Alpe d'Huez

Oddi ar Wicipedia
Alpe d'Huez
Mathcyrchfan sgïo, free flight site Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAlpe d'Huez Grand Domaine Ski Edit this on Wikidata
SirHuez Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Uwch y môr1,860 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.09°N 6.07°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddGrandes Rousses Edit this on Wikidata
Map

Cyrchfan sgio yw Alpe d'Huez yng nghymuned Huez, yn département Isère. Fe'i lleolir ar borfa mynyddig yn yr Alpau ar lefel o 1860 metr (3330 troedfedd) uwchben y môr.

Yr haf ar Alpe d'Huez[golygu | golygu cod]

Tour de France[golygu | golygu cod]

Mae Alpe d'Huez yn un o'r mynyddoedd pwysicaf yn y Tour de France. Mae cymal wedi gorffen yno bron pob blwyddyn ers 1976. Cynhaliwyd y cyntaf yno yn 1952 ac enillodd Fausto Coppi.[1]

Daethpwyd a'r ras i'r mynydd gan Élie Wermelinger, y prif commissaire (dyfarnwr).[1] Gyrroedd ei gar, Dyna-Panhard, rhwng y cloddiau o eira a safai naill ochr i'r ffordd ym mis Mawrth 1952, wedi iddo gael ei wahodd gan gonsortiwm o fusnesau a oedd wedi agor gwestai ar y copa.[2] Georges Rajon, a oedd yn rhedeg Hotel Christina, oedd arweinydd y consortiwm.[3] Agorodd yr orsaf sgio yno ym 1936, felly roedd y ffordd wedi cael ei ledaenu er ei fod yn llawn tyllau. Adroddodd Wermelinger yn ôl at y trefnydd, Jacques Goddet, ac arwyddodd y Tour gytundeb gyda'r dynion busnes i gynnwys Alpe d'Huez yn llwybr y Tour.[2] Costiodd swm sy'n gyfartal i €3,250 mewn arian cyfoes.[3]

Yn y cymal cyntaf ar Alpe d'Huez, ymosododd Fausto Coppi 6 km o'r copa er mwyn disgyn y reidiwr Ffrangeg, Jean Robic, gan fynd ymlaen i ennill. Dywedodd Coppi ei fod yn gwybod iddo ei ddisgyn gan na allai glywed ei anadlu na sŵn teiars ar y ffordd y tu ôl iddo bellach.[1][4] Trodd yr Alpe yn lledrith yn syth oherwydd mai hwn oedd y tro cyntaf i feiciau modur, gyda criwiau ffilmio ar gyfer y teledu, ddilyn y Tour.[1] Dyma hefyd oedd y tro cyntaf i gymal y Tour orffen ar gopa mynydd.[5]

Wedi buddugoliaeth Coppi, ni gynhwyswyd yr Alpe hyd 1964, ac bu absenodeb arall unwaith eto hyd 1976,[6] ymddangosodd y ddwy dro hwn oherwydd cynnig Rajon.[3]

Mae'r esgyniad yn 13.8 km o hyd ar lethr ar gyfartaledd o 7.9%, mae 21 tro pin-gwallt (les 21 virages), pob un wedi eu enwi ar ôl enillydd cymal 'r Tour yno. Roedd gormod o enillwyr erbyn iddo gael ei gynnal am yr 21ain tro, fell ychwanegwyd enw Lance Armstrong at enw Coppi ar y tro cyntaf ar waelod yr allt.

Gwyliwyr[golygu | golygu cod]

Mae torf anhrefn o wyliwyr ar yr Alpe yn aml. Cafodd Giuseppe Guerini ei daro oddi ar ei feic ym 1999, pan neidiodd gwyliwr allan i dynnu ei lun, fe aeth Guerini ymlaen i ennill y cymal er hynnu. Daeth anhrefn yn ystod treial amser unigol 2004 pen ddechreuodd y gwyliwyr wthio'r reidwyr fyny tuag at y copa. Mae ffigyrau'r gwylwyr yn amrywio'n fawr, ac nid yn gwbl ddibynadwy, hawliwyd fod miliwn yno ym 1997. Ond dywedodd Maer Alpe d'Huez, Eric Muller, y bu 350,000 yno yn 2001, er i bawb honni fod y ffigwr yn dringo yn flynyddol.[7]

Enillwyr[golygu | golygu cod]

Gorffennodd cymal 2008 ar uchder o 1850 metr yn hytrach na 1860 fel y bu ym mhob cymal cynt.

