Tour de France 1983

Oddi ar Wicipedia
Tour de France 1983
Enghraifft o'r canlynolTour de France Edit this on Wikidata
Rhan o1983 Super Prestige Pernod Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1 Gorffennaf 1983 Edit this on Wikidata
Daeth i ben24 Gorffennaf 1983 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan1982 Tour de France Edit this on Wikidata
Olynwyd gan1984 Tour de France Edit this on Wikidata
Yn cynnwys1983 Tour de France, prologue, 1983 Tour de France, stage 1, 1983 Tour de France, stage 2, 1983 Tour de France, stage 3, 1983 Tour de France, stage 4, 1983 Tour de France, stage 5, 1983 Tour de France, stage 6, 1983 Tour de France, stage 7, 1983 Tour de France, stage 8, 1983 Tour de France, stage 9, 1983 Tour de France, stage 10, 1983 Tour de France, stage 11, 1983 Tour de France, stage 12, 1983 Tour de France, stage 13, 1983 Tour de France, stage 14, 1983 Tour de France, stage 15, 1983 Tour de France, stage 16, 1983 Tour de France, stage 17, 1983 Tour de France, stage 18, 1983 Tour de France, stage 19, 1983 Tour de France, stage 20, 1983 Tour de France, stage 21, 1983 Tour de France, stage 22 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Tour de France 1983 oedd 90fed ras Tour de France. Cychwynnodd ar 1 Gorffennaf 2003 gyda chymal prologue yn Fontenay-sous-Bois, a 22 cymal i ddilyn yn gorffen ar y Champs-Élysées ym Mharis ar 22 Gorffennaf. Roedd y llwybr yn 3,809 km (2366.8 mi) o hyd.[1] Ymwelodd y Tour â'r Swistir y flwyddyn hon yn ogystal.

Newidiwyd rheolau cystadlaeaeth y Crys Gwyn ar gyfer 1983, fel ei bod ond yn agored i'r rheiny oedd yn cytadlu yn y ras am y tro cyntaf. Cyfrifwyd y gystadlaeaeth gynt gan ddefnyddio amseroedd y tri cyntaf cymwys ym mhob cymal, newidiwyd hyn i bedwar reidiwr ym 1983.[2] Gan mai Laurent Fignon oedd y reidiwr buddugol a gipiodd y Crys Melyn, a hynny'n dilyn y tro cyntaf iddo gychwyn y ras, ef a gipiodd y Crys Gwyn yn ogystal.

Y gwyddel Sean Kelly a gipiodd y Crys Gwyrdd, a Lucien Van Impe o Wlad Belg enillodd y Crys Dot Polca.

Roedd trefnwyr y Tour eisiau ehangu seiclo i fod yn chwaraeon byd eang, gan gynnwys seiclwyr o'r Bloc Dwyreiniol. Ond, gan mai ond seiclwyr amatur, nid rhai proffesiynol oedd i'w cael yn y dwyrain, agorwyd y Tour i dimau amatur. Ond, yn y pen draw, dim ond timau amatur cenedlaethol o Golombia a Portiwgal a wnaeth gais i gymryd rhan, a thynnodd tîm Portiwgal allan cyn cychwyn y ras.

Cymalau[golygu | golygu cod]

