Brwydr Crogen

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Crogen
Rhan o ryfeloedd annibyniaeth Cymru
Dyddiad Haf 1165
Lleoliad Crogen, Sir Wrecsam
52°56′20″N 3°06′14″W / 52.939°N 3.104°W / 52.939; -3.104
Canlyniad Buddugoliaeth i'r Cymry
Cydryfelwyr
Cymry
Gwynedd,
Powys,
a Deheubarth
Saeson
Arweinwyr
Owain Gwynedd Harri II
Nerth
anhysbys anhysbys
Anafusion a cholledion
bron dim anhysbys ond pur sylweddol
Brwydrau'r Normaniaid a'r Saeson yng Nghymru

Ymladdwyd Brwydr Coed Ceiriog naill ai yn Aberceiriog neu Ddyffryn Ceiriog, yn 1165; syrthiodd llawer o’r Cymry ifainc a oedd wedi sleifio i ffwrdd o’r brif fyddin o dan Owain Gwynedd ar y naill law a llawer o flaengad byddin Harri II, brenin Lloegr ar y llall.

Ymladdwyd y sgarmes rhywle yng nghyffiniau Holt mewn lle o'r enw Aberceiriog neu bellach i lawr Dyffryn Ceiriog.

Yn 1164, ymunodd ‘Pura Wallia’, sef teyrnasoedd Gwynedd, Powys a Deheubarth, ynghyd ag arglwyddi Cymreig Rhwng Gwy a Hafren, â’i gilydd o dan arweinyddiaeth Owain Gwynedd yn ei ryfel dros gadw ymreolaeth y Gymru frodorol yn erbyn Harri II. Ar ôl buddugoliaethau gan y Cymry yn ardal Tegeingl, paratôdd brenin Lloegr fyddin fawr i ymosod ar Gymru yn fuan wedyn. Ymgynullodd byddin yr Angefiniaid yn arglwyddiaeth Croesoswallt yn haf 1165 tra arhosai’r Cymry yr ochr arall i Fynydd y Berwyn. Ceisiodd Harri II arwain ei fyddin i fyny Dyffryn Ceiriog gyda'r bwriad o groesi'r Berwyn a thorri'r llinell rhwng gogledd a de Cymru. Roedd mintai o’r Cymry yn aros eu cyfle. Ar ôl aros i'r Angefiniaid gyrraedd naill ai Aberceiriog neu Ddyffryn Ceiriog, ymosodasant ar flaengad byddin yr Angefiniaid gyda nifer o ddewrion yn syrthio ar y ddwy ochr. Gellir cyfeirio at y rhagod fel Brwydr Coed Ceiriog. Yn bwysicach byth roedd y tywydd yn erbyn Harri. Glawiodd yn drwm a suddai ei farchogion ar eu meirch rhyfel trwm i'r llaid ac felly hefyd y milwyr traed. Ffôdd gweddill y fyddin yn ôl i'r Gororau ac roedd ymgyrch brenin Lloegr ar ben.

Credir na fu colledion enfawr, ond er hynny roedd hon yn ddihangfa fawr i'r Cymry a ystyrir gan rai haneswyr yn dystiolaeth o statws arweinyddol Owain Gwynedd, neu 'Owain Fawr', chwedl Brut y Tywysogion. Fodd bynnag, y ffaith bwysicaf am yr ymgyrch hwn yw bod byddin ddirfawr yr Angefiniaid wedi’i threchu gan natur yn hytrach na chan wrthsafiad y Cymry mewn rhagod neu sgarmes na ellir ei hystyried yn frwydr lawn, er gwaethaf i David Powel, hanesydd o Oes Elisabeth I, roi’r enw, ‘Brwydr Crogen’, arni. Fodd bynnag, anwadal yw ei waith fel ffynhonnell hanesyddol a roes fod i fythau eraill yn ogystal, fel Llongau Madog ac Edwart Iaf yn cyflwyno’i faban, Edwart o Gaernarfon, i’r Cymry yn ei gastell newydd fel eu tywysog.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • John Davies, Hanes Cymru (1990), t. 121.
  • Huw Pryce, Tywysogion (2006), t. 68. ‘Owain Gwynedd’.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]