Laurent Fignon

Oddi ar Wicipedia
Laurent Fignon
GanwydLaurent Patrick Fignon Edit this on Wikidata
12 Awst 1960 Edit this on Wikidata
18fed arrondissement Paris Edit this on Wikidata
Bu farw31 Awst 2010 Edit this on Wikidata
13th arrondissement of Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Paris 13 Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Europe 1 Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auRenault, Système U, Castorama, Chateau d'Ax Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonFfrainc Edit this on Wikidata

Seiclwr proffesiynol Ffrengig oedd Laurent Patrick Fignon[1] (12 Awst 196031 Awst 2010), roedd yn arbennigo mewn rasio ffordd. Enillodd y Tour de France ym 1983 a 1984, a collodd allan ym 1989, gan ddod yn ail o ddim ond 8 eiliad, y gwahaniaeth lleiaf erioed i bendefynnu canlyniad y tour.[2] Enillodd hefyd y Giro d'Italia ym 1989, wedi iddo ddod yn ail ym 1984, a chlasur Milan – San Remo ym 1988 a 1989. Bu farw o gancr ar 31 Awst 2010.

Bywyd a gyrfa cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Fignon ym Montmartre, Paris.[1][3][4] Symudodd ei deulu i Tournan-en-Brie ym 1963, lle bu'n byw hyd iddo adael am Baris pan oedd yn 23 oed.[5][6]

Chwaraeon cyntaf Fignon oedd pêl-droed, ac aeth ymlaen i gynyrchioli ei département. Cafodd ei annogi gan ffrindiau i seiclo, a cystadlodd yn ei ras gyntaf swyddogol ym 1976, gan ennill.[6] Doedd rhieni Fignon ddim eisiau iddo rasio, felly cystadlodd heb iddynt wybod.[1] Enillodd bedwar ras arall yn ei flwyddyn gyntaf, ond dim ond un yn ei ail flwyddyn. Yn ei drydedd flwyddyn o gystadlu, enillodd 18 allan o'r 36 ras iddo gychwyn.[6] Pendwrfynnodd ei rieni i'w ganiatáu i rasio, ond roeddent yn credu y dylai barhau i astudio. Aeth Fignon i Brifysgol Villetaneuse, gan astudio Gwyddoniaeth Deunydd a Strwythrau.[1] Ni aeth ei astudiaethau'n dda, a buan bu iddo adael. Ymunodd â'r fyddin, ac anfonwyd i'r Bataillon de Joinville, a oedd yn adnabyddus am ei enw da ym maes chwaraeon. Wedi hyn, roedd Fignon yn sicr ei fod eisiau dilyn gyrfa fel seiclwr proffesiynol.[1]

Ym 1981, cystadlodd Fignon yn Tour Corsica, lle roedd reidwyr amatur a phroffesiynol yn cystadlu gyda'i gilydd. Llwyddodd Fignon i ddilyn Bernard Hinault am y ran helaeth o'r ras.[1] Pan reidiodd y treial amser tîm cenedlaethol 100 km, deliodd sylw y cyn-reidiwr a'r rheolwr, Cyrille Guimard, a roddodd le iddo ar ei dîm proffesiynol Renault-Elf-Gitane ym 1982, ag yntau ond yn 21 oed.[6]

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

1982
1af Critérium National
1af Flèche Azuréene
1af Garancières-en-Beauce
1af GP de Cannes
1af Cymal 1 TTT Giro d'Italia
1983
1af Tour de France (a Cymal 21)
1af Grand Prix de Plumelec-Morbihan
Cymal, Tirreno–Adriatico
Cymal, Critérium International
Cymal, Vuelta a España
1984
1af Tour de France (a Cymalau 7, 16, 18, 20 a 22)
1af Brenin y Mynyddoedd, 2il Giro d'Italia (a Cymal 20)
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd Ffrainc
1986
1af La Flèche Wallonne
Cymal, Critérium du Dauphiné Libéré
1987
Dau gymal, Paris–Nice
3ydd Vuelta a España (a Cymal)
7th Tour de France (a Cymal 21)
1988
1af Milan – San Remo
Cymal, Critérium International
1af Paris–Camembert
1989
1af Giro d'Italia (a Cymal 20)
1af Milan – San Remo
2il Tour de France (Gwobr brwydrol a Cymal 18)
1af Ronde van Nederland
1af Grand Prix des Nations
1af Trofeo Baracchi (gyda Thierry Marie)
1990
1af Critérium International
1991
6ed Tour de France
1992
23ydd Tour de France (a Cymal 11)
1993
1af Ruta Mexico

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5  Laurent Fignon. Telegraph (31 Awst 2010). Adalwyd ar 1 Medi 2010.
  2.  Rider biographies: Greg LeMond. Cycling hall of fame. Adalwyd ar 31 Awst 2010.
  3.  Jean Cau. Laurent Fignon.
  4.  Laurent Fignon. L'Équipe. Adalwyd ar 31 Awst 2010.
  5.  Tournan pleure Laurent Fignon (1 Medi 2010).
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3  Edward Pickering (31 Awst 2010). Laurent Fignon: My way or the fairway. Cycling Weekly. IPC Media Ltd.. Adalwyd ar 31 Awst 2010.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]