gan ddefnyddio ystadegaeth ddisgrifiol.

Modelir patrymau yn y data i dynnu casgliadau ynglŷn â'r boblogaeth ehangach, gan ddefnyddio ystadegath gasgliadol i ddehongli hapder ac ansicrwydd y sefyllfa. Gall y casgliadau fod yn atebion i gwestiynnau "ie/na" (profi rhagdybiaeth), amcangyfrif nodweddau rhifyddol, rhagweld yr arsylwadau sydd i ddod, disgrifiadau o gysylltiad, neu modelu perthynasau.

Ystadegaeth gymwysiedig yw'r uchod yn y bôn. O gymharu, mae ystadegaeth haniaethol yn is-ddisgybliaeth fathemategol sy'n defnyddio tebygolrwydd a dadansoddi i roi sylfaen theoretig cadarn i ystadegaeth.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Moses, Lincoln E. Think and Explain with statistics, pp. 1 - 3. Addison-Wesley, 1986.