Juan Antonio Flecha

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Juan Antonio Flecha
JuanAntonioFlecha.jpg
Manylion Personol
Enw Llawn Juan Antonio Flecha Giannoni
Llysenw The Spanish Flandrian
Van der Flecha
Jan Anton Pijl
Dyddiad geni (1977-09-17)

17 Medi 1977 (36 oed)

Gwlad Baner Sbaen Sbaen; ganwyd yn Baner Yr Ariannin Yr Ariannin
Taldra 1.81 m (5' 11")
Pwysau 72 kg
Gwybodaeth Tîm
Tîm Presennol Team Sky
Disgyblaeth Ffordd
Rôl Reidiwr
Math o reidiwr Arbennigwr y clasurom
Tîm(au) Proffesiynol
2004–2005
2006–2009
2010–
Fassa Bortolo
Rabobank
Team Sky
Golygwyd ddiwethaf ar:
17 Gorffennaf 2011

Seiclwr proffesiynol Sbaenaidd a aned yn yr Ariannin ydy Juan Antonio Flecha Giannoni (ganed 17 Medi 1977), ar hyn y bryd mae'n reidio dros Team Sky.

Gyrfa[golygu]

Ganed yn Junín, Buenos Aires. Daeth Flecha yn adnabyddus yn 2003, pan ddaeth y reidiwr cyntaf i gael ei eni yn yr Ariannin i ennill cymal o'r Tour de France. Roedd yn reidio dros iBanesto.com ar y pryd. Wrth iddo groesi'r linell, fe feimiodd sethu saeth o fwa fel saliwt buddugoliaeth, gan mai ystyr ei enw deuluol, Flecha, yw "saeth".

Bu'n gyd-arweinydd y tîm Eidalaidd Fassa Bortolo ar gyfer y rasus un dydd a'r clasuron yn nhymor 2004, gan orffen mewn safleoedd da. Yn enwedig yn y Ronde van Vlaanderen, Paris–Roubaix a'r Liège–Bastogne–Liège, ac ennill y Züri-Metzgete a'r Giro del Lazio. Bu'n aml yn rhannu'r gwaith o arwain y tîm gyda'r reisiwr o'r Swistir, Fabian Cancellara.

Yn 2005, gorffennodd ar y podiwn yn Gent–Wevelgem a Paris–Roubaix, gan sefydlu enw i'w hun fel un o'r reidwyr gorau yn yr UCI ProTour heddiw. Mewn cyfweliad, dywedodd reidiwr dros Euskaltel-Euskadi, Egoi Martínez, mewn teyrnged i ddyfalbarhad ac agwedd Flecha, y dylai un gael pen ac agwedd fel Flecha mewn ras.

Symudodd Flecha i'r tîm Iseldiraidd Rabobank yn 2006, wedi i dîm Fassa Bortolo ddod i ben. Yn 2007, gorffennodd Flecha yn ail yn ras o fri y Paris–Roubaix. Ni gafodd unrhyw fuddugoliaethau yn ystod tymor 2009, felly gwrthododd Flecha arwyddo cytundeb newydd gyda Rabobank, gan deimlo ei fod yn hen bryd iddo gael sialens newydd.

Mae wedi redio dros Team Sky ers ei sefydliad yn 2010. Enillodd ei ras un dydd cyntaf y flwyddyn honno, yr Omloop Het Nieuwsblad, a cysegrodd y fuddugoliaeth iw dîm a'i gyn cyd-aelod tîm Frank Vandenbroucke a fu farw ym mis Hydref 2009. Yng nghymal 9 Tour de France 2011, bu Flecha mewn damwain wedi iddo a Johnny Hoogerland gael eu trywanu gan gar France Télévisions. Cododd ar ei draed a parhaodd i reidio wrth iddo dderbyn triniaeth iw benelin. Rhannodd wobr brwydrol y cymal hwnnw gyda Hoogerland.[1] Gwrthododd Flecha fynd ar y podiwm i dderbyn y wobr ond fe wisgodd y rhif coch y diwrnod canlynol.

Palmarès[golygu]

2003
1af Cymal 11 Tour de France
2004
1af Züri-Metzgete
1af Giro del Lazio
7fed Gent–Wevelgem
2005
1af Stage 4 Volta a la Comunitat Valenciana
2il Gent–Wevelgem
3ydd Paris–Roubaix
9fed HEW Cyclassics
2006
2il GP Ouest-France
4ydd Paris–Roubaix
7fed Eneco Tour
2007
2il Paris–Roubaix
2008
1af Circuit Franco-Belge
2il Cymal 4
3ydd Ronde van Vlaanderen
2009
3ydd Omloop Het Nieuwsblad
6ed Paris–Roubaix
2010
1af Omloop Het Nieuwsblad
3ydd E3 Prijs Vlaanderen
3ydd Paris–Roubaix
Tour de France
Jersey red number.svg Gwobr brwydrol, Cymal 13
2011
2il Omloop Het Nieuwsblad
9fed Paris–Roubaix
Tour de France
Jersey red number.svg Gwobr brwydrol, Cymal 9

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]