Cymal Dyddiad Dechrau – Gorffen Math Pellter Enillydd[3][4]
P 1 Gorffennaf Fontenay-sous-Bois Treial amser 6 km (3.7 mi) Baner Gwlad Belg Eric Vanderaerden
1 2 Gorffennaf Nogent-sur-MarneCréteil Cymal gwastad 163 km (101 mi) Baner Yr Iseldiroedd Frits Pirard
2 3 Gorffennaf SoissonsFontaine-au-Pire Treial amser tîm 100 km (62 mi) Mercier
3 4 Gorffennaf ValenciennesRoubaix Cymal bryniog 152 km (94 mi) Baner Gwlad Belg Rudy Matthijs
4 5 Gorffennaf Roubaix – Le Havre Cymal gwastad 300 km (190 mi) Baner Y Swistir Serge Demierre
5 6 Gorffennaf Le Havre – Le Mans Cymal gwastad 257 km (160 mi) Baner Ffrainc Dominique Gaigne
6 7 Gorffennaf ChâteaubriantNantes Individual time trial 58 km (36 mi) Baner Yr Iseldiroedd Bert Oosterbosch
7 8 Gorffennaf Nantes – Île d'Oléron Cymal gwastad 216 km (134 mi) Baner Yr Eidal Riccardo Magrini
8 9 Gorffennaf La RochelleBordeaux Cymal gwastad 222 km (138 mi) Baner Yr Iseldiroedd Bert Oosterbosch
9 10 Gorffennaf Bordeaux – Pau Cymal gwastad 207 km (129 mi) Baner Ffrainc Philippe Chevallier
10 11 Gorffennaf Pau – Bagnères-de-Luchon Cymal mynyddig 201 km (125 mi) Baner Prydain Fawr Robert Millar
11 12 Gorffennaf Bagnères-de-Luchon – Fleurance Cymal gwastad 177 km (110 mi) Baner Ffrainc Régis Clère
12 13 Gorffennaf Fleurance – Roquefort-sur-Soulzon Cymal gwastad 261 km (162 mi) Baner Denmarc Kim Andersen
13 14 Gorffennaf Roquefort-sur-Soulzon – Aurillac Cymal bryniog 210 km (130 mi) Baner Yr Iseldiroedd Henk Lubberding
14 15 Gorffennaf Aurillac – Issoire Cymal bryniog 149 km (93 mi) Baner Ffrainc Pierre Le Bigaut
15 16 Gorffennaf Clermont-FerrandPuy de Dôme Treial amser 16 km (9.9 mi) Baner Sbaen Ángel Arroyo
16 17 Gorffennaf Issoire – Saint-Étienne Cymal bryniog 144 km (89 mi) Baner Ffrainc Michel Laurent
17 18 Gorffennaf La Tour-du-PinAlpe d'Huez Cymal mynyddig 223 km (139 mi) Baner Yr Iseldiroedd Peter Winnen
18 20 Gorffennaf Le Bourg-d'OisansMorzine Cymal mynyddig 247 km (153 mi) Baner Ffrainc Jacques Michaud
19 21 Gorffennaf Morzine – Avoriaz Individual time trial 15 km (9.3 mi) Baner Gwlad Belg Lucien Van Impe
20 22 Gorffennaf Morzine – Dijon Cymal gwastad 291 km (181 mi) Baner Ffrainc Philippe Leleu
21 23 Gorffennaf Dijon Treial amser 50 km (31 mi) Baner Ffrainc Laurent Fignon
22 24 Gorffennaf AlfortvilleParis (Champs-Élysées) Cymal gwastad 195 km (121 mi) Baner Y Swistir Gilbert Glaus

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

Roedd sawl dosbarthiad yn Tour de France 1983, â phedwar ohonynt yn gwobrwyo crysau i'w harweinwyr. Y pwysicaf oedd y dosbarthiad cyffredinol, a gyfrifwyd gan gyfanswm amser gorffen y reidiwr ym mhob cymal. Y seiclwr gyda'r cyfanswm lleiaf o amser oedd yr arweinydd, ac adnabyddwyd gan grys melyn; enillydd y dosbarthiad cyffredinol hwn yw enillydd y Tour.[5]

Roedd hefyd cystadleuaeth bwyntiau, gyda reidwyr yn ennill pwyntiau am fod ymysg y gorffenwyr gorau ar ddiwedd pob cymal, neu mewn cystadlaethau gwibio yn ystod y cymal. Adnabyddwyd y reidiwr gyda'r nifer fwyaf o bwyntiau gan grys gwyrdd.[5]

Roedd hefyd dosbarthiad mynyddoedd ar gyfer y dringwyr gorau. Roedd trefnwyr y Tour wedi categoreiddio pob esgyniad yn ôl ei chaletrwydd, ynteu yn hors catégorie, categori gyntaf, ail, trydydd a phedwaredd categori; gwobrwywyd pwyntiau i'r rheiny a gyrrhaeddodd copa'r esgyniadau rhain gyntaf, gyda nifer fwy o bwyntiau ar gael ar gyfer esgyniadau o gategori uwch. Adnabyddwyd y reidiwr gyda'r nifer fwyaf o bwyntiau gan grys dot polca.[5]

