Lance Armstrong

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lance Armstrong

Seiclwr Americanaidd yw Lance Armstrong (ganwyd Lance Edward Gunderson, 18 Medi 1971). Enillodd y Tour de France saith gwaith, bob blwyddyn rhwng 1999 a 2005. O fis Hydref 2012 fodd bynnag, mae ei lwyddiant yn cael ei gwestiynu oherwydd honiadau iddo gamddefnyddio cyffuriau er mwyn gwella'i berfformiad. Ef hefyd yw sylfaenydd a chadeirydd Sefydliad Lance Armstrong sy'n cynnig cefnogaeth ar gyfer pobl sy'n dioddef o gancr.

Ar ddechrau ei yrfa broffesiynol, enillodd Armstrong Bencampwriaeth Seiclo Heol UCI y Byd ym 1993 a nifer o rasys bychain eraill. Ym mis Hydref 1996, cafodd ddeiagnosis o gancr y ceilliau gyda thyfiant a oedd wedi lledu i'wymennydd a'i ysgyfaint. Yn wreiddiol, roedd ei siawns o oroesi'n fach iawn. Derbyniodd driniaethau ar ei ymennydd a'i geilliau a llawer o gemotherapi.


Baner United StatesEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.