Brwydr Pwll Melyn
Oddi ar Wicipedia
Brwydr a ymladdwyd ar neu o gwmpas 5 Mai 1405 yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr oedd Brwydr Pwll Melyn.
Ymladdwyd y frwydr ger bryn Pwll Melyn, gerllaw Brynbuga yn Sir Fynwy, rhwng byddin Gymreig dan fab Owain, Gruffudd ab Owain Glyndŵr, a byddin Seisnig dan yr Arglwydd Grey o Codnor. Gorchfygwyd y Cymry, a chymerwyd Gruffudd yn garcharor. Lladdwyd brawd Owain, Tudur ap Gruffudd, a John ap Hywel, abad Llantarnam.
[golygu] Llyfryddiaeth
- J. E. Lloyd, Owen Glendower (Rhydychen, Clarendon Press, 1931)