Brwydr Hyddgen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Brwydr Hyddgen - y gofeb
Brwydrau'r Normaniaid a'r Saeson yng Nghymru


Tua mis Mehefin 1401 ymladdwyd brwydr Hyddgen yn uchel ar lethrau Pumlumon, ar y ffin rhwng Powys a Cheredigion.

Ymladd[golygu]

Trechodd byddin fach Owain Glyndŵr lu mawr o Saeson oedd yn ceisio cyrraedd castell Aberystwyth. Yn ôl traddodiad dim ond tua 500 o ryfelwyr oedd gan Glyndŵr i wynebu byddin o tua 1500 o'r gelyn. Roedd mantais y tirwedd yn erbyn y Cymry, a oedd yn sefyll ar y tir isel wrth i'r Saeson ymosod ar i lawr o gyfeiriad y dwyrain. Ond credir mai ymsefydlwyr o Ffleminiaid o dde Sir Benfro oedd nifer helaeth o'r milwyr ym myddin y Saeson; milwyr dros dro oeddynt, heb lawer o ddisgyblaeth yn eu rhengoedd, er bod ganddyn' nhw arfau da.

Safle[golygu]

Mae union safle'r frwydr yn ansicr. Ceir llecyn o'r enw Hyddgen ar lethrau gogleddol Pumlumon, tua milltir a hanner i'r gogledd o gronfa ddŵr Nant-y-moch. Mae afonig fach Afon Hyddgen yn llifo o'r llecyn i'r de i ymuno'n fuan ag Afon Hengwm i lifo i Nant-y-moch, tarddle Afon Rheidol. Rhwng Afon Hyddgen ac Afon Hengwm saif bryn Corn Hyddgen (564m). Dwy filltir i'r gogledd o Hyddgen mae Creigiau Bwlch Hyddgen yn glogwyn syrth sylweddol uwchben Hengwm. Mae'r tir o gwmpas yn wlyb iawn dan droed ymhob tymor.

Cof[golygu]

Codwyd cofeb ger argau Nant-y-Moch a ddadorchuddiwyd gan Gwynfor Evans ar 16 Gorffennaf, 1977.

Cyfeiriadau[golygu]