Brwydr Coed Llathen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Brwydrau'r Normaniaid a'r Saeson yng Nghymru


51°53′19″N 4°03′58″W / 51.88853°N 4.06612°W / 51.88853; -4.06612 (Coed Llathen)

Mae Brwydr Coed Llathen (neu Frwydr y Cymerau) yn cael ei chyfrif yn un o frwydrau pwysicaf hanes Cymru: brwydr ydoedd a ymladdwyd yn 1257 pan laddodd byddin Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, dros 3,000 o filwyr yng ngwasanaeth brenin Lloegr yn Nyffryn Tywi. Roedd y frwydr mewn dwy ran: y cyntaf yng Nghoed Llathen a'r ail yn Y Cymerau ger Llandeilo.

Cefndir[golygu]

Am flynyddoedd cyn y frwydr roedd Llywelyn wedi bod yn brysur yn adfeddiannu tiroedd a gollwyd a derbyn gwrogaeth arglwyddi'r Deheubarth gan gynnwys Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain. Fel tâl am eu teyrngarwch iddo, cyflwynodd diroedd iddyn nhw yn anrheg - tiroedd roedd wedi'u cymeryd oddi wrth Rhys Fychan a oedd yn deyrngar i Harri III, Brenin Lloegr. Roedd ei fab, sef y Tywysog Edward wedi sylweddoli fod Llywelyn wedi cryfhau dros y blynyddoedd a chasglodd fyddin fawr er mwyn ei wrthwynebu.[1] Roedd ganddo gefnogaeth llawer o uchelwyr gan gynnwys: Stephen Bauzan, Arglwydd Breigan a Llansannor a Nicholas FitzMartin, Arglwydd Cemaes, gyda'r rhan fwyaf o'i filwyr o Loegr a rhai o Gasgwyn.[2]

Paratoi am ryfel[golygu]

Erbyn 29 Mai 1257 roedd llynges Saesnig wedi glanio yng Nghaerfyrddin a'r fyddin a gludwyd yno wedi ymgasglu. Y dydd Iau canlynol, dechreuodd y fyddin fartsio i gyfeiriad Llandeilo, drwy ddyffryn Tywi gan anrheithio a lladd popeth a ddeuent ar ei draws - cymunedau cyfan. Drwy wneud hyn, gobeithient y byddai Castell Dinefwr yn ildio ar unwaith i atal y fath gyflafan.[3]

Y Frwydr[golygu]

Y diwrnod cyntaf[golygu]

Ar y nos Sadwrn canlynol gwersyllodd y Saeson ger Llandeilo Fawr. Yn ddiarwybod iddynt, roedd Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain wedi eu dilyn gyda rhan o'u byddin gan ymosod-a-chuddio o'r goedwig gerllaw. Roedd bwau hirion y Cymry yn cael effaith seicolegol ar y saeson ynghyd â synau enbyd. Y person oedd wedi arwain y fyddin saesnig drwy Gymru oedd Rhys Fychan a phenderfynodd Stephen Bauzan ddanfon Rhys i drafod heddwch gydag arweinwyr y fyddin Gymreig a oedd yng Ngastell Dinefwr. Ni wyddom yn union beth a ddigwyddodd iddo; naill ai newidiodd ei got gan ochri gyda'r Cymry neu cafodd ei ddal. Ond yn sicr fe gollodd y Saeson yr unig berson a oedd yn adnabod yr ardal, ac roeddent ar goll hebddo.[4]

Yr ail ddiwrnod[golygu]

Brwydr Coed Llathen[golygu]

Oherwydd nad oedd ganddynt wybodaeth ddaearyddol, penderfynodd y saeson ei heglu hi'n ôl i Gaerfyrddin. Rhwng torriad gwawr a chanol dydd roedd bwau hirion a phicelli'r Cymry wrthi'n ddiddiwedd. Tua chanol dydd roedd brwydro person i berson a chipiodd y Cymry wageni cyflenwadau bwyd ac arfau'r Saeson yng Nghoed Llathen.[5]

Brwydr Cymerau[golygu]

Roedd ysbryd y fyddin Saesnig yn rhacs; roeddent wedi cael eu gwanhau gan dachtegau'r fyddin Gymreig hyd syrffed. Ymgasglodd y cyfan ynghŷd i'r gorllewin - a martsio i gyfeiriad Cymerau. Roedd y tir yma'n berffaith i'r Cymry: ceunentydd a thirwedd garw i'w harafu a chorsdir gwlyb a fyddai'n gwbwl anobeithiol i'r marchogion Saesnig. Rhagodwyd y Saeson; ymosodwyd gyda holl rym y fyddin Gymreig a lladdwyd Stephen Bauzan ac hyd at 3,000 o'i filwyr. Dihangodd gweddill y fyddin Saesnig fel ieir am eu bywydau.[6]

Gwyddwn fod Llywelyn ei hun wedi arwain y frwydr.[6]

Wedi'r storm...[golygu]

Yn dilyn buddugoliaeth fawr y Cymry ym Mrwydr Coed Llathen, aethent ymlaen i ymosod ar Gastell Talacharn, Llansteffan ac Arberth. Roedd Rhys Fychan erbyn hyn yn deyrngar i Lywelyn, a rhoddwyd ei diroedd yn ôl iddo am ei drafferth. Gwylltiodd Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain gan newid eu lliwiau. Roedd Harri, brenin Lloegr, wedi dychryn gyda'r golled a gafodd ei fyddin a phenderfynodd y byddai'n ymosod eto'r flwyddyn honno ar Gymru. Ond methiant fu'r ymosodiad hwn hefyd: daliwyd y llongau cyflenwi bwyd y saeson (a oedd yn dod o iwerddon) a gorfodwyd hwy i droi yn ôl. Yr un dachteg unwaith eto; 'doedd y Saeson heb ddysgu o'u cangymeriadau ym Mrwydr Coed Llathen! Ac unwaith eto, defnyddiai'r Cymry eu bwau hirion a'u tachteg taro-a-ffoi yn llwyddiannus.

Erbyn 1258 roedd y Berfeddwlad a'r Gymru frodorol (Pura Wallia) yn ei feddiant ac roedd y rhan fwyaf o'r arweinwyr Cymreig wedi talu gwrogaeth iddo. Y flwyddyn hon, hefyd, y galwodd ei hun yn Dywysog Cymru gyfa.[7]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. [1] a40infobahn.co.uk
  2. Marc Morris A Great and Terrible King, Edward I and the Forging of Britain, tudalen 32
  3. [2] Ancestry.com
  4. [3] Welsh Battlefields
  5. [4]
  6. 6.0 6.1 'Bloody Battlefields of Cadfan', BBC
  7. Gwyddoniadur Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008, tudalen 582.