Tour de France 2007
Tour de France 2007 oedd y 94ydd rhifyn o'r Tour de France. Cynhaliwyd rhwng 7 Gorffennaf a 29 Gorffennaf 2007. Dechreuodd gyda prologue yn Llundain, gan orffen yn ei leoliad traddodiadol o amgylch yr Arc de Triomphe a lawr y Champs-Élysées ym Mharis. Teithiodd y ras drwy Wlad Belg a Sbaen yn ogystal â Lloegr. Y reidiwr o Sbaen, Alberto Contador a enillodd y ras.
Datganwyd y byddai'r ras yn dechrau yn Llundain gan drefnwyr y Tour a Maer Llundain, Ken Livingstone, ar 24 Ionawr 2006. Dywedodd Livingstone y byddai'r ddau gymal yn Llundain yn coffau dioddefwyr bomiau Llundain 7 Gorffennaf 2005: "Having the Grand Départ on the seventh of July will broadcast to the world that terrorism does not shake our city."
Cafodd llwybrau'r Prologue a'r cymal gyntaf drwy Caint i Canterbury eu datgan ar 9 Chwefror 2006 yng Nghanolfan Cynhadledd y Frenhines Elisabeth II. Dyma oedd y drydedd tro i'r Tour ymweld â Lloegr, ar ôl iddi fynd trwy Plymouth yn 1974 a Chaint, Sussex a Hampshire yn 1994).
Dadorchuddwyd llwybr gyfan ras 2007 gan gyfarwyddwr y Tour, Christian Prudhomme ym Mharis ar 26 Hydref 2006. Roedd y ras yn gyfanswm o 3,569.9 cilomedr (2,218.2 milltir).[1]
Cafodd y Tour ei amharu gan ymrysonau cyffuriau, gyda thri reidiwr a thri tîm yn tynnu allan o'r ras ar ôl profion cyffuriau positif, gan gynnwys y ffefryn cyn y ras, Alexandre Vinokourov a'i dîm Astana. Yn dilyn cymal 16, cafodd gwisgwr y Crys Melyn, Michael Rasmussen, ei dynnu allan o'r Tour gan ei dîm Rabobank, a oedd yn ei gyhuddo o ddweud celwydd ynglyn â pham fethodd sawl prawf cyffuriau yn gynt yn y flwyddyn.
Enillodd Tom Boonen y Crys Gwyrdd ar gyfer cystadleuaeth pwyntiau'r sbrintwyr am y tro cyntaf, wedi iddo fethu a cwblhau'r ras a thynnu allan yn 2005 a 2006 tra roedd yn arwain y gystadleuaeth bwyntiau. Gwobrwywyd y Crys Dot Polcai'r dringwr gorau, Mauricio Soler, y tro cyntaf iddo gystadlu yn y Tour.
Enillwyd y Crys Melyn, a roddir i'r arweinydd cyffredinol, gan Alberto Contador. Roedd yn ras agos iawn hyd y treial amser yng nghymal 19, a daeth Cadel Evans yn ail, a Levi Leipheimer yn drydydd, gyda'r tri ond 31 eiliad arwahan, y gwahaniaeth lleiaf erioed. Enillodd Alberto Contador y Crys Gwyn hefyd, gan mai ef oedd y reidiwr ifanc gorau (odan 25).
Cynnwys |
Cymalau [golygu]
| Cymal | Dyddiad | Dechrau - Gorffen | Pellter | Math | |
|---|---|---|---|---|---|
| P | 7 Gorffennaf | London | 7.9 km | ||
| 1 | 8 Gorffennaf | London - Canterbury | 203 km | ||
| 2 | 9 Gorffennaf | Dunkirk - Ghent | 168.5 km | ||
| 3 | 10 Gorffennaf | Waregem - Compiègne | 236.5 km | ||
| 4 | 11 Gorffennaf | Villers-Cotterêts - Joigny | 193 km | ||
| 5 | 12 Gorffennaf | Chablis - Autun | 182.5 km | ||
| 6 | 13 Gorffennaf | Semur-en-Auxois - Bourg-en-Bresse | 199.5 km | ||
| 7 | 14 Gorffennaf | Bourg-en-Bresse - Le Grand-Bornand | 197.5 km | ||
| 8 | 15 Gorffennaf | Le Grand-Bornand - Tignes | 165 km | ||
| G | 16 Gorffennaf | Diwrnod Gorffwys | |||
| 9 | 17 Gorffennaf | Val-d'Isère - Briançon | 159.5 km | ||
| 10 | 18 Gorffennaf | Tallard - Marseille | 229.5 km | ||
| 11 | 19 Gorffennaf | Marseille - Montpellier | 182.5 km | ||
| 12 | 20 Gorffennaf | Montpellier - Castres | 178.5 km | ||
| 13 | 21 Gorffennaf | Albi | 54 km | ||
| 14 | 22 Gorffennaf | Mazamet - Plateau-de-Beille | 197 km | ||
| 15 | 23 Gorffennaf | Foix - Loudenvielle | 196 km | ||
| G | 24 Gorffennaf | Diwrnod Gorffwys | |||
| 16 | 25 Gorffennaf | Orthez - Gourette-Col d'Aubisque | 218.5 km | ||
| 17 | 26 Gorffennaf | Pau - Castelsarrasin | 188.5 km | ||
| 18 | 27 Gorffennaf | Cahors - Angoulême | 211 km | ||
| 19 | 28 Gorffennaf | Cognac - Angoulême | 55.5 km | ||
| 20 | 29 Gorffennaf | Marcoussis - Paris Champs-Élysées | 146 km | ||
| Cyfanswm | 3,569.9 km | ||||
Arweinwyr y dosbarthiadau [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919· 1920· 1921· 1922· 1923· 1924· 1925· 1926· 1927· 1928· 1929·
1930· 1931· 1932· 1933· 1934· 1935· 1936· 1937· 1938· 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947· 1948· 1949· 1950· 1951· 1952· 1953· 1954· 1955· 1956· 1957· 1958· 1959· 1960· 1961· 1962· 1963· 1964· 1965· 1966· 1967· 1968· 1969· 1970· 1971· 1972· 1973· 1974· 1975· 1976· 1977· 1978· 1979· 1980· 1981· 1982· 1983· 1984· 1985· 1986· 1987· 1988· 1989· 1990· 1991· 1992· 1993· 1994· 1995· 1996· 1997· 1998· 1999· 2000· 2001· 2002· 2003· 2004· 2005· 2006· 2007· 2008· 2009· 2010· 2011· 2012· 2013
Crys Melyn |
Crys Gwyrdd |
Crys Dot Polca |
Crys Gwyn |
Gwobr Brwydrol