Prawf rhagdybiaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Profi rhagdybiaeth)

Mae prawf rhagdybiaeth ystadegol yn ddull rhifyddol o wneud penderfyniad, gan geisio lleihau rhai o'r peryglon fyddai'n deillio o wneud y penderfyniad anghywir. Fe'n wynebir yn aml gan broblem o wneud penderfyniad cadarn yn y sefyllfa ganlynol: mae gennym ragdybiaeth a all fod yn wir neu'n anwir; nid ydym yn gwybod p'un, ond fe allem arsylwi ar ganlyniadau hap-broses sy'n ddibynol ar y rhagdybiaeth.

Mae rhai dulliau cyffredin yn seiliedig ar amledd yn unig. O'r safbwynt Bayesaidd, ar y llaw arall, mae'n briodol trin profi rhagdybiaethau fel rhan o haniaeth penderfyniadau, lle ystyrir ein argoelion a chasgliadau blaenorol yn ogystal a'r data ei hun. gw. Anwythiad Bayesaidd.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ystadegaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.