Mark Cavendish
| Manylion Personol | |
|---|---|
| Enw Llawn | Mark Cavendish |
| Llysenw | Cav |
| Dyddiad geni |
Mai 21, 1985 |
| Gwlad | |
| Taldra | 1.75m |
| Pwysau | 69kg |
| Gwybodaeth Tîm | |
| Tîm Presennol | Tîm Columbia |
| Disgyblaeth | Ffordd a Thrac |
| Rôl | Reidiwr |
| Math o reidiwr | Sbrint ar y ffordd, endurance ar y trac |
| Tîm(au) Proffesiynol | |
| 2006 2007 2008– |
Tîm Sparkasse Tîm T-Mobile High Road |
| Prif gampau | |
| Golygwyd ddiwethaf ar: | |
| 27 Gorffennaf 2009 | |
Seiclwr proffesiynol Manawaidd ydy Mark Cavendish (ganed 21 Mai 1985), sydd wedi torri'r record Prydeinig am y nifer o fuddugoliaethau yng nghymalau Tour de France, gyda record o 11 hyd yn hyn.
Cynnwys |
Bywgraffiad[golygu]
Ganwyd Cavendish yn Douglas, Ynys Manaw yn fab i David Cavendish o Ynys Manaw, ac Adele o Swydd Efrog. Datblygodd ddiddordeb mewn reidio BMX yn ifanc, wrth rasio yn y National Sports Centre yn Douglas. Dechreuodd rasio Trac pan oedd tua 12 oed, gan arbenigo mewn rasus Madison, Ras Bwytiau, a Ras Scratch yn wreiddiol. Dewiswyd ef fel aelod o Academi British Cycling, gan gael ei noddi drwy'r rhaglen gan arian y loteri cenedlaethol. Reidiodd dros Brydain gyntaf yng Nghwpan y Byd 2004 ar y trac yn Moscow, mae wedi dod yn sbrintiwr blaengar ar y ffordd yn ddiweddar. Erbyn heddiw mae Mark yn rhannu ei amser yn byw ac ymarfer yn Manceinion a Tuscany, Yr Eidal.
Ar ôl cystadlu ar gyfer tîm Tîm Sparkasse a thîm datblygu T-Mobile yn 2006, dechreuodd ei yrfa broffesiynol gyda Tîm T-Mobile yn 2007. Ers 10 Medi mae wedi cael 10 buddugoliaeth, gan ddod yn gyfartal â'r record am y nifer o fuddugoliaethau yn ystod tymor cyntaf proffesiynol.[1] Dewiswyd ef hefyd i gystadlu dros y tîm yn Tour de France 2007 ar ôl cael saith buddugoliaeth cyn dechrau'r ras. Bu'n rhaid iddo roi'r gorau iddi yn y ras yn ystod Cymal 8 ar ôl cael anafiadau mewn damwain yn ystod Cymal 2.
Enillodd Cavendish 6 cymal yn Tour de France 2009, heb gynnwys cymal 14 lle croesodd y llinell yn gyntaf ond i gael ei ddiarddel i gefn y peleton am amharu ar Thor Hushovd. Wrth wneud hyn, daeth ei gyfanswm o fuddugoliaethau yn y Tour i 11 hyd yn hyn, gan dorri'r record Prydeinig Barry Hoban (10 cymal) am y nifer o fuddugoliaethau yng nghymalau Tour de France.
Enillodd wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC yn 2011.
Canlyniadau[golygu]
Prif ganlyniadau Trac[golygu]
- Pencampwriaethau Trac y Byd UCI
- 2005 1af
Madison Los Angeles, (gyda Rob Hayles).[2] - 2008 1af
Madison Manceinion, (gyda Bradley Wiggins)
- Gemau'r Gymanwlad 2006 Melbourne
- 1af Ras Scratch, Trac
- Clasuron Trac Cwpan y Byd UCI
- 2005 Manceinion, 2il Pursuit Tîm
- 2005 Manceinion, 3ydd Madison
- 2005 Sydney, 3ydd, Madison (gyda Tom White)
- 2005 Sydney, 2il, Pursuit Tîm 4:11.728/4:10.735, (gyda Brammeier, White, Clancy)
- Pencampwriaethau Ewropeaidd
- 2005 1af
Ras Bwyntiau - 2005 4ydd Ras Scratch
- Pencampwriaethau Cenedlaethol
- 2005 1af
Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain Cylchffordd (Otley) - 2005 3ydd Ras Scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2004 2il Madison, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda Ed Clancy)
- 2003 2il Ras Scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain Iau
- 2003 2il Sprint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain Iau
- 2003 2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
- Eraill
- 2007 1af Revolution 16, Ras Scratch 15km
- 2004 1af Bremen UIV Talent Cup Madison (gyda Geraint Thomas)
- 2004 1af Munich UIV Talents Cup Madison (gyda Matt Brammeier)
- 2004 1af Revolution 6 Madison (gyda Ed Clancy) & Kilo, (Deliwr y record presennol) 57.457 eiliad
Prif ganlyniadau Ffordd[golygu]
- 2004
- 1af Ras Circuit Gefnogol Tour of Britain, San Steffan
- 2005
- 1af Un Cymal o Tour of Berlin
- 2006
- 1af Cymal 3, Course de la Solidarité Olympique
- 1af Cyngrhair Bwyntiau, Tour of Britain
- 2il Tour of Berlin
- 1af Cymal 4
- 1af Cymal 5
- 2007
- 1af Grote Scheldeprijs
- 1af Cyngrhair Bwyntiau Pedwar Diwrnod Dunkirk
- 1af Cymal 3
- 1af Cymal 6
- 3ydd Cymal 2
- 1af Cymal 2, Volta a Catalunya
- 1af Cymal 6, Volta a Catalunya
- 1af Cymal 4, Ster Elektrotoer [3]
- 1af Cyngrhair Bwyntiau Post Danmark Rundt
- 1af Cymal 6
- 1af Cyngrhair Bwyntiau Eneco Tour of Benelux
- 1af Cymal 3
- 1af Tour of Britain (hyd yn hyn)
- 1af Prologue, Tour of Britain
- 1af Cymal 1, Tour of Britain[4].
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Cavendish secures 10th win on stage one of The Tour of Britain Tour of Britain; 10-09-07;
- ↑ BBC 28/3/05
- ↑ British Cycling
- ↑ Stage 1 Stage Result 10 Medi 2007
- [1] Canlyniadau ar britishcycling.org.uk
Dolenni Allanol[golygu]
- (Saesneg) Gwefan Swyddogol Mark Cavendish