Crys Melyn
Y Crys Melyn (Ffrangeg: Maillot Jaune) yw'r crys a wisgir gan arweinydd dosbarthiad cyffredinol sawl ras seiclo, y mwyaf o nôd, a'r cyntaf i'w gyflwyno yw'r Tour de France. Mae'n galluogi i'r reidiwr sy'n arwain ras sawl cymal i allu gael ei adnabod yn hawdd yng nghanol y grŵp.
Cynnwys |
Sut mae'n cael ennill [golygu]
Penderfynnir enillyd y Tour de France, a rasus seiclo sawl cymal eraill, gan weithio allan cyfanswm yr amser a gymerodd reidiwr i gwblhau pob cymal. Gall amser gael ei ychwanegu neu ei dynnu o'r cyfanswm fel bonws am ennill cymal neu gyrraedd brid mynydd gyntaf, neu fel cosb am dorri'r rheolau. Y reidiwr sydd â'r cyfanswm lleiaf o amser ar ddiwedd pob cymal sy'n derbyn y crys melyn mewn seremoni, ac mae ganddo'r hawl i wisgo'r crys yn y cymal canlynol.[1] Y reidiwr sy'n derbyn y crys melyn ar ôl y cymal olaf, yw enillydd cyffredinol y ras.
Nid yw'r crys yn felyn ar gyfer pob ras, gan y dewisir y lliw gan drefnwyr y ras. Er engraifft, mae'r Tour of California a'r Vuelta a Espana yn defnyddio crys lliw aur, mae'r Giro d'Italia yn defnyddio pinc, ac mae'r Tour Down Under yn defnyddio lliw ocr.
Tarddiad [golygu]
Rhwymyn gwyrdd oamgylch y braich ac nid crys melyn y gwisgodd enillydd y Tour de France cyntaf.[2] Mae amheuaeth ynglyn a pryd y cyflwynwyd y crys melyn gyntaf. Enillodd y seiclwr Belgaidd Philippe Thys y Tour yn 1913, 1914 a 1920, ac fe adroddodd ei atgofion yng nghylchgrawn Belgaidd Champions et Vedettes pan oedd yn 67, a dywedodd y gwisgodd ef grys melyn yn 1913 pan ofynodd y trefnydd, Henri Desgrange, iddo wisgo crys lliw. Gwrthododd Thys, gan ddweud y buasai gwneud ei hun yn fwy amlwg yn hybu'r reidwyr eraill i reidio yn ei erbyn.[2][3]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Regulations of the race. ASO/letour.fr.
- ↑ 2.0 2.1 Les Woodland (gol.) Yellow Jersey Companion to the Tour de France, Yellow Jersey, y Deyrnas Unedig, 2007
- ↑ Chany, Pierre (1997) La Fabuleuse Histoire du Tour de France, gol. de la Martinière, France.
Dolenni allanol [golygu]
- Velo News: "The legend of the maillot jaune"