Blwyddyn Cymal Cychwyn Pellter (km) Categori Enillydd y cymal Cenediglrwydd Crys Melyn Tro
2008 17 Embrun 210.5 HC Carlos Sastre Baner Sbaen Sbaen Carlos Sastre 17
2006 15 Gap 187 HC Fränk Schleck Baner Luxembourg Luxembourg Floyd Landis 18
2004 16 Bourg-d'Oisans 15.5 (ITT) HC Lance Armstrong Baner UDA UDA Lance Armstrong 19
2003 8 Sallanches 219 HC Iban Mayo Baner Sbaen Sbaen Lance Armstrong 20
2001 10 Aix-les-Bains 209 HC Lance Armstrong Baner UDA UDA Lance Armstrong 21
1999 10 Sestrières 220.5 HC Giuseppe Guerini Baner Yr Eidal Yr Eidal Lance Armstrong 1
1997 13 Saint-Étienne 203.5 HC Marco Pantani Baner Yr Eidal Yr Eidal Jan Ullrich 2
1995 10 AimeLa Plagne 162.5 HC Marco Pantani Baner Yr Eidal Yr Eidal Miguel Indurain 3
1994 16 Valréas 224.5 HC Roberto Conti Baner Yr Eidal Yr Eidal Miguel Indurain 4
1992 14 Sestrières 186.5 HC Andrew Hampsten Baner UDA UDA Miguel Indurain 5
1991 17 Gap 125 HC Gianni Bugno Baner Yr Eidal Yr Eidal Miguel Indurain 6
1990 11 Saint-GervaisMont Blanc 182.5 HC Gianni Bugno Baner Yr Eidal Yr Eidal Ronan Pensec 7
1989 17 Briançon 165 HC Gert-Jan Theunisse Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Laurent Fignon 8
1988 12 Morzine 227 HC Steven Rooks Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Pedro Delgado 9
1987 20 Villard-de-Lans 201 HC Federico Echave Baner Sbaen Sbaen Pedro Delgado 10
1986 18 BriançonSerre Chevalier 182.5 HC Bernard Hinault Baner Ffrainc Ffrainc Greg LeMond 11
1984 17 Grenoble 151 HC Luis Herrera Baner Colombia Colombia Laurent Fignon 12
1983 17 La Tour-du-Pin 223 HC Peter Winnen Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Laurent Fignon 13
1982 16 Orcières-Merlette 123 HC Beat Breu Baner Y Swistir Y Swistir Bernard Hinault 14
1981 19 Morzine 230.5 HC Peter Winnen Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Bernard Hinault 15
1979* 18 Alpe d'Huez 118.5 HC Joop Zoetemelk Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Bernard Hinault 16
1979* 17 Les Menuires 166.5 HC Joaquim Agostinho Baner Portiwgal Portiwgal Bernard Hinault 17
1978 16 Saint-Étienne 240.5 1 Hennie Kuiper Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Joop Zoetemelk 18
1977 17 Chamonix 184.5 1 Hennie Kuiper Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Bernard Thévenet 19
1976 9 Divonne-les-Bains 258 1 Joop Zoetemelk Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd Lucien Van Impe 20
1952 10 Lausanne 266 1 Fausto Coppi Baner Yr Eidal Yr Eidal Fausto Coppi 21

*Roedd dau gymal ar Alpe d'Huez ym 1979.

Defnyddir y cpa hefyd fel diwedd La Marmotte, reid un dydd 175 km o hyd sy'n cynnwyd 5000m o ddringo. Defnyddir hefyd ar gyfer sgio lawr allt neu sgio Alpaidd.

Esgyniadau cyflymaf Alpe d'Huez[golygu | golygu cod]

Proffil Alpe d'Huez
Panorama o'r 21 tro enwog tuag at Alpe d'Huez

Mae esgyniad yr allt i Alp d'Huez wedi cael ei amseru yn swyddogol ers 1994, felly mae cryn ddadl ynglŷn â'r amserau cyn hyn. Rhwng 1994 ac 1997, amserwyd yr esgyniad o 14.5 km o'r diwedd. Ers 1999, mae diwedd-ffoto wedi cael ei ddefnyddio o 14 km o'r diwedd. Mae amserau eraill wedi cael eu cofnodi o 13.8 km o'r copa, sef dechrau swyddogol yr esgyniad. Mae eraill wedi cael eu cofnodi o 700m o gychwyn yr esgyniad.[8]

Amserau'r esgyniad[golygu | golygu cod]

