Cymdeithaseg

Oddi ar Wicipedia

Astudiaeth cymdeithas a gweithredoedd cymdeithasol bodau dynol yw cymdeithaseg. Yn gyffredinol mae'n ymwneud â rheolau a phrosesau cymdeithasol sy'n cysylltu a gwahanu pobl nid yn unig fel unigolion, ond fel aelodau cymunedau, grwpiau, a sefydliadau, ac yn cynnwys astudiaeth o drefniadaeth a datblygiad bywyd cymdeithasol dynol. Mae ymchwil cymdeithasegol yn amrywio o ddadansoddiad cysylltiadau byrion rhwng unigolion dienw ar y stryd i astudiaeth prosesau cymdeithasol byd-eang. Mae'r rhan fwyaf o gymdeithaswyr yn gweithio mewn un arbenigedd neu fwy.

Mae'r gair cymdeithaseg yn tarddu o'r olddodiad "-eg" sy'n golygu "astudiaeth", a'r gair "cymdeithas" (sef, mewn ystyr llac, "pobl"). Gwyddor cymdeithas sy'n cynnwys astudiaeth bywydau cymdeithasol pobl, grwpiau, a chymdeithasau yw e, a ddiffinir weithiau fel astudiaeth rhyngweithiadau cymdeithasol. Fel disgyblaeth academaidd mae cymdeithaseg yn weddol ifanc – cafodd ei datblygu yn y 19g.

Oherwydd bod cymdeithaseg yn bwnc mor eang, gall fod yn anodd i'w diffinio, hyd yn oed i gymdeithaswyr proffesiynol. Un ffordd ddefnyddiol i ddisgrifio'r ddisgyblaeth yw fel clwstwr o is-feysydd sy'n astudio agweddau gwahanol ar gymdeithas. Er enghraifft, mae haeniad cymdeithasol yn astudio anghyfartaledd a'r strwythur dosbarth; mae demograffeg yn astudio newidiadau mewn meintiau a mathau poblogaethau; mae troseddeg yn astudio ymddygiadau troseddol; mae cymdeithaseg wleidyddol yn astudio llywodraeth a'r gyfraith; ac mae cymdeithaseg hil a chymdeithaseg rhyw yn astudio adeiladwaith hiliau a rhywiau yn ogystal ag anghyfartaledd hiliol a rhywiaethol yng nghymdeithas. Mae is-feysydd cymdeithasegol dal i ymddangos – megis dadansoddiad rhwydwaith – ac mae nifer ohonynt yn groes-ddisgyblaethol eu natur.

Mae nifer o gymdeithaswyr yn gwneud ymchwil defnyddiol y tu allan i'r academi. Mae eu darganfyddiadau yn cynorthwyo addysgwyr, deddfwyr, gweinyddwyr, datblygwyr, arweinwyr busnes, a phobl sydd â diddordeb yn natrys problemau cymdeithasol a ffurfio polisi cyhoeddus.


Gwyddorau cymdeithas
Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg
Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg