Brenin y Mynyddoedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Teitl a roddir i'r dringwr gorau mewn ras seiclo ar y ffordd yw Brenin y Mynyddoedd; fel arfer Dosbarthiad y Mynyddoedd yw'r enw ar y gystadleuaeth hon yn swyddogol. Defnyddir term tebyg, Brenhines y Mynyddoedd mewn rasus seiclo merched.

Tra gall y teitl gael ei roi i'r reidiwr sy'n cyrraedd brig y mynydd gyntaf mewn rasus un dydd, defnyddir yn amlach mewn rasus sawl cymal, er engraifft y Tour de France, Giro d'Italia, Vuelta a España neu'r Tour of California, lle mae pwyntiau yn cael eu casglu dros pob cymal.

Yn y Tour de France, ar gopa pob mynydd sylweddol, gwobrwyir pwyntiau i'r reidwyr sydd cyntaf drost y top. Caiff pob mynydd ei chategoreiddio, o 1 (yr anoddaf) i 4 (yr hawsaf) yn seiliedig ar faint mor serth a faint mor hir ydynt. Yn y Tour de France, mae pumed categori, Hors categorie (tu allan i gategori) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mynyddoedd anodd iawn uwchben categori 1.

Sports icon.png Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill