Tour of Britain
Tour of Britain (Cymraeg Taith Prydain) yw'r enw a roddir i ras seiclo ffordd a gynhelir dros sawl cymal ac sy'n mynd ar daith ar draws Prydain Fawr. Mae'r ras yn cynnwys tîmau o'r Alban a Chymru, yn ogystal a thîm Prydain Fawr, ond yn ddiweddar nid oes dim tîm Lloegr wedi cymryd rhan yn y ras. Mae'r fersiwn diweddaraf o'r ras yn ras cymalau broffesiynol, a redwyd gyntaf yn 2004, ond mae hanes y ras yn mynd yn ôl i 1951.
Mae'r Tour of Britain yn rhan o'r UCI Europe Tour. Yn 2009, daeth yr Elusen Cancr Prostad yn Bartner Elusennol Swyddogol ar gyfer y ras.[1]
Cynnwys |
Hanes[golygu]
Gan nodi cyfraniad pob noddwr ariannol, mae'r ras wedi newid ei henw sawl gwaith ar hyd y blynyddoedd:
- Daily Express Tour of Britain (1951-1955)
-
- Enillodd yr Albanwr Ian Steel ras 1951. Seiclwr arall i rasio y flwyddyn honno oedd Jimmy Savile, a ddaeth yn DJ enwog a phersonoliaeth teledu yn ddiweddarach. Trefnwyd ras 1955 gan y British League of Racing Cyclists.
-
- Yn anterth ei phoblogrwydd, roedd y ras hwn yn gymharol mewn statws i'r Peace Race, ac roedd timau rhyngwladol yn cystadlu ynddi. O tua 1983 ymlaen, roedd y ras hefyd yn agored i dimau proffesiynol. Cefnogodd y Bwrdd Marchnata Llefrith y Scottish Milk Race hefyd, taith lai yn yr Alban.
-
- Rhai o'r enillwyr: Malcolm Elliot (1988), Robert Millar (1989), Phil Anderson (1991, 1993), Max Sciandri (1992) ac yn ei flwyddyn olaf, Maurizio Fondriest.
- Y PruTour, a gefnogwyd yn ariannol gan Prudential plc (1998-1999)
-
- Enillodd Stuart O'Grady (Crédit Agricole) yn 1998; a Marc Wauters (Rabobank) yn 1999.
Y ras gyfoes[golygu]
Tour of Britain 2004[golygu]
Cynhaliwyd y ras gyntaf o'r fersiwn diweddaraf o'r Tour of Britain dros pum diwrnod yn nechrau mis Medi 2004. Trefnwyd hi gan SweetSpot ynghyd â British Cycling. Cefnogwyd y ras gan drefnwyr Cais Llundain ar gyfer Gemau Olympaidd 2012. Roedd yn ras a hysbyswyd yn eang iawn, a chafodd timau adnabyddus megis T-Mobile (Yr Almaen) a U.S. Postal Service (UD) eu denu i gymryd rhan. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod y ras yng nghategori 2.3 ar galendar rasio'r Union Cycliste Internationale (UCI).
Gorffenodd taith 2004 gyda criterium 45 milltir (72 km) yn Llundain, gwyliodd degoed o filoedd o bobl brêc hir gan y Llundeiniwr Bradley Wiggins, tan y lap cyn yr un olaf, a chymerodd Enrico Degano o dîm Tîm Barloworld y sbrint ar y linell. Enillodd y Colombiwr Mauricio Ardila, o dîm Chocolade Jacques, y Tour.
Tour of Britain 2005[golygu]
Rhedwyd Tour of Britain 2005 fel ras UCI categori 2.1 dros 6 cymal, gan ddechrau yn Glasgow ar 30 Awst a gorffen yn Llundain ar 4 Medi. Enillwyd y dosbarthiad cyffredinol gan y seiclwr Belgaidd Nick Nuyens. Cipiodd yr Eidalwr Luca Paolini y grys werdd ar gyfer y gystadleuaeth bwyntiau.
Tour of Britain 2006[golygu]
Cymerodd Tour of Britain 2006 le ar 29 Awst hyd 3 Medi fel ras UCI categori 2.1. Enillodd Martin Pedersen y ras a chymerodd Andy Schleck o Dîm CSC gystadleuaeth brenin y mynyddoedd. Enillodd Mark Cavendish (T-Mobile) y gystadleuaeth bwyntiau a cymerodd Johan Van Summeren (Davitamon-Lotto) y gystadleuaeth sbrint.
Tour of Britain 2007[golygu]
Ymestynwyd y ras i saith diwrnod ar gyfer 2007, defnyddwyd y seithfed diwrnod ar gyfer cymal yn Ngwlad yr Hâf am y tro cyntaf.
Yn lle gorffen yn Llundain, dechreuodd ras 2007 yno a gorffenodd yn Glasgow, a ddefnyddiodd y digwyddiad fel hwb iw cais ar gyfer lleoliad Gemau'r Gymanwlad yn 2014.
Enillodd Romain Feillu y Tour, a cipiodd Mark Cavendish y gystadleuaeth bwyntiau a Ben Swift gystadleuaeth brenin y mynyddoedd.
Tour of Britain 2008[golygu]
Cynyddodd y ras i wyth diwrnod ra gyfer 2008, gyda wyth cymal. Cynhaliwyd o 7 hyd 14 Medi, gan gychwyn yn Llundain a gorffen yn Lerpwl.[2]
Tour of Britain 2009[golygu]
Roedd y chweched rhifyn o'r Tour of Britain hefyd yn wyth diwrnod o hyd, o 12–19 Medi. Cychwynodd y ras yn Scunthorpe a gorffennodd yn Llundain.
Tour of Britain 2010[golygu]
Cynhaliwyd ras 2010 o 11–18 Medi.
Tour of Britain 2011[golygu]
Cynhaliwyd ras 2011 o 11–18 Medi. Roedd 8 cymal i fod, ond gorfodwyd diddymu ail gymal y ras oherwydd ffrynt o dywydd gwael a groesodd y Môr Iwerydd yn dilyn Corwynt Irene.