Andy Schleck
| Manylion Personol | |
|---|---|
| Enw Llawn | Andy Schleck |
| Dyddiad geni | Mehefin 10, 1985 |
| Gwlad | |
| Taldra | 1.86m |
| Pwysau | 67kg |
| Gwybodaeth Tîm | |
| Tîm Presennol | Team Saxo Bank |
| Disgyblaeth | Ffordd |
| Rôl | Reidiwr |
| Math o reidiwr | Dringwr |
| Tîm(au) Amatur | |
| 2004 2004 |
VC Roubaix Team Saxo Bank (stagiaire) |
| Tîm(au) Proffesiynol | |
| 2005– | Team Saxo Bank |
| Prif gampau | |
| Giro d'Italia, Tour de France, Liège-Bastogne-Liège (2009) |
|
| Golygwyd ddiwethaf ar: | |
| 30 Gorffennaf 2009 | |
Seiclwr proffesiynol Luxembourgaidd yw Andy Schleck (ganwyd 10 Mehefin 1985). Mae wedi reidio dros Team Saxo Bank ers 2005, ac yn cystadlu yn nghyfres yr UCI ProTour. Mae'n frawd iau i Fränk Schleck, sydd hefyd ar Team Saxo Bank. Cystadlodd eu tad, Johnny Schleck, yn y Tour de France a'r Vuelta a España rhwng 1965 ac 1974.
Cynnwys |
[golygu] Bywgraffiad
Ganwyd Schleck yn ninas Luxembourg, yn fab i Gaby a Johnny Schleck, cyn-seiclwr proffesiynol a oedd wedi cynyrchioli timau megis Pelforth a Bic. Roedd tad Johnny, Gustav Schleck, hefyd wedi cystadlu mewn rasus seiclo yn ystod yr 1930au.[1]
[golygu] Gyrfa amatur
Ymunodd Schleck glwb seiclo VC Roubaix yn 2004, gan ddal sylw Cyrille Guimard, cyfarwyddwr chwaraeon a ddaeth yn adnabyddus fel directeur sportif sawl enillydd y Tour de France, gan gynnwys Bernard Hinault, Laurent Fignon, Lucien Van Impe a Greg LeMond. Disgrifiodd Guimard Schleck fel un o'r reidwyr mwyaf dawnus oedd wedi ei weld a cymharodd ef gyda Laurent Fignon.[1][2]
Enillodd Schleck ras gymalau Flèche du Sud yn 2004, pan oedd ond yn 18 oed ac dal yn reidiwr amatur. Roedd tîm cenedlaethol Denmarc hefyd yn cysdlu'r ras honna, a lledaenodd y newyddion am ei gampau i reolwr Danaidd Team CSC, Bjarne Riis. Holodd Riis frawd Andy, Fränk, a oedd eisioes ar dîm CSC, ynglyn a'i frawd ac yn fuan wedyn, ar 1 Medi 2004 dechreuodd Andy reidio fel stagiaire (reidiwr hyfforddedig) dros Team CSC.[3] Sicrhaodd gytundeb proffesiynol gyda'r tîm gan gystadlu yn ei ras ProTour cyntaf, y Volta a Catalunya, pan oedd yn 19 oed yn 2005.
[golygu] Gyrfa broffesiynol
Enillodd Andy Bencampwriaeth Cenedlaethol Treial Amser, tra enillodd ei frawd Fränk y Bencampwriaeth Ras Ffordd. Cafodd Schleck ddamwain yn y GP Cholet yn 2006, a cymerodd saib o wyth wythnos cyn dychwelyd i rasio yn y Volta a Catalunya ym mis Mai. Ym mis Gorffennaf, cwpl o ddyddiau wedi i'w frawd wnnill cymal Alpe d'Huez y Tour de France, enillodd Andy y prif gymal mynyddig yn y Sachsen Tour, yn ogystal a'r cymal terfynnol, gan orffen yn 23ydd yn y dosbarthiad cyffredinol.
