Jimmy Savile
| Jimmy Savile | |
|---|---|
Syr Jimmy Savile |
|
| Ganwyd | 31 Hydref, 1926 Leeds, Swydd Efrog, |
| Bu farw | 29 Hydref 2011 |
| Enwau eraill | James Wilson Vincent Savile |
| Yn enwog am | Jim'll Fix It, Top of the Pops |
| Galwedigaeth | Cyflwynydd radio, cyflwynydd teledu |
Cyflwynydd radio a theledu ac actor o Sais oedd Syr James Wilson Vincent Savile OBE, KCSG (31 Hydref 1926 – 29 Hydref 2011), sy'n cael ei adnabod gan amlaf fel Jimmy Savile. Mae'n fwyaf enwog am gyflwyno rhaglen deledu'r BBC Jim'll Fix It, ac am fod y cyflwynydd cyntaf a'r olaf ar raglen siart gerddorol y BBC, Top of the Pops. Mae ef hefyd yn enwog am gefnogi elusennau amrywiol. Bu farw yn ei gartref yn Leeds, Lloegr ar 29 Hydref 2011.
Ar ôl iddo farw, daeth honiadau i'r fei ei fod wedi camdrin merched yn eu harddegau'n rhywiol yn ystod y 1960au a'r 1970au. Ers yr honiadau, mae'r heddlu wedi ei ddisgrifio fel "troseddwr rhywiol rheibus"[1] a bu nifer yn galw am iddo golli'r anrhydeddau a roddwyd iddo pan oedd yn fyw. Ym mis Hydref 2012, dechreuodd yr Heddlu Fetropolitan asesiad o'r honiadau, gan gyhoeddi ymchwiliad ar y cyd â'r NSPCC i mewn i honiadau o ymosodiadau rhywiol a wnaed gan Savile dros bedwar degawd. Dechreuwyd ar ymchwiliadau hefyd i arferion gwaith rhai o'r llefydd y gweithiodd, gan gynnwys yn y BBC ac mewn ysbytai.