Tour de France 2011

Oddi ar Wicipedia
Tour de France 2011
Enghraifft o'r canlynolTour de France Edit this on Wikidata
Math2.UWT Edit this on Wikidata
Rhan o2011 UCI World Tour Edit this on Wikidata
Dechreuwyd2 Gorffennaf 2011 Edit this on Wikidata
Daeth i ben24 Gorffennaf 2011 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganTour de France 2010 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganTour de France 2012 Edit this on Wikidata
Yn cynnwys2011 Tour de France, Stage 1, 2011 Tour de France, Stage 2, 2011 Tour de France, Stage 3, 2011 Tour de France, Stage 4, 2011 Tour de France, Stage 5, 2011 Tour de France, Stage 6, 2011 Tour de France, Stage 7, 2011 Tour de France, Stage 8, 2011 Tour de France, Stage 9, 2011 Tour de France, Stage 10, 2011 Tour de France, Stage 11, 2011 Tour de France, Stage 12, 2011 Tour de France, Stage 13, 2011 Tour de France, Stage 14, 2011 Tour de France, Stage 15, 2011 Tour de France, Stage 16, 2011 Tour de France, Stage 17, 2011 Tour de France, Stage 18, 2011 Tour de France, Stage 19, 2011 Tour de France, Stage 20, 2011 Tour de France, Stage 21 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.letour.fr/indexus.html Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o lwybr Tour de France 2011

Tour de France 2011 oedd 98fed rhifyn o'r Tour de France. Cychwynodd ar 2 Gorffennaf 2011 gyda chymal cyntaf o 80 cilomedr yn Passage du Gois, a gorffenodd ar y Champs-Élysées ym Mharis ar 24 Gorffennaf. Cyhoeddwyd llwybr Tour de France 2011 ar 19 Hydref 2010.

Roedd pwyslais y ras yn yr Alpau yn 2011, fel ag y bu ras 2010 ar y Pyreneau, er mwyn dathlu canmlwyddiant y Tour yn teithio drost eu brig.[1] Ymwelwyd â Col du Galibier ddwywaith yn ystod y ras, ac yng nghymal 18 gorffennodd y peleton ar frig y mynydd, ar uchder o 2645 medr, am y tro cyntaf.[2] Hwn oedd y pwynt uchaf lle bu cymal yn gorffen erioed yn ystod y ras, gan guro'r record gynt, a ddelwyd gan y Col du Granon (2413 m, ger Serre Chevalier) lle orffennodd cymal 17 yn Tour de France 1986.

Newid rheolau[golygu | golygu cod]

Bu newidiadau yn rheolau ras Tour 2011 ar sut yr enillir y Dosbarthiad Pwyntiau a Brenin y Mynyddoedd Gynt, roedd gan gymalau a gafodd eu categoreiddio fel rhai gwastad dri sbrint canolog, gyda phwyntiau ar gael i'r tri reidiwr cyntaf i groesi'r llinell, sef 6, 4 a 2 pwynt. Ond ar gyfer ras 2011, bydd ond un sbrint canolog, gyda 20 pwynt ar gael i'r reidiwr cyntaf i groesi'r llinell, a bydd pwyntiau ar gael hyd y 15fed reidiwr i groesi'r llinell. Y bwriad yw i ysgogi'r ffefrynnau yn y gystadleuaeth bwyntiau i sbrintio ddwywaith yn ystod y cymal, yn hytrach nag aros tan ddiwedd y dydd ac ond sbrintio am y pwyntiau sydd ar gael am ennill y cymal.[3] Bydd y nifer o bwyntiau ar gael ar ddiwedd y cymalau gwastad hefyd yn cynyddu o 40 i 45 ar gyfer yr enillydd. Ni wyddir eto os fydd y raddfa bwyntiau ar gyfer y cymalau mynyddig canolig, y cymalau mynyddig a'r cymalau treial amser unigol yn cael eu newid yn ogystal ai peidio.[4]

Gynt, gwobrwywyd pwyntiau dwbl ar gopa esgyniad hors catégorie, categori cyntaf, neu ail gategori, os mai hwnnw oedd yr esgyniad olaf y diwrnod hwnnw. Yn 2011, dim ond pan fydd cymal yn gorffen ar gopa y bydd pwyntiau dwbl ar gael, sef cymal 12, a fydd yn gorffen yn Luz Ardiden, cymal 14 ar Plateau de Beille, cymal 18 ar y Col du Galibier, a chymal 19 ar yr Alpe d'Huez. Gynt gwobrwywyd pwyntiau i'r wyth cyntaf dros gopa esgyniad categori cyntaf, a'r chwech cyntaf drost gopa esgyniad ail gategori, a'r pedwar cyntaf dros gopa esgyniad trydydd categori, ond rwan bydd y chwech cyntaf dros gopa unrhyw esgyniad yn y tri categori hwn yn ennill pwyntiau. Dim ond un reidiwr fydd yn ennill pwyntiau ar gyfer esgyniad pedwerydd categori.[5] Yn fuan iawn wedi'r datganiad, bu dyfaliadau y byddai enillydd y dosbarthiad mynyddoedd, odan y rheolau newydd, yn fwy tebygol o fod yn gystadleuydd cryf yn y dosbarthiad cyffredinol, i gymharu â chynt.[6]

Cymalau[golygu | golygu cod]

Cymal Dyddiad Dechrau – Gorffen Pellter Math Enillydd
1 2 Gorffennaf Passage du GoisMont des Alouettes 191.5 km Cymal gwastad Baner Gwlad Belg Philippe Gilbert
2 3 Gorffennaf Les EssartsLes Essarts 23 km Treial amser tîm Garmin-Cervélo
3 4 Gorffennaf Olonne-sur-MerRedon 198 km Cymal gwastad Baner UDA Tyler Farrar
4 5 Gorffennaf LorientMûr-de-Bretagne 172.5 km Cymal ymdonnog Baner Awstralia Cadel Evans
5 6 Gorffennaf CarhaixCap Fréhel 164.5 km Cymal gwastad Baner Prydain Fawr Mark Cavendish
6 7 Gorffennaf DinanLisieux 226.5 km Cymal gwastad Baner Norwy Edvald Boasson Hagen
7 8 Gorffennaf Le MansChateauroux 218 km Cymal gwastad Baner Prydain Fawr Mark Cavendish
8 9 Gorffennaf AigurandeSuper-Besse 189 km Cymal mynyddig canolig Baner Portiwgal Rui Costa
9 10 Gorffennaf IssoireSaint-Flour 208 km Cymal mynyddig canolig Baner Sbaen Luis León Sánchez
11 Gorffennaf Diwrnod gorffwys
10 12 Gorffennaf AurillacCarmaux 158 km Cymal gwastad Baner Yr Almaen André Greipel
11 13 Gorffennaf Blaye-les-MinesLavaur 167.5 km Cymal gwastad Baner Prydain Fawr Mark Cavendish
12 14 Gorffennaf CugnauxLuz-Ardiden 211 km Cymal mynyddig Baner Sbaen Samuel Sánchez
13 15 Gorffennaf PauLourdes 152.5 km Cymal mynyddig Baner Norwy Thor Hushovd
14 16 Gorffennaf Saint-GaudensPlateau de Beille 168.5 km Cymal mynyddig Baner Gwlad Belg Jelle Vanendert
15 17 Gorffennaf LimouxMontpellier 192.5 km Cymal gwastad Baner Prydain Fawr Mark Cavendish
18 Gorffennaf Diwrnod gorffwys
16 19 Gorffennaf Saint-Paul-Trois-ChâteauxGap 162.5 km Cymal mynyddig canolig Baner Norwy Thor Hushovd
17 20 Gorffennaf GapPinerolo 179 km Cymal mynyddig Baner Norwy Edvald Boasson Hagen
18 21 Gorffennaf PineroloCol du Galibier / Serre Chevalier 200.5 km Cymal mynyddig Baner Lwcsembwrg Andy Schleck
19 22 Gorffennaf ModaneL'Alpe d'Huez 109.5 km Cymal mynyddig Baner Ffrainc Pierre Rolland
20 23 Gorffennaf GrenobleGrenoble 42.5 km Treial amser unigol Baner Yr Almaen Tony Martin
21 24 Gorffennaf Creteil – Paris (Champs-Élysées)... 95 km Cymal gwastad Baner Prydain Fawr Mark Cavendish

Arweinwyr y dosbarthiadau[golygu | golygu cod]

Cymal Enillydd Dosbarthiad cyffredinol

Maillot jaune
Dosbarthiad Pwyntiau

Maillot vert
Brenin y Mynyddoedd

Maillot à pois rouges
Reidiwr Ifanc

Maillot blanc
Dosbarthiad Tîm

Classement par équipe
Gwobr Brwydrol

Prix de combativité
1 Philippe Gilbert Philippe Gilbert Philippe Gilbert Philippe Gilbert Geraint Thomas Omega Pharma-Lotto Perrig Quemeneur
2 Garmin-Cervélo Thor Hushovd Garmin-Cervélo dim gwobr
3 Tyler Farrar José Joaquín Rojas Mickaël Delage
4 Cadel Evans Cadel Evans Jérémy Roy
5 Mark Cavendish Philippe Gilbert Iván Gutiérrez
6 Edvald Boasson Hagen Johnny Hoogerland Adriano Malori
7 Mark Cavendish José Joaquín Rojas Robert Gesink Yannick Talabardon
8 Rui Costa Philippe Gilbert Tejay van Garderen Tejay van Garderen
9 Luis León Sánchez Thomas Voeckler Johnny Hoogerland Europcar Juan Antonio Flecha a
Johnny Hoogerland
10 André Greipel Marco Marcato
11 Mark Cavendish Mark Cavendish Mickaël Delage
12 Samuel Sánchez Samuel Sánchez Arnold Jeannesson Leopard Trek Geraint Thomas
13 Thor Hushovd Jérémy Roy Garmin-Cervélo Jérémy Roy
14 Jelle Vanendert Jelle Vanendert Rigoberto Urán Leopard Trek Sandy Casar
15 Mark Cavendish Niki Terpstra
16 Thor Hushovd Garmin-Cervélo Mikhail Ignatiev
17 Edvald Boasson Hagen Rubén Pérez
18 Andy Schleck Rein Taaramäe Andy Schleck
19 Pierre Rolland Andy Schleck Samuel Sánchez Pierre Rolland Alberto Contador
20 Tony Martin Cadel Evans dim gwobr
21 Mark Cavendish
Terfynol Cadel Evans Mark Cavendish Samuel Sánchez Pierre Rolland Garmin-Cervélo Jérémy Roy

Nodiadau[golygu | golygu cod]

Pan mae un reidiwr yn arwain mwy nag un cystadleuaeth ar ddiwedd cymal mae'n derbyn pob crys, ond dim ond un crys gaiff ei wisgo y diwrnod canlynol. Mae'n gwisgo crys y gystadleuaeth pwysicaf (yn y drefn yma - melyn, gwyrdd, dot polca, gwyn).[7] Mae'r crysau eraill a ddeilir gan y reidiwr yn cael eu gwisgo gan y reidiwr sy'n ail yn y gystadlauaeth eilradd hwnnw (neu'r trydydd, pedwerydd reidiwr ayb. fel bo'r angen).

  • Yng nghymal 2, gwisgodd Cadel Evans, a oedd yn ail yn y gystadleuaeth bwyntiau, y crys gwyrdd, gan fod Philippe Gilbert yn arwain y dosbarthiad cyffredinol, brenin y mynyddoedd a'r dosbarthiad pwyntiau. Thor Hushovd, a oedd yn drydydd yn y dosbarthiad cyffredinol a'r pwyntiau, a wisgodd y crys dot polca.
  • Yng nghymal 3, deliodd Philippe Gilbert y dosbarthiad pwyntiau a brenin y mynyddoedd, felly Cadel Evans wisgodd y crys dot polca.
  • Yng nghymal 10, gwisgodd Juan Antonio Flecha a Johnny Hoogerland y rhif coch. Derbyniont y wobr brwydrol wedi gorffen y cymal ar ôl iddynt cael eu trywanu oddiar eu beiciau gan gar teledu.[8] Gwrthododd Flecha a fynd ar y podiwm i dderbyn y wobr, ond roedd Hoogerland yn eisioes, gan iddo dderbyn y crys dot polca yn ogystal.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Stephen Farrand (28 Ionawr 2011). 2011 Tour De France To Celebrate The Alps. Cyclingnews.com.
  2.  Tour de France 2011 – The Galibier 1911–2011. Letour.fr (10 Gorffennaf 1911).
  3.  Hedwig Kröner (19 Hydref 2010). 2011 Tour De France Route Announced. Cyclingnews.com.
  4.  Boonen Expects More Tactical Tussle For Tour's Green Jersey. Cyclingnews.com (20 Hydref 2010).
  5.  Jean-François Quénet (19 Hydref 2010). Charteau Unimpressed By New 2011 Polka-dot Jersey Points System. Cyclingnews.com.
  6.  Barry Ryan (19 Hydref 2010). Virenque Tips Sastre For Mountains Jersey At 2011 Tour De France. Cyclingnews.com.
  7.  Tour de France 2009 Regulations. LeTour.fr.
  8.  Julien Pretot (10 Gorffennaf 2011). Tour riders outraged after ‘reckless driving’ leads to crash. National Post.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

1903 · 1904 · 1905 · 1906 · 1907 · 1908 · 1909 · 1910 · 1911 · 1912 · 1913 · 1914
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015