Enillodd y dosbarthiad reidiwr ifanc yn Giro d'Italia 2007, ac yn ail tu ôl i Danilo Di Luca yn y dosbarthiad cyffredinol. Gorffennodd yn bedwerydd yn y Giro di Lombardia wedi iddo rhoi cymorth iw frawd Fränk, a oedd wedi cael damwain gyda 6km i fynd.[4]
Parhaodd llwyddiant Schleck yn 2008, pan enillodd dosbarthiad reidiwr ifanc y Tour De France,[5] gan guro Roman Kreuziger, a helpu Team CSC i ennill y dosbarthiad tîm a chefnogi buddugoliaeth Carlos Sastre.
Enillodd ei fuddugoliaeth pwysicaf hyd yn hyn yn Ebrill 2009, gan ennill ras Liege-Bastogne-Liege mewn gwyntoedd cryf, ef oedd enillydd cyntaf y ras i ddod o Luxembourg ers Marcel Ernzer ym 1954.[5] Cwpl o ddyddiau ynghynt roedd wedi dod yn ail yn ras glasurol La Flèche Wallonne.
Gorffennodd Andy yn ail yn Tour de France 2009, tu ôl i Alberto Contador ac o flaen Lance Armstrong. Daeth hefyd yn drydydd yng nghymal 17, enillwyd y cymal hwnnw gan ei frawd Fränk, gyda Alberto Contador yn ail. Cipiodd y fuddugoliaeth yn nosbarthiad reidiwr ifanc y Tour de France am yr ail flwyddyn yn olynol.
[golygu] Canlyniadau
- 2004
- 1af
Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Luxembourg - Odan 23 - 1af
Pencampwriaeth Cenedlaethol Treial Amser Luxembourg - Odan 23 - 1af Flèche du Sud
- 2005
- 1af
Pencampwriaeth Cenedlaethol Treial Amser Luxembourg - 2006
- 1af Sachsen Tour
- 1af Stage 3
- 1af Stage 5
- 1af Dosbarthiad y mynyddoedd, Tour of Britain
- 2007
- 8fed Tour de Romandie
- 2il Giro d'Italia
- 4ydd Giro di Lombardia
- 2008
- 4ydd Liege-Bastogne-Liege
- 6ed Overall, Tour de Suisse
- 12fed Overall, Tour de France
- 5ed Ras Ffordd Dynion, Gemau Olympaidd
- 2009
- 1af
Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Luxembourg - 1af Liege-Bastogne-Liege
- 1af Stage 2, Tour de Luxembourg
- 2il Overall, Tour de France
- 2il La Flèche Wallonne
- 8fed Monte Paschi Eroica
- 10fed Amstel Gold Race
[golygu] Ffynonellau
- ↑ 1.0 1.1 Giro d'Italia: The rise of another Schleck. cyclingnews.com (2007-06-04).
- ↑ Schleck Brothers Confirmed for Tour of Ireland.
- ↑ Andy Schleck: Not Unlike his Brother Fränk. Team CSC (19 Mai 2006).
- ↑ 101st Giro di Lombardia - ProTour. Cyclingnews.com (20 Hydref 2007).
- ↑ 5.0 5.1 Schleck impresses with Liege win. BBC.
[golygu] Dolenni allanol
|
1975: Moser | 1976: Martinez-Heredia | 1977: Thurau | 1978: Lubberding | 1979: Bernaudeau | 1980: Van der Velde | 1981: Winnen | 1982: Anderson | 1983: Fignon | 1984: LeMond | 1985: Parra | 1986: Hampsten | 1987: Alcalá | 1988: Breukink | 1989: Philipot | 1990: Delion | 1991: Mejia | 1992: Bouwmans | 1993: Martín | 1994–1995: Pantani | 1996–1998: Ullrich | 1999: Salmon | 2000: Mancebo | 2001: Sevilla | 2002: Basso | 2003: Menchov | 2004: Karpets | 2005: Popovych | 2006: Cunego | 2007: Contador | 2008, 2009, 2010: A. Schleck | 2011: Rolland |