Y dosbarthiad "debutant" oedd ar gyfer y reidwyr ifanc, ond dim ond y rheiny oedd yn cystadlu yn y Tour am y tro cyntaf oedd yn gymwys ar gyfer y gystadlaeaeth hon. Cyfrifwyd yr enillydd yn yr un modd a'r dosbarthiad cyffredinol, ac adnabyddwyd yr arweinydd gan grys gwyn.[5]

Y pumed dosbarthiad oedd y dosbarthiad sbrintiau canolraddol, ar gyfer y cystadlaethau gwibio yn ystod y cymalau. Ni wobrwywyd crys ar gyfer y dosbarthiad hwn[6] <--For the team classification, the times of the best three cyclists per team on each stage were added; the leading team was the team with the lowest total time. The riders in the team that lead this classification wore yellow caps.[7] There was also a team points classification. After each stage, the stage rankings of the best three cyclists per team were added, and the team with the least total lead this classification, and were identified by green caps.[8] -->

Dosbarthiad cyffredinol[golygu | golygu cod]

Dosbarthiad cyffredinol (1–10)[3]
Reidiwr Tîm Amser
1 Baner Ffrainc Laurent Fignon Renault-Elf-Gitane 105h 07' 52"
2 Baner Sbaen Ángel Arroyo Reynolds +4' 04"
3 Baner Yr Iseldiroedd Peter Winnen TI-Raleigh-Campagnolo +4' 09"
4 Baner Gwlad Belg Lucien Van Impe Metaurobili-Pinarello +4' 16"
5 Baner Ffrainc Robert Alban La Redoute +7' 53"
6 Baner Ffrainc Jean-René Bernaudeau Wolber +8' 59"
7 Baner Gweriniaeth Iwerddon Sean Kelly SEM-Mavic-Reydel +12' 09"
8 Baner Ffrainc Marc Madiot Renault-Elf-Gitane +14' 55"
9 Baner Awstralia Phil Anderson Peugeot-Shell-Michelin +16' 56"
10 Baner Yr Iseldiroedd Henk Lubberding TI-Raleigh-Campagnolo +18' 55"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. (Ffrangeg) Jacques Augendre (2015). Guide Historique 2015 (PDF). Amaury Sport Organisation. Adalwyd ar 10 Gorffennaf 2015.
  2. (Iseldireg) Alleen Portugese en Colombiaanse amateurs in Ronde van Frankrijk. Amigoe (13 Ionawr 1983). Adalwyd ar 29 Rhagfyr 2013.
  3. 3.0 3.1 "70ème Tour de France 1983" (yn French). Memoire du cyclisme. Cyrchwyd 15 August 2011.CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. Zwegers, Arian. "Tour de France GC Top Ten". CVCC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-10. Cyrchwyd 15 Aug 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 Christian, Sarah (2 July 2009). "Tour de France demystified - Evaluating success". RoadCycling.co.nz Ltd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-09. Cyrchwyd 27 April 2012.
  6. Mark, Eddy van der. "Tour Xtra: Intermediate Sprints Classification". Chippewa Valley Cycling Club. Cyrchwyd 27 April 2012.
  7. Chauner, David; Halstead, Michael (1990). The Tour de France Complete Book of Cycling. Villard. ISBN 0-679-72936-4. Cyrchwyd 27 April 2012.
  8. Mark, Eddy van der. "Tour Xtra: Other Classifications & Awards". Chippewa Valley Cycling Club. Cyrchwyd 27 April 2012.
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 "Clasificaciones". El Mundo Deportivo (yn Spanish). 25 July 1983. Cyrchwyd 19 February 2012.CS1 maint: unrecognized language (link)
  10. 10.0 10.1 10.2 "Eindklassement". Leidsch Dagblad (yn Dutch). Regionaal Archief Leiden. 25 July 1983. t. 10. Cyrchwyd 18 July 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)[dolen marw]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

1903 · 1904 · 1905 · 1906 · 1907 · 1908 · 1909 · 1910 · 1911 · 1912 · 1913 · 1914
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015