Arwydd ar Dro 16 ar yr esgyniad i Alpe d'Huez
Alpe d'Huez yn yr haf
Rheng Amser Enw Blwyddyn Cenediglrwydd
1 37' 35" Marco Pantani 1997 Baner Yr Eidal Yr Eidal
2* 37' 36" Lance Armstrong 2004 Baner UDA UDA
3 38' 00" Marco Pantani 1994 Baner Yr Eidal Yr Eidal
4 38' 01" Lance Armstrong 2001 Baner UDA UDA
5 38' 04" Marco Pantani 1995 Baner Yr Eidal Yr Eidal
6 38' 23" Jan Ullrich 1997 Baner Yr Almaen Yr Almaen
7 38' 34" Floyd Landis** 2006 Baner UDA UDA
8 38' 35" Andreas Klöden 2006 Baner Yr Almaen Yr Almaen
9* 38' 37" Jan Ullrich 2004 Baner Yr Almaen Yr Almaen
10 39' 02" Richard Virenque 1997 Baner Ffrainc Ffrainc
11 39' 06" Iban Mayo 2003 Baner Sbaen Sbaen
12* 39' 17" Andreas Klöden 2004 Baner Yr Almaen Yr Almaen
13* 39' 21" Jose Azevedo 2004 Baner Portiwgal Portiwgal
14 39' 28" Miguel Induráin 1995 Baner Sbaen Sbaen
15 39' 28" Alex Zülle 1995 Baner Y Swistir Y Swistir
16 39' 30" Bjarne Riis 1995 Baner Denmarc Denmarc
17 39' 31" Carlos Sastre 2008 Baner Sbaen Sbaen
18 39' 44" Gianni Bugno 1991 Baner Yr Eidal Yr Eidal
19 39' 45" Miguel Induráin 1991 Baner Sbaen Sbaen
20 40' 00" Jan Ullrich 2001 Baner Yr Almaen Yr Almaen
21 40' 46" Fränk Schleck 2006 Baner Luxembourg Luxembourg
22 40' 51" Alexander Vinokourov 2003 Baner Casachstan Casachstan
23 41' 18" Lance Armstrong 2003 Baner UDA UDA
24 41' 50" Laurent Fignon 1989 Baner Ffrainc Ffrainc
25 41' 50" Luis Herrera 1986 Baner Colombia Colombia
26 42' 15" Pedro Delgado 1989 Baner Sbaen Sbaen
27 45' 20" Gert-Jan Theunisse 1989 Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd
28 45' 22" Fausto Coppi 1952 Baner Yr Eidal Yr Eidal
29 48' 00" Greg Lemond 1986 Baner UDA UDA
30 48' 00" Bernard Hinault 1986 Baner Ffrainc Ffrainc

* Ar ffurf treial amser unigol.
** Canfyddwyd yn euog o ddefnyddio cyffurio yn y rhifyn hwnnw o'r Tour de France.

13.8 km:[9]

Rheng Amser Enw Blwyddyn Cenediglrwydd
1 36' 50" Marco Pantani 1995 Baner Yr Eidal Yr Eidal
2 36' 55" Marco Pantani 1997 Baner Yr Eidal Yr Eidal
3 37' 15" Marco Pantani 1994 Baner Yr Eidal Yr Eidal
4 37' 36" Lance Armstrong 2004 Baner UDA UDA
5 37' 41" Jan Ullrich 1997 Baner Yr Almaen Yr Almaen
6 38' 00" Lance Armstrong 2001 Baner UDA UDA
7 38' 10" Miguel Induráin 1995 Baner Sbaen Sbaen
7 38' 10" Alex Zülle 1995 Baner Y Swistir Y Swistir
8 38' 12" Bjarne Riis 1995 Baner Denmarc Denmarc
9 38' 22" Richard Virenque 1997 Baner Ffrainc Ffrainc

Beicio Mynydd[golygu | golygu cod]

Mae'r gyrchfan hefyd yn denu nifer o feicwyr mynydd yn ystod yr haf, yn arbennig adeg ras Megavalanche, ras dygner lawr allt sy'n mynd a'r reidwyr o'r orsaf lifft i'r copa uchaf, Pic Blanc, cyn iddynt reidio i lawr i Alamond ar lawr y dyffryn.

Yr haf ar Alpe d'Huez[golygu | golygu cod]

Sgio ar Alpe d'Huez[golygu | golygu cod]

Mae Alpe d'Huez yn un o brif gyrchfannau sgio Ewrop. Dyma oedd safle lifft cyntaf Pomagalski ar yr arwyneb yn ystod yr 1930au, daeth y gyrchfan yn boblogaidd pan gynhaliwyd cystadlaeuthau bobsleigh Gemau Olympaidd y Gaeaf 1968 yno. Cysidrwyd y gyrchfan yn gystadleuydd i Courchevel, cyrchfan mwyaf uwch-farchnad Ffrainc ar y pryd a oedd wedi ei adeiladu'n bwrpasol, ond wedi datblygiad Les Trois Vallées, Val d'Isère, Tignes, La Plagne a Les Arcs daeth Alpe D'Huez yn llai poblogaidd yn ystod yr 1970au a'r 1980au cynnar.

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod]

Gefeilldrefi Alpe d'Huez yw:

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Vélo, France, Mehefin 2004
  2. 2.0 2.1 Chany, Pierre (1988), La Fabuleuse Histoire du Tour de France, Nathan, France
  3. 3.0 3.1 3.2 Procycling, UK, Awst 2002
  4. L'Équipe Magazine, 17 Gorffennaf 2004
  5. L'Équipe Magazine, 20 Gorffennaf 2002
  6. Cycling Weekly, UK, Tachwedd 2001
  7. Journal du Dimanche, Ffrainc, 13 Gorffennaf 2003
  8.  Alpe d'Huez. www.gastrobiking.com.
  9. ChronoWatts.